Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Eseia 1:1

Gweledigaeth Eseia mab Amos, yr hon a welodd efe am Jwda a Jerwsalem, yn nyddiau Usseia, Jotham, Ahas, a Heseceia, brenhinoedd Jwda.

Eseia 1:10-20

10 Gwrandewch air yr Arglwydd, tywysogion Sodom; clywch gyfraith ein Duw ni, pobl Gomorra. 11 Beth yw lluosowgrwydd eich aberthau i mi? medd yr Arglwydd: llawn ydwyf o boethaberthau hyrddod, ac o fraster anifeiliaid breision; gwaed bustych hefyd, ac ŵyn, a bychod, nid ymhyfrydais ynddynt. 12 Pan ddeloch i ymddangos ger fy mron, pwy a geisiodd hyn ar eich llaw, sef sengi fy nghynteddau? 13 Na chwanegwch ddwyn offrwm ofer: arogl‐darth sydd ffiaidd gennyf; ni allaf oddef y newyddloerau na’r Sabothau, cyhoeddi cymanfa; anwiredd ydyw, sef yr uchel ŵyl gyfarfod. 14 Eich lleuadau newydd a’ch gwyliau gosodedig a gasaodd fy enaid: y maent yn faich arnaf; blinais yn eu dwyn. 15 A phan estynnoch eich dwylo, mi a guddiaf fy llygaid rhagoch: hefyd pan weddïoch lawer, ni wrandawaf: eich dwylo sydd lawn o waed.

16 Ymolchwch, ymlanhewch, bwriwch ymaith ddrygioni eich gweithredoedd oddi ger bron fy llygaid; peidiwch â gwneuthur drwg; 17 Dysgwch wneuthur daioni: ceisiwch farn, gwnewch uniondeb i’r gorthrymedig, gwnewch farn i’r amddifad, dadleuwch dros y weddw. 18 Deuwch yr awr hon, ac ymresymwn, medd yr Arglwydd: pe byddai eich pechodau fel ysgarlad, ânt cyn wynned â’r eira; pe cochent fel porffor, byddant fel gwlân. 19 Os byddwch ewyllysgar ac ufudd, daioni y tir a fwytewch. 20 Ond os gwrthodwch, ac os anufuddhewch, â chleddyf y’ch ysir: canys genau yr Arglwydd a’i llefarodd.

Salmau 50:1-8

Salm Asaff.

50 Duw y duwiau, sef yr Arglwydd, a lefarodd, ac a alwodd y ddaear, o godiad haul hyd ei fachludiad. Allan o Seion, perffeithrwydd tegwch, y llewyrchodd Duw. Ein Duw ni a ddaw, ac ni bydd distaw: tân a ysa o’i flaen ef, a thymestl ddirfawr fydd o’i amgylch. Geilw ar y nefoedd oddi uchod, ac ar y ddaear, i farnu ei bobl. Cesglwch fy saint ynghyd ataf fi, y rhai a wnaethant gyfamod â mi trwy aberth. A’r nefoedd a fynegant ei gyfiawnder ef: canys Duw ei hun sydd Farnwr. Sela. Clywch, fy mhobl, a mi a lefaraf; O Israel, a mi a dystiolaethaf i’th erbyn: Duw, sef dy Dduw di, ydwyf fi. Nid am dy aberthau y’th geryddaf, na’th boethoffrymau, am nad oeddynt ger fy mron i yn wastad.

Salmau 50:22-23

22 Deellwch hyn yn awr, y rhai ydych yn anghofio Duw; rhag i mi eich rhwygo, ac na byddo gwaredydd. 23 Yr hwn a abertho foliant, a’m gogonedda i: a’r neb a osodo ei ffordd yn iawn, dangosaf iddo iachawdwriaeth Duw.

Hebreaid 11:1-3

11 Ffydd yn wir yw sail y pethau yr ydys yn eu gobeithio, a sicrwydd y pethau nid ydys yn eu gweled. Oblegid trwyddi hi y cafodd yr henuriaid air da. Wrth ffydd yr ydym yn deall wneuthur y bydoedd trwy air Duw, yn gymaint nad o bethau gweledig y gwnaed y pethau a welir.

Hebreaid 11:8-16

Trwy ffydd, Abraham, pan ei galwyd, a ufuddhaodd, gan fyned i’r man yr oedd efe i’w dderbyn yn etifeddiaeth; ac a aeth allan, heb wybod i ba le yr oedd yn myned. Trwy ffydd yr ymdeithiodd efe yn nhir yr addewid, megis mewn tir dieithr, gan drigo mewn lluestai gydag Isaac a Jacob, cyd‐etifeddion o’r un addewid: 10 Canys disgwyl yr ydoedd am ddinas ag iddi sylfeini, saer ac adeiladydd yr hon yw Duw. 11 Trwy ffydd Sara hithau yn amhlantadwy, a dderbyniodd nerth i ymddŵyn had; ac wedi amser oedran, a esgorodd; oblegid ffyddlon y barnodd hi yr hwn a addawsai. 12 Oherwydd paham hefyd y cenhedlwyd o un, a hwnnw yn gystal â marw, cynifer â sêr y nef mewn lliaws, ac megis y tywod ar lan y môr, y sydd yn aneirif. 13 Mewn ffydd y bu farw’r rhai hyn oll, heb dderbyn yr addewidion, eithr o bell eu gweled hwynt, a chredu, a chyfarch, a chyfaddef mai dieithriaid a phererinion oeddynt ar y ddaear. 14 Canys y mae’r rhai sydd yn dywedyd y cyfryw bethau, yn dangos yn eglur eu bod yn ceisio gwlad. 15 Ac yn wir, pe buasent yn meddwl am y wlad honno, o’r hon y daethent allan, hwy a allasent gael amser i ddychwelyd: 16 Eithr yn awr gwlad well y maent hwy yn ei chwennych, hynny ydyw, un nefol: o achos paham nid cywilydd gan Dduw ei alw yn Dduw iddynt hwy: oblegid efe a baratôdd ddinas iddynt.

Luc 12:32-40

32 Nac ofna, braidd bychan: canys rhyngodd bodd i’ch Tad roddi i chwi y deyrnas. 33 Gwerthwch yr hyn sydd gennych, a rhoddwch elusen: gwnewch i chwi byrsau y rhai ni heneiddiant; trysor yn y nefoedd, yr hwn ni dderfydd, lle ni ddaw lleidr yn agos, ac ni lygra pryf. 34 Canys lle y mae eich trysor chwi, yno y bydd eich calon hefyd. 35 Bydded eich lwynau wedi eu hymwregysu, a’ch canhwyllau wedi eu golau: 36 A chwithau yn debyg i ddynion yn disgwyl eu harglwydd, pa bryd y dychwel o’r neithior; fel pan ddelo a churo, yr agoront iddo yn ebrwydd. 37 Gwyn eu byd y gweision hynny, y rhai a gaiff eu harglwydd, pan ddêl, yn neffro: yn wir, meddaf i chwi, efe a ymwregysa, ac a wna iddynt eistedd i lawr i fwyta, ac a ddaw, ac a wasanaetha arnynt hwy. 38 Ac os daw efe ar yr ail wyliadwriaeth, ac os ar y drydedd wyliadwriaeth y daw, a’u cael hwynt felly, gwyn eu byd y gweision hynny. 39 A hyn gwybyddwch, pe gwybuasai gŵr y tŷ pa awr y deuai’r lleidr, efe a wyliasai, ac ni adawsai gloddio ei dŷ trwodd. 40 A chwithau gan hynny, byddwch barod: canys yr awr ni thybioch, y daw Mab y dyn.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.