Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Maschil Asaff.
74 Paham, Dduw, y’n bwriaist heibio yn dragywydd, ac y myga dy ddigofaint yn erbyn defaid dy borfa? 2 Cofia dy gynulleidfa, yr hon a brynaist gynt; a llwyth dy etifeddiaeth, yr hwn a waredaist; mynydd Seion hwn, y preswyli ynddo. 3 Dyrcha dy draed at anrhaith dragwyddol; sef at yr holl ddrwg a wnaeth y gelyn yn y cysegr. 4 Dy elynion a ruasant yng nghanol dy gynulleidfaoedd; gosodasant eu banerau yn arwyddion. 5 Hynod oedd gŵr, fel y codasai fwyeill mewn drysgoed. 6 Ond yn awr y maent yn dryllio el cherfiadau ar unwaith â bwyeill ac â morthwylion. 7 Bwriasant dy gysegroedd yn tân; hyd lawr yr halogasant breswylfa dy enw. 8 Dywedasant yn eu calonnau, Cydanrheithiwn hwynt: llosgasant holl synagogau Duw yn y tir. 9 Ni welwn ein harwyddion: nid oes broffwyd mwy, nid oes gennym a ŵyr pa hyd. 10 Pa hyd, Dduw, y gwarthrudda y gwrthwynebwr? a gabla y gelyn dy enw yn dragywydd? 11 Paham y tynni yn ei hôl dy law, sef dy ddeheulaw? tyn hi allan o ganol dy fynwes. 12 Canys Duw yw fy Mrenin o’r dechreuad, gwneuthurwr iachawdwriaeth o fewn y tir. 13 Ti yn dy nerth a berthaist y môr: drylliaist bennau dreigiau yn y dyfroedd. 14 Ti a ddrylliaist ben lefiathan; rhoddaist ef yn fwyd i’r bobl yn yr anialwch. 15 Ti a holltaist y ffynnon a’r afon; ti a ddihysbyddaist afonydd cryfion. 16 Y dydd sydd eiddot ti, y nos hefyd sydd eiddot ti: ti a baratoaist oleuni a haul. 17 Ti a osodaist holl derfynau y ddaear: ti a luniaist haf a gaeaf. 18 Cofia hyn, i’r gelyn gablu, O Arglwydd, ac i’r bobl ynfyd ddifenwi dy enw. 19 Na ddyro enaid dy durtur i gynulleidfa y gelynion: nac anghofia gynulleidfa dy drueiniaid byth. 20 Edrych ar y cyfamod: canys llawn yw tywyll leoedd y ddaear o drigfannau trawster. 21 Na ddychweled y tlawd yn waradwyddus: molianned y truan a’r anghenus dy enw. 22 Cyfod, O Dduw, dadlau dy ddadl: cofia dy waradwydd gan yr ynfyd beunydd. 23 Nac anghofia lais dy elynion: dadwrdd y rhai a godant i’th erbyn sydd yn dringo yn wastadol.
24 Am hynny, megis ag yr ysa y ffagl dân y sofl, ac y difa y fflam y mân us: felly y bydd eu gwreiddyn hwynt yn bydredd, a’u blodeuyn a gyfyd i fyny fel llwch; am iddynt ddiystyru cyfraith Arglwydd y lluoedd, a dirmygu gair Sanct yr Israel. 25 Am hynny yr enynnodd llid yr Arglwydd yn erbyn ei bobl, ac yr estynnodd efe ei law arnynt, ac a’u trawodd hwynt; a chrynodd y mynyddoedd, a bu eu celanedd hwynt yn rhwygedig yng nghanol yr heolydd. Er hyn oll ni ddychwelodd ei lid ef, ond eto y mae ei law ef wedi ei hestyn allan.
26 Ac efe a gyfyd faner i’r cenhedloedd o bell, ac a chwibana arnynt hwy o eithaf y ddaear: ac wele, ar frys yn fuan y deuant. 27 Ni bydd un blin na thramgwyddedig yn eu plith; ni huna yr un, ac ni chwsg: ac ni ddatodir gwregys ei lwynau, ac ni ddryllir carrai ei esgidiau. 28 Yr hwn sydd â’i saethau yn llymion, a’i holl fwâu yn anelog: carnau ei feirch ef a gyfrifir fel callestr, a’i olwynion fel corwynt. 29 Ei ruad fydd fel llew; efe a rua fel cenawon llew: efe a chwyrna hefyd, ac a ymeifl yn yr ysglyfaeth; efe a ddianc hefyd, ac a’i dwg ymaith yn ddiogel, ac ni bydd achubydd. 30 Ac efe a rua arnynt y dydd hwnnw, fel rhuad y môr: os edrychir ar y tir, wele dywyllwch, a chyfyngder, a’r goleuni a dywyllir yn ei nefoedd.
44 Tabernacl y dystiolaeth oedd ymhlith ein tadau yn yr anialwch, fel y gorchmynasai yr hwn a ddywedai wrth Moses, am ei wneuthur ef yn ôl y portreiad a welsai. 45 Yr hwn a ddarfu i’n tadau ni ei gymryd, a’i ddwyn i mewn gydag Iesu i berchenogaeth y Cenhedloedd, y rhai a yrrodd Duw allan o flaen ein tadau, hyd yn nyddiau Dafydd; 46 Yr hwn a gafodd ffafr gerbron Duw, ac a ddymunodd gael tabernacl i Dduw Jacob. 47 Eithr Solomon a adeiladodd dŷ iddo ef. 48 Ond nid yw’r Goruchaf yn trigo mewn temlau o waith dwylo; fel y mae’r proffwyd yn dywedyd, 49 Y nef yw fy ngorseddfainc, a’r ddaear yw troedfainc fy nhraed. Pa dŷ a adeiledwch i mi? medd yr Arglwydd; neu pa le fydd i’m gorffwysfa i? 50 Onid fy llaw i a wnaeth hyn oll?
51 Chwi rai gwargaled, a dienwaededig o galon ac o glustiau, yr ydych chwi yn wastad yn gwrthwynebu’r Ysbryd Glân: megis eich tadau, felly chwithau. 52 Pa un o’r proffwydi ni ddarfu i’ch tadau chwi ei erlid? a hwy a laddasant y rhai oedd yn rhagfynegi dyfodiad y Cyfiawn, i’r hwn yr awron y buoch chwi fradwyr a llofruddion: 53 Y rhai a dderbyniasoch y gyfraith trwy drefniad angylion, ac nis cadwasoch.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.