Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 74

Maschil Asaff.

74 Paham, Dduw, y’n bwriaist heibio yn dragywydd, ac y myga dy ddigofaint yn erbyn defaid dy borfa? Cofia dy gynulleidfa, yr hon a brynaist gynt; a llwyth dy etifeddiaeth, yr hwn a waredaist; mynydd Seion hwn, y preswyli ynddo. Dyrcha dy draed at anrhaith dragwyddol; sef at yr holl ddrwg a wnaeth y gelyn yn y cysegr. Dy elynion a ruasant yng nghanol dy gynulleidfaoedd; gosodasant eu banerau yn arwyddion. Hynod oedd gŵr, fel y codasai fwyeill mewn drysgoed. Ond yn awr y maent yn dryllio el cherfiadau ar unwaith â bwyeill ac â morthwylion. Bwriasant dy gysegroedd yn tân; hyd lawr yr halogasant breswylfa dy enw. Dywedasant yn eu calonnau, Cydanrheithiwn hwynt: llosgasant holl synagogau Duw yn y tir. Ni welwn ein harwyddion: nid oes broffwyd mwy, nid oes gennym a ŵyr pa hyd. 10 Pa hyd, Dduw, y gwarthrudda y gwrthwynebwr? a gabla y gelyn dy enw yn dragywydd? 11 Paham y tynni yn ei hôl dy law, sef dy ddeheulaw? tyn hi allan o ganol dy fynwes. 12 Canys Duw yw fy Mrenin o’r dechreuad, gwneuthurwr iachawdwriaeth o fewn y tir. 13 Ti yn dy nerth a berthaist y môr: drylliaist bennau dreigiau yn y dyfroedd. 14 Ti a ddrylliaist ben lefiathan; rhoddaist ef yn fwyd i’r bobl yn yr anialwch. 15 Ti a holltaist y ffynnon a’r afon; ti a ddihysbyddaist afonydd cryfion. 16 Y dydd sydd eiddot ti, y nos hefyd sydd eiddot ti: ti a baratoaist oleuni a haul. 17 Ti a osodaist holl derfynau y ddaear: ti a luniaist haf a gaeaf. 18 Cofia hyn, i’r gelyn gablu, O Arglwydd, ac i’r bobl ynfyd ddifenwi dy enw. 19 Na ddyro enaid dy durtur i gynulleidfa y gelynion: nac anghofia gynulleidfa dy drueiniaid byth. 20 Edrych ar y cyfamod: canys llawn yw tywyll leoedd y ddaear o drigfannau trawster. 21 Na ddychweled y tlawd yn waradwyddus: molianned y truan a’r anghenus dy enw. 22 Cyfod, O Dduw, dadlau dy ddadl: cofia dy waradwydd gan yr ynfyd beunydd. 23 Nac anghofia lais dy elynion: dadwrdd y rhai a godant i’th erbyn sydd yn dringo yn wastadol.

Eseia 27

27 Ydydd hwnnw yr ymwêl yr Arglwydd â’i gleddyf caled, mawr, a chadarn, â lefiathan y sarff hirbraff, ie, â lefiathan y sarff dorchog: ac efe a ladd y ddraig sydd yn y môr. Yn y dydd hwnnw cenwch iddi, Gwinllan y gwin coch. Myfi yr Arglwydd a’i ceidw; ar bob moment y dyfrhaf hi: cadwaf hi nos a dydd, rhag i neb ei drygu. Nid oes lidiowgrwydd ynof: pwy a osodai fieri a drain yn fy erbyn mewn rhyfel? myfi a awn trwyddynt, mi a’u llosgwn hwynt ynghyd. Neu ymafled yn fy nerth i, fel y gwnelo heddwch â mi, ac efe a wna heddwch â mi. Efe a wna i hiliogaeth Jacob wreiddio; Israel a flodeua, ac a flaendardda; a hwy a lanwant wyneb y byd â chnwd.

A drawodd efe ef fel y trawodd y rhai a’i trawsai ef? a laddwyd ef fel lladdfa ei laddedigion ef? Wrth fesur, pan êl allan, yr ymddadlau ag ef: y mae yn atal ei wynt garw ar ddydd dwyreinwynt. Am hynny trwy hyn y glanheir anwiredd Jacob; a dyna’r holl ffrwyth, tynnu ymaith ei bechod: pan wnelo efe holl gerrig yr allor fel cerrig calch briwedig, ni saif y llwyni na’r delwau. 10 Eto y ddinas gadarn fydd unig, a’r annedd wedi ei adael, a’i wrthod megis yn anialwch: yno y pawr y llo, ac y gorwedd, ac y difa ei blagur hi. 11 Pan wywo ei brig hi, hwy a dorrir: gwragedd a ddaw, ac a’i llosgant hi; canys nid pobl ddeallgar ydynt: am hynny yr hwn a’u gwnaeth ni thosturia wrthynt, a’r hwn a’u lluniodd ni thrugarha wrthynt.

12 A’r dydd hwnnw y bydd i’r Arglwydd ddyrnu, o ffrwd yr afon hyd afon yr Aifft: a chwi feibion Israel a gesglir bob yn un ac un. 13 Ac yn y dydd hwnnw yr utgenir ag utgorn mawr; yna y daw y rhai ar ddarfod amdanynt yn nhir Asyria, a’r rhai a wasgarwyd yn nhir yr Aifft, ac a addolant yr Arglwydd yn y mynydd sanctaidd yn Jerwsalem.

Luc 19:45-48

45 Ac efe a aeth i mewn i’r deml, ac a ddechreuodd fwrw allan y rhai oedd yn gwerthu ynddi, ac yn prynu; 46 Gan ddywedyd wrthynt, Y mae yn ysgrifenedig, Fy nhŷ i, tŷ gweddi yw: eithr chwi a’i gwnaethoch yn ogof lladron. 47 Ac yr oedd efe beunydd yn athrawiaethu yn y deml. A’r archoffeiriaid, a’r ysgrifenyddion, a phenaethiaid y bobl, a geisient ei ddifetha ef; 48 Ac ni fedrasant gael beth a wnaent: canys yr holl bobl oedd yn glynu wrtho i wrando arno.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.