Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
I’r Pencerdd ar Sosannim Eduth, Salm Asaff.
80 Gwrando, O Fugail Israel, yr hwn wyt yn arwain Joseff fel praidd; ymddisgleiria, yr hwn wyt yn eistedd rhwng y ceriwbiaid. 2 Cyfod dy nerth o flaen Effraim a Benjamin a Manasse, a thyred yn iachawdwriaeth i ni.
8 Mudaist winwydden o’r Aifft: bwriaist y cenhedloedd allan, a phlennaist hi. 9 Arloesaist o’i blaen, a pheraist i’w gwraidd wreiddio, a hi a lanwodd y tir. 10 Cuddiwyd y mynyddoedd gan ei chysgod; a’i changhennau oedd fel cedrwydd rhagorol. 11 Hi a estynnodd ei changau hyd y môr, a’i blagur hyd yr afon. 12 Paham y rhwygaist ei chaeau, fel y tynno pawb a elo heibio ar hyd y ffordd ei grawn hi? 13 Y baedd o’r coed a’i turia, a bwystfil y maes a’i pawr. 14 O Dduw y lluoedd, dychwel, atolwg: edrych o’r nefoedd, a chenfydd, ac ymwêl â’r winwydden hon; 15 A’r winllan a blannodd dy ddeheulaw, ac â’r planhigyn a gadarnheaist i ti dy hun. 16 Llosgwyd hi â thân; torrwyd hi i lawr: gan gerydd dy wyneb y difethir hwynt. 17 Bydded dy law dros ŵr dy ddeheulaw, a thros fab y dyn yr hwn a gadarnheaist i ti dy hun. 18 Felly ni chiliwn yn ôl oddi wrthyt ti: bywha ni, a ni a alwn ar dy enw. 19 O Arglwydd Dduw y lluoedd, dychwel ni, llewyrcha dy wyneb; a ni a achubir.
18 Yn y dydd hwnnw y tyn yr Arglwydd ymaith addurn yr esgidiau, y rhwydwaith hefyd, a’r lloerawg wisgoedd, 19 Y cadwynau, a’r breichledau, a’r moledau, 20 Y penguwch, ac addurn y coesau, a’r ysnodennau, a’r dwyfronegau, a’r clustlysau, 21 Y modrwyau, ac addurn y trwyn, 22 Y gwisgoedd symudliw, a’r mentyll, a’r misyrnau, a’r crychnodwyddau, 23 Y drychau hefyd, a’r lliain meinwych, a’r cocyllau, a’r gynau. 24 A bydd yn lle perarogl, ddrewi; bydd hefyd yn lle gwregys, rwygiad; ac yn lle iawn drefn gwallt, foelni; ac yn lle dwyfronneg, gwregys o sachliain; a llosgfa yn lle prydferthwch. 25 Dy wŷr a syrthiant gan y cleddyf, a’th gadernid trwy ryfel. 26 A’i phyrth hi a ofidiant, ac a alarant: a hithau yn anrheithiedig a eistedd ar y ddaear.
4 Ac yn y dydd hwnnw saith o wragedd a ymaflant mewn un gŵr, gan ddywedyd, Ein bara ein hun a fwytawn, a’n dillad ein hun a wisgwn: yn unig galwer dy enw di arnom ni; cymer ymaith ein gwarth ni. 2 Y pryd hwnnw y bydd Blaguryn yr Arglwydd yn brydferthwch ac yn ogoniant; a ffrwyth y ddaear yn rhagorol ac yn hardd i’r rhai a ddianghasant o Israel. 3 A bydd, am yr hwn a adewir yn Seion, ac a weddillir yn Jerwsalem, y dywedir wrtho, O sanct; sef pob un a’r a ysgrifennwyd ymhlith y rhai byw yn Jerwsalem: 4 Pan ddarffo i’r Arglwydd olchi budreddi merched Seion, a charthu gwaed Jerwsalem o’i chanol, mewn ysbryd barn, ac mewn ysbryd llosgfa. 5 A’r Arglwydd a grea ar bob trigfa o fynydd Seion, ac ar ei gymanfaoedd, gwmwl a mwg y dydd, a llewyrch tân fflamllyd y nos: canys ar yr holl ogoniant y bydd amddiffyn. 6 A phabell fydd yn gysgod y dydd rhag gwres, ac yn noddfa ac yn ddiddos rhag tymestl a rhag glaw.
15 Am hynny pan weloch y ffieidd‐dra anghyfanheddol, a ddywedwyd trwy Daniel y proffwyd, yn sefyll yn y lle sanctaidd, (y neb a ddarlleno, ystyried;) 16 Yna y rhai a fyddant yn Jwdea, ffoant i’r mynyddoedd. 17 Y neb a fyddo ar ben y tŷ, na ddisgynned i gymryd dim allan o’i dŷ: 18 A’r hwn a fyddo yn y maes, na ddychweled yn ei ôl i gymryd ei ddillad. 19 A gwae’r rhai beichiogion, a’r rhai yn rhoi bronnau, yn y dyddiau hynny. 20 Eithr gweddïwch na byddo eich fföedigaeth yn y gaeaf, nac ar y dydd Saboth: 21 Canys y pryd hwnnw y bydd gorthrymder mawr, y fath ni bu o ddechrau’r byd hyd yr awr hon, ac ni bydd chwaith. 22 Ac oni bai fyrhau’r dyddiau hynny, ni fuasai gadwedig un cnawd oll: eithr er mwyn yr etholedigion fe fyrheir y dyddiau hynny. 23 Yna os dywed neb wrthych, Wele, llyma Grist, neu llyma; na chredwch. 24 Canys cyfyd gau Gristiau, a gau broffwydi, ac a roddant arwyddion mawrion a rhyfeddodau, hyd oni thwyllant, pe byddai bosibl, ie, yr etholedigion. 25 Wele, rhagddywedais i chwi. 26 Am hynny, os dywedant wrthych, Wele, y mae efe yn y diffeithwch; nac ewch allan: wele, yn yr ystafelloedd; na chredwch. 27 Oblegid fel y daw’r fellten o’r dwyrain, ac y tywynna hyd y gorllewin; felly hefyd y bydd dyfodiad Mab y dyn.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.