Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
I’r Pencerdd ar Susan‐eduth, Michtam Dafydd, i ddysgu; pan ymladdodd yn erbyn Syriaid Mesopotamia, a Syriaid Soba, pan ddychwelodd Joab, a lladd deuddeng mil o’r Edomiaid yn nyffryn yr halen.
60 O Dduw, bwriaist ni ymaith, gwasgeraist ni, a sorraist: dychwel atom drachefn. 2 Gwnaethost i’r ddaear grynu, a holltaist hi: iachâ ei briwiau; canys y mae yn crynu. 3 Dangosaist i’th bobl galedi: diodaist ni â gwin madrondod. 4 Rhoddaist faner i’r rhai a’th ofnant, i’w dyrchafu oherwydd y gwirionedd. Sela. 5 Fel y gwareder dy rai annwyl: achub â’th ddeheulaw, a gwrando fi. 6 Duw a lefarodd yn ei sancteiddrwydd, Llawenychaf: rhannaf Sichem, a mesuraf ddyffryn Succoth. 7 Eiddof fi yw Gilead, ac eiddof fi Manasse: Effraim hefyd yw nerth fy mhen; Jwda yw fy neddfwr. 8 Moab yw fy nghrochan golchi; dros Edom y bwriaf fy esgid: Philistia, ymorfoledda di o’m plegid i. 9 Pwy a’m dwg i’r ddinas gadarn? pwy a’m harwain hyd yn Edom? 10 Onid tydi, Dduw, yr hwn a’n bwriaist ymaith? a thydi, O Dduw, yr hwn nid ait allan gyda’n lluoedd? 11 Moes i ni gynhorthwy rhag cyfyngder: canys ofer yw ymwared dyn. 12 Yn Nuw y gwnawn wroldeb: canys efe a sathr ein gelynion.
12 Effraim a’m hamgylchynodd â chelwydd, a thŷ Israel â thwyll; ond y mae Jwda eto yn llywodraethu gyda Duw, ac yn ffyddlon gyda’r saint.
12 Effraim sydd yn ymborthi ar wynt, ac yn dilyn gwynt y dwyrain: ar hyd y dydd yr amlhaodd gelwydd a dinistr; amod a wnaethant â’r Asyriaid; ac olew a ddygwyd i’r Aifft. 2 Ac y mae gan yr Arglwydd gŵyn ar Jwda; ac efe a ymwêl â Jacob yn ôl ei ffyrdd: yn ôl ei weithredoedd y tâl iddo y pwyth.
3 Yn y groth y daliodd efe sawdl ei frawd, ac yn ei nerth y cafodd allu gyda Duw. 4 Ie, cafodd nerth ar yr angel, a gorchfygodd; wylodd, ac ymbiliodd ag ef: cafodd ef yn Bethel, ac yno yr ymddiddanodd â ni; 5 Sef Arglwydd Dduw y lluoedd: yr Arglwydd yw ei goffadwriaeth. 6 Tro dithau at dy Dduw; cadw drugaredd a barn, a disgwyl wrth dy Dduw bob amser.
7 Marsiandwr yw efe; yn ei law ef y mae cloriannau twyll: da ganddo orthrymu. 8 A dywedodd Effraim, Eto mi a gyfoethogais, cefais i mi olud; ni chafwyd yn fy holl lafur anwiredd ynof, a fyddai bechod. 9 A mi, yr hwn yw yr Arglwydd dy Dduw a’th ddug o dir yr Aifft, a wnaf i ti drigo eto mewn pebyll, megis ar ddyddiau uchel ŵyl. 10 Ymddiddenais trwy y proffwydi, a mi a amlheais weledigaethau, ac a arferais gyffelybiaethau, trwy law y proffwydi. 11 A oes anwiredd yn Gilead? yn ddiau gwagedd ydynt; yn Gilgal yr aberthant ychen: eu hallorau hefyd sydd fel carneddau yn rhychau y meysydd. 12 Ffodd Jacob hefyd i wlad Syria, a gwasanaethodd Israel am wraig, ac am wraig y cadwodd ddefaid. 13 A thrwy broffwyd y dug yr Arglwydd Israel o’r Aifft, a thrwy broffwyd y cadwyd ef. 14 Effraim a’i cyffrôdd ef i ddig ynghyd â chwerwedd; am hynny y gad efe ei waed ef arno, a’i Arglwydd a dâl iddo ei waradwydd.
18 Y gwragedd, ymostyngwch i’ch gwŷr priod, megis y mae yn weddus yn yr Arglwydd. 19 Y gwŷr, cerwch eich gwragedd, ac na fyddwch chwerwon wrthynt. 20 Y plant, ufuddhewch i’ch rhieni ym mhob peth: canys hyn sydd yn rhyngu bodd i’r Arglwydd yn dda. 21 Y tadau, na chyffrowch eich plant, fel na ddigalonnont. 22 Y gweision, ufuddhewch ym mhob peth i’ch meistriaid yn ôl y cnawd; nid â llygad‐wasanaeth, fel bodlonwyr dynion, eithr mewn symlrwydd calon, yn ofni Duw: 23 A pha beth bynnag a wneloch, gwnewch o’r galon, megis i’r Arglwydd, ac nid i ddynion; 24 Gan wybod mai gan yr Arglwydd y derbyniwch daledigaeth yr etifeddiaeth: canys yr Arglwydd Crist yr ydych yn ei wasanaethu. 25 Ond yr hwn sydd yn gwneuthur cam, a dderbyn am y cam a wnaeth: ac nid oes derbyn wyneb.
4 Y meistriaid, gwnewch i’ch gweision yr hyn sydd gyfiawn ac union; gan wybod fod i chwithau Feistr yn y nefoedd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.