Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 10

10 Paham, Arglwydd, y sefi o bell? yr ymguddi yn amser cyfyngder? Yr annuwiol mewn balchder a erlid y tlawd: dalier hwynt yn y bwriadau a ddychmygasant. Canys yr annuwiol a ymffrostia am ewyllys ei galon; ac a fendithia y cybydd, yr hwn y mae yr Arglwydd yn ei ffieiddio. Yr annuwiol, gan uchder ei ffroen, ni chais Dduw: nid yw Duw yn ei holl feddyliau ef. Ei ffyrdd sydd flin bob amser; uchel yw dy farnedigaethau allan o’i olwg ef: chwythu y mae yn erbyn ei holl elynion. Dywedodd yn ei galon, Ni’m symudir: oherwydd ni byddaf mewn drygfyd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth. Ei enau sydd yn llawn melltith, a dichell, a thwyll: dan ei dafod y mae camwedd ac anwiredd. Y mae efe yn eistedd yng nghynllwynfa y pentrefi: mewn cilfachau y lladd efe y gwirion: ei lygaid a dremiant yn ddirgel ar y tlawd. Efe a gynllwyna mewn dirgelwch megis llew yn ei ffau: cynllwyn y mae i ddal y tlawd: efe a ddeil y tlawd, gan ei dynnu i’w rwyd. 10 Efe a ymgryma, ac a ymostwng, fel y cwympo tyrfa trueiniaid gan ei gedyrn ef. 11 Dywedodd yn ei galon, Anghofiodd Duw: cuddiodd ei wyneb; ni wêl byth. 12 Cyfod, Arglwydd; O Dduw, dyrcha dy law: nac anghofia y cystuddiol. 13 Paham y dirmyga yr annuwiol Dduw? dywedodd yn ei galon, Nid ymofynni. 14 Gwelaist hyn; canys ti a ganfyddi anwiredd a cham, i roddi tâl â’th ddwylo dy hun: arnat ti y gedy y tlawd; ti yw cynorthwywr yr amddifad. 15 Tor fraich yr annuwiol a’r drygionus: cais ei ddrygioni ef hyd na chaffech ddim. 16 Yr Arglwydd sydd frenin byth ac yn dragywydd: difethwyd y cenhedloedd allan o’i dir ef. 17 Arglwydd, clywaist ddymuniad y tlodion: paratôi eu calon hwynt, gwrendy dy glust arnynt; 18 I farnu yr amddifad a’r gorthrymedig, fel na chwanego dyn daearol beri ofn mwyach.

Jeremeia 7:1-15

Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd, gan ddywedyd, Saf di ym mhorth tŷ yr Arglwydd, a chyhoedda y gair hwn yno, a dywed, Gwrandewch air yr Arglwydd, chwi holl Jwda, y rhai a ddeuwch i mewn trwy y pyrth hyn i addoli yr Arglwydd. Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, Gwellhewch eich ffyrdd, a’ch gweithredoedd; ac mi a wnaf i chwi drigo yn y man yma. Nac ymddiriedwch mewn geiriau celwyddog, gan ddywedyd, Teml yr Arglwydd, teml yr Arglwydd, teml yr Arglwydd ydynt. Canys os gan wellhau y gwellhewch eich ffyrdd a’ch gweithredoedd; os gan wneuthur y gwnewch farn rhwng gŵr a’i gymydog; Ac ni orthrymwch y dieithr, yr amddifad, a’r weddw; ac ni thywelltwch waed gwirion yn y fan hon; ac ni rodiwch ar ôl duwiau dieithr, i’ch niwed eich hun; Yna y gwnaf i chwi drigo yn y fan hon, yn y tir a roddais i’ch tadau chwi, yn oes oesoedd.

Wele chwi yn ymddiried mewn geiriau celwyddog ni wnânt les. Ai yn lladrata, yn lladd, ac yn godinebu, a thyngu anudon, ac arogldarthu i Baal, a rhodio ar ôl duwiau dieithr, y rhai nid adwaenoch; 10 Y deuwch ac y sefwch ger fy mron i yn y tŷ hwn, yr hwn y gelwir fy enw i arno, ac y dywedwch, Rhyddhawyd ni i wneuthur y ffieidd‐dra hyn oll? 11 Ai yn lloches lladron yr aeth y tŷ yma, ar yr hwn y gelwir fy enw i, gerbron eich llygaid? wele, minnau a welais hyn, medd yr Arglwydd. 12 Eithr, atolwg, ewch i’m lle, yr hwn a fu yn Seilo, lle y gosodais fy enw ar y cyntaf, ac edrychwch beth a wneuthum i hwnnw, oherwydd anwiredd fy mhobl Israel. 13 Ac yn awr, am wneuthur ohonoch yr holl weithredoedd hyn, medd yr Arglwydd, minnau a leferais wrthych, gan godi yn fore, a llefaru, eto ni chlywsoch; a gelwais arnoch, ond nid atebasoch: 14 Am hynny y gwnaf i’r tŷ hwn y gelwir fy enw arno, yr hwn yr ydych yn ymddiried ynddo, ac i’r lle a roddais i chwi ac i’ch tadau, megis y gwneuthum i Seilo. 15 A mi a’ch taflaf allan o’m golwg, fel y teflais eich holl frodyr, sef holl had Effraim.

