Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 50:1-8

Salm Asaff.

50 Duw y duwiau, sef yr Arglwydd, a lefarodd, ac a alwodd y ddaear, o godiad haul hyd ei fachludiad. Allan o Seion, perffeithrwydd tegwch, y llewyrchodd Duw. Ein Duw ni a ddaw, ac ni bydd distaw: tân a ysa o’i flaen ef, a thymestl ddirfawr fydd o’i amgylch. Geilw ar y nefoedd oddi uchod, ac ar y ddaear, i farnu ei bobl. Cesglwch fy saint ynghyd ataf fi, y rhai a wnaethant gyfamod â mi trwy aberth. A’r nefoedd a fynegant ei gyfiawnder ef: canys Duw ei hun sydd Farnwr. Sela. Clywch, fy mhobl, a mi a lefaraf; O Israel, a mi a dystiolaethaf i’th erbyn: Duw, sef dy Dduw di, ydwyf fi. Nid am dy aberthau y’th geryddaf, na’th boethoffrymau, am nad oeddynt ger fy mron i yn wastad.

Salmau 50:22-23

22 Deellwch hyn yn awr, y rhai ydych yn anghofio Duw; rhag i mi eich rhwygo, ac na byddo gwaredydd. 23 Yr hwn a abertho foliant, a’m gogonedda i: a’r neb a osodo ei ffordd yn iawn, dangosaf iddo iachawdwriaeth Duw.

Eseia 9:8-17

Yr Arglwydd a anfonodd air i Jacob; ac efe a syrthiodd ar Israel. A’r holl bobl a wybydd, sef Effraim a thrigiannydd Samaria, y rhai a ddywedant mewn balchder, ac mewn mawredd calon, 10 Y priddfeini a syrthiasant, ond â cherrig nadd yr adeiladwn: y sycamorwydd a dorrwyd, ond ni a’u newidiwn yn gedrwydd. 11 Am hynny yr Arglwydd a ddyrchafa wrthwynebwyr Resin yn ei erbyn ef, ac a gysyllta ei elynion ef ynghyd; 12 Y Syriaid o’r blaen, a’r Philistiaid hefyd o’r ôl: a hwy a ysant Israel yn safnrhwth. Er hyn i gyd ni ddychwelodd ei lid ef, ond eto y mae ei law ef yn estynedig.

13 A’r bobl ni ddychwelant at yr hwn a’u trawodd, ac ni cheisiant Arglwydd y lluoedd. 14 Am hynny y tyr yr Arglwydd oddi wrth Israel ben a chynffon, cangen a brwynen, yn yr un dydd. 15 Yr henwr a’r anrhydeddus yw y pen: a’r proffwyd sydd yn dysgu celwydd, efe yw y gynffon. 16 Canys cyfarwyddwyr y bobl hyn sydd yn peri iddynt gyfeiliorni, a llyncwyd y rhai a gyfarwyddir ganddynt. 17 Am hynny nid ymlawenha yr Arglwydd yn eu gwŷr ieuainc hwy, ac wrth eu hamddifaid a’u gweddwon ni thosturia: canys pob un ohonynt sydd ragrithiwr a drygionus, a phob genau yn traethu ynfydrwydd. Er hyn oll ni ddychwelodd ei lid ef, ond eto y mae ei law ef yn estynedig.

Rhufeiniaid 9:1-9

Y gwirionedd yr wyf fi yn ei ddywedyd yng Nghrist, nid wyf yn dywedyd celwydd, a’m cydwybod hefyd yn cyd‐dystiolaethu â mi yn yr Ysbryd Glân, Fod i mi dristyd mawr, a gofid di‐baid i’m calon. Canys mi a ddymunwn fy mod fy hun yn anathema oddi wrth Grist dros fy mrodyr, sef fy nghenedl yn ôl y cnawd: Y rhai sydd Israeliaid; eiddo y rhai yw’r mabwysiad, a’r gogoniant, a’r cyfamodau, a dodiad y ddeddf, a’r gwasanaeth, a’r addewidion; Eiddo y rhai yw’r tadau; ac o’r rhai yr hanoedd Crist yn ôl y cnawd, yr hwn sydd uwchlaw pawb, yn Dduw bendigedig yn oes oesoedd. Amen. Eithr nid posibl yw myned gair Duw yn ddi‐rym: canys nid Israel yw pawb a’r sydd o Israel. Ac nid ydynt, oblegid eu bod yn had Abraham, i gyd yn blant; eithr, Yn Isaac y gelwir i ti had. Hynny ydyw, Nid plant y cnawd, y rhai hynny sydd blant i Dduw; eithr plant yr addewid a gyfrifir yn had. Canys gair yr addewid yw hwn; Ar yr amser hwn y deuaf, a bydd mab i Sara.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.