Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Salm Asaff.
50 Duw y duwiau, sef yr Arglwydd, a lefarodd, ac a alwodd y ddaear, o godiad haul hyd ei fachludiad. 2 Allan o Seion, perffeithrwydd tegwch, y llewyrchodd Duw. 3 Ein Duw ni a ddaw, ac ni bydd distaw: tân a ysa o’i flaen ef, a thymestl ddirfawr fydd o’i amgylch. 4 Geilw ar y nefoedd oddi uchod, ac ar y ddaear, i farnu ei bobl. 5 Cesglwch fy saint ynghyd ataf fi, y rhai a wnaethant gyfamod â mi trwy aberth. 6 A’r nefoedd a fynegant ei gyfiawnder ef: canys Duw ei hun sydd Farnwr. Sela. 7 Clywch, fy mhobl, a mi a lefaraf; O Israel, a mi a dystiolaethaf i’th erbyn: Duw, sef dy Dduw di, ydwyf fi. 8 Nid am dy aberthau y’th geryddaf, na’th boethoffrymau, am nad oeddynt ger fy mron i yn wastad.
22 Deellwch hyn yn awr, y rhai ydych yn anghofio Duw; rhag i mi eich rhwygo, ac na byddo gwaredydd. 23 Yr hwn a abertho foliant, a’m gogonedda i: a’r neb a osodo ei ffordd yn iawn, dangosaf iddo iachawdwriaeth Duw.
2 Gwrandewch, nefoedd; clyw dithau, ddaear: canys yr Arglwydd a lefarodd, Megais a meithrinais feibion, a hwy a wrthryfelasant i’m herbyn. 3 Yr ych a edwyn ei feddiannydd, a’r asyn breseb ei berchennog: ond Israel nid edwyn, fy mhobl ni ddeall. 4 O genhedlaeth bechadurus, pobl lwythog o anwiredd, had y rhai drygionus, meibion yn llygru: gwrthodasant yr Arglwydd, digiasant Sanct Israel, ciliasant yn ôl!
5 I ba beth y’ch trewir mwy? cildynrwydd a chwanegwch: y pen oll sydd glwyfus, a’r holl galon yn llesg. 6 O wadn y troed hyd y pen nid oes dim cyfan ynddo; ond archollion, a chleisiau, a gwelïau crawnllyd: ni wasgwyd hwynt, ac ni rwymwyd, ac ni thynerwyd ag olew. 7 Y mae eich gwlad yn anrheithiedig, eich dinasoedd wedi eu llosgi â thân: eich tir â dieithriaid yn ei ysu yn eich gŵydd, ac wedi ei anrheithio fel ped ymchwelai estroniaid ef. 8 Merch Seion a adewir megis lluesty mewn gwinllan, megis llety mewn gardd cucumerau, megis dinas warchaeëdig. 9 Oni buasai i Arglwydd y lluoedd adael i ni ychydig iawn o weddill, fel Sodom y buasem, a chyffelyb fuasem i Gomorra.
21 Pa wedd yr aeth y ddinas ffyddlon yn butain! cyflawn fu o farn: lletyodd cyfiawnder ynddi; ond yr awr hon lleiddiaid. 22 Dy arian a aeth yn sothach, dy win sydd wedi ei gymysgu â dwfr: 23 Dy dywysogion sydd gyndyn, ac yn gyfranogion â lladron; pob un yn caru rhoddion, ac yn dilyn gwobrau: ni farnant yr amddifad, a chŵyn y weddw ni chaiff ddyfod atynt.
19 Na thrysorwch i chwi drysorau ar y ddaear, lle y mae gwyfyn a rhwd yn llygru, a lle y mae lladron yn cloddio trwodd ac yn lladrata; 20 Eithr trysorwch i chwi drysorau yn y nef, lle nid oes na gwyfyn na rhwd yn llygru, a lle ni chloddia lladron trwodd ac ni ladratânt. 21 Canys lle y mae eich trysor, yno y bydd eich calon hefyd. 22 Cannwyll y corff yw’r llygad: am hynny o bydd dy lygad yn syml, dy holl gorff fydd yn olau. 23 Eithr os bydd dy lygad yn ddrwg, dy holl gorff fydd yn dywyll. Am hynny os bydd y goleuni sydd ynot yn dywyllwch, pa faint fydd y tywyllwch!
24 Ni ddichon neb wasanaethu dau arglwydd; canys naill ai efe a gasâ y naill, ac a gâr y llall; ai efe a ymlŷn wrth y naill, ac a esgeulusa’r llall. Ni ellwch wasanaethu Duw a mamon.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.