Hebreaid 3:7-4:11

Am hynny, megis y mae’r Ysbryd Glân yn dywedyd, Heddiw, os gwrandewch ar ei leferydd ef, Na chaledwch eich calonnau, megis yn y cyffroad, yn nydd y profedigaeth yn y diffeithwch: Lle y temtiodd eich tadau fyfi, y profasant fi, ac y gwelsant fy ngweithredoedd ddeugain mlynedd. 10 Am hynny y digiais wrth y genhedlaeth honno, ac y dywedais, Y maent bob amser yn cyfeiliorni yn eu calonnau; ac nid adnabuant fy ffyrdd i: 11 Fel y tyngais yn fy llid, na chaent ddyfod i mewn i’m gorffwysfa. 12 Edrychwch, frodyr, na byddo un amser yn neb ohonoch galon ddrwg anghrediniaeth, gan ymado oddi wrth Dduw byw. 13 Eithr cynghorwch eich gilydd bob dydd tra gelwir hi Heddiw; fel na chaleder neb ohonoch trwy dwyll pechod. 14 Canys fe a’n gwnaed ni yn gyfranogion o Grist, os daliwn ddechreuad ein hyder yn sicr hyd y diwedd; 15 Tra dywedir, Heddiw, os gwrandewch ar ei leferydd ef, na chaledwch eich calonnau, megis yn y cyffroad. 16 Canys rhai, wedi gwrando, a’i digiasant ef: ond nid pawb a’r a ddaethant o’r Aifft trwy Moses. 17 Ond wrth bwy y digiodd efe ddeugain mlynedd? onid wrth y rhai a bechasent, y rhai y syrthiodd eu cyrff yn y diffeithwch? 18 Ac wrth bwy y tyngodd efe, na chaent hwy fyned i mewn i’w orffwysfa ef? onid wrth y rhai ni chredasant? 19 Ac yr ydym ni yn gweled na allent hwy fyned i mewn oherwydd anghrediniaeth.

Ofnwn gan hynny, gan fod addewid wedi ei adael i ni i fyned i mewn i’w orffwysfa ef, rhag bod neb ohonoch yn debyg i fod yn ôl. Canys i ninnau y pregethwyd yr efengyl, megis ag iddynt hwythau: eithr y gair a glybuwyd ni bu fuddiol iddynt hwy, am nad oedd wedi ei gyd‐dymheru â ffydd yn y rhai a’i clywsant. Canys yr ydym ni, y rhai a gredasom, yn myned i mewn i’r orffwysfa, megis y dywedodd efe, Fel y tyngais yn fy llid, Os ânt i mewn i’m gorffwysfa i: er bod y gweithredoedd wedi eu gwneuthur er seiliad y byd. Canys efe a ddywedodd mewn man am y seithfed dydd fel hyn; A gorffwysodd Duw y seithfed dydd oddi wrth ei holl weithredoedd. Ac yma drachefn, Os ânt i mewn i’m gorffwysfa i. Gan hynny, gan fod hyn wedi ei adael, fod rhai yn myned i mewn iddi, ac nad aeth y rhai y pregethwyd yn gyntaf iddynt i mewn, oherwydd anghrediniaeth; Trachefn, y mae efe yn pennu rhyw ddiwrnod, gan ddywedyd yn Dafydd, Heddiw, ar ôl cymaint o amser; megis y dywedir, Heddiw, os gwrandewch ar ei leferydd ef, na chaledwch eich calonnau. Canys pe dygasai Jesus hwynt i orffwysfa, ni soniasai efe ar ôl hynny am ddiwrnod arall. Y mae gan hynny orffwysfa eto yn ôl i bobl Dduw. 10 Canys yr hwn a aeth i mewn i’w orffwysfa ef, hwnnw hefyd a orffwysodd oddi wrth ei weithredoedd ei hun, megis y gwnaeth Duw oddi wrth yr eiddo yntau. 11 Byddwn ddyfal gan hynny i fyned i mewn i’r orffwysfa honno, fel na syrthio neb yn ôl yr un siampl o anghrediniaeth.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.