Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Jeremeia 1:4-10

Yna y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, Cyn i mi dy lunio di yn y groth, mi a’th adnabûm; a chyn dy ddyfod o’r groth, y sancteiddiais di; a mi a’th roddais yn broffwyd i’r cenhedloedd. Yna y dywedais, O Arglwydd Dduw, wele, ni fedraf ymadrodd; canys bachgen ydwyf fi.

Ond yr Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Na ddywed, Bachgen ydwyf fi: canys ti a ei at y rhai oll y’th anfonwyf, a’r hyn oll a orchmynnwyf i ti a ddywedi. Nac ofna rhag eu hwynebau hwynt: canys yr ydwyf fi gyda thi i’th waredu, medd yr Arglwydd. Yna yr estynnodd yr Arglwydd ei law, ac a gyffyrddodd â’m genau. A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Wele, rhoddais fy ngeiriau yn dy enau di. 10 Gwêl, heddiw y’th osodais ar y cenhedloedd, ac ar y teyrnasoedd, i ddiwreiddio, ac i dynnu i lawr, i ddifetha, ac i ddistrywio, i adeiladu, ac i blannu.

Salmau 71:1-6

71 Ynot ti, O Arglwydd, y gobeithiais; na’m cywilyddier byth. Achub fi, a gwared fi yn dy gyfiawnder: gostwng dy glust ataf, ac achub fi. Bydd i mi yn drigfa gadarn, i ddyfod iddi bob amser: gorchmynnaist fy achub; canys ti yw fy nghraig a’m hamddiffynfa. Gwared fi, O fy Nuw, o law yr annuwiol, o law yr anghyfiawn a’r traws. Canys ti yw fy ngobaith, O Arglwydd Dduw; fy ymddiried o’m hieuenctid. Wrthyt ti y’m cynhaliwyd o’r bru; ti a’m tynnaist o groth fy mam: fy mawl fydd yn wastad amdanat ti.

Hebreaid 12:18-29

18 Canys ni ddaethoch chwi at y mynydd teimladwy sydd yn llosgi gan dân, a chwmwl, a thywyllwch, a thymestl, 19 A sain utgorn, a llef geiriau; yr hon pwy bynnag a’i clywsant, a ddeisyfasant na chwanegid yr ymadrodd wrthynt: 20 (Oblegid ni allent hwy oddef yr hyn a orchmynasid; Ac os bwystfil a gyffyrddai â’r mynydd, efe a labyddir, neu a wenir â phicell. 21 Ac mor ofnadwy oedd y golwg, ag y dywedodd Moses, Yr ydwyf yn ofni ac yn crynu.) 22 Eithr chwi a ddaethoch i fynydd Seion, ac i ddinas y Duw byw, y Jerwsalem nefol, ac at fyrddiwn o angylion, 23 I gymanfa a chynulleidfa’r rhai cyntaf‐anedig, y rhai a ysgrifennwyd yn y nefoedd, ac at Dduw, Barnwr pawb, ac at ysbrydoedd y cyfiawn y rhai a berffeithiwyd, 24 Ac at Iesu, Cyfryngwr y testament newydd, a gwaed y taenelliad, yr hwn sydd yn dywedyd pethau gwell na’r eiddo Abel. 25 Edrychwch na wrthodoch yr hwn sydd yn llefaru. Oblegid oni ddihangodd y rhai a wrthodasant yr hwn oedd yn llefaru ar y ddaear, mwy o lawer ni ddihangwn ni, y rhai ydym yn troi ymaith oddi wrth yr hwn sydd yn llefaru o’r nef: 26 Llef yr hwn y pryd hwnnw a ysgydwodd y ddaear: ac yn awr a addawodd, gan ddywedyd, Eto unwaith yr wyf yn cynhyrfu nid yn unig y ddaear, ond y nef hefyd. 27 A’r Eto unwaith hynny, sydd yn hysbysu symudiad y pethau a ysgydwir, megis pethau wedi eu gwneuthur, fel yr arhoso’r pethau nid ysgydwir. 28 Oherwydd paham, gan ein bod ni yn derbyn teyrnas ddi‐sigl, bydded gennym ras, trwy’r hwn y gwasanaethom Dduw wrth ei fodd, gyda gwylder a pharchedig ofn: 29 Oblegid ein Duw ni sydd dân ysol.

Luc 13:10-17

10 Ac yr oedd efe yn dysgu yn un o’r synagogau ar y Saboth.

11 Ac wele, yr oedd gwraig ac ynddi ysbryd gwendid ddeunaw mlynedd, ac oedd wedi cydgrymu, ac ni allai hi mewn modd yn y byd ymunioni. 12 Pan welodd yr Iesu hon, efe a’i galwodd hi ato, ac a ddywedodd wrthi, Ha wraig, rhyddhawyd di oddi wrth dy wendid. 13 Ac efe a roddes ei ddwylo arni: ac yn ebrwydd hi a unionwyd, ac a ogoneddodd Dduw. 14 A’r archsynagogydd a atebodd yn ddicllon, am i’r Iesu iacháu ar y Saboth, ac a ddywedodd wrth y bobl, Chwe diwrnod sydd, yn y rhai y dylid gweithio: ar y rhai hyn gan hynny deuwch, a iachaer chwi: ac nid ar y dydd Saboth. 15 Am hynny yr Arglwydd a’i hatebodd ef, ac a ddywedodd, O ragrithiwr, oni ollwng pob un ohonoch ar y Saboth ei ych neu ei asyn o’r preseb, a’i arwain i’r dwfr? 16 Ac oni ddylai hon, a hi yn ferch i Abraham, yr hon a rwymodd Satan, wele, ddeunaw mlynedd, gael ei rhyddhau o’r rhwym hwn ar y dydd Saboth? 17 Ac fel yr oedd efe yn dywedyd y pethau hyn, ei holl wrthwynebwyr ef a gywilyddiasant: a’r holl bobl a lawenychasant am yr holl bethau gogoneddus a wneid ganddo.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.