Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Hosea 11:1-11

11 Pan oedd Israel yn fachgen, mi a’i cerais ef, ac a elwais fy mab o’r Aifft. Fel y galwent arnynt, felly hwythau a aent o’u gŵydd hwy; aberthasant i Baalim, llosgasant arogl‐darth i ddelwau cerfiedig. Myfi hefyd a ddysgais i Effraim gerdded, gan eu cymryd erbyn eu breichiau; ond ni chydnabuant mai myfi a’u meddyginiaethodd hwynt. Tynnais hwynt â rheffynnau dynol, â rhwymau cariad; ac oeddwn iddynt megis y rhai a godant yr iau ar eu bochgernau hwynt; a bwriais atynt fwyd.

Ni ddychwel efe i wlad yr Aifft; ond yr Asyriad fydd ei frenin, am iddynt wrthod troi. A’r cleddyf a erys ar ei ddinasoedd ef, ac a dreulia ac a ysa ei geinciau ef, am eu cynghorion eu hun. A’m pobl i sydd ar feddwl cilio oddi wrthyf fi; er iddynt eu galw at y Goruchaf, eto ni ddyrchafai neb ef. Pa fodd y’th roddaf ymaith, Effraim? y’th roddaf i fyny, Israel? pa fodd y’th wnaf fel Adma? ac y’th osodaf megis Seboim? trodd fy nghalon ynof, a’m hedifeirwch a gydgyneuwyd. Ni chyflawnaf angerdd fy llid: ni ddychwelaf i ddinistrio Effraim, canys Duw ydwyf fi, ac nid dyn; y Sanct yn dy ganol di; ac nid af i mewn i’r ddinas. 10 Ar ôl yr Arglwydd yr ânt; efe a rua fel llew: pan ruo efe, yna meibion o’r gorllewin a ddychrynant. 11 Dychrynant fel aderyn o’r Aifft, ac fel colomen o dir Asyria: a mi a’u gosodaf hwynt yn eu tai, medd yr Arglwydd.

Salmau 107:1-9

107 Clodforwch yr Arglwydd; canys da yw: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd. Felly dyweded gwaredigion yr Arglwydd, y rhai a waredodd efe o law y gelyn; Ac a gasglodd efe o’r tiroedd, o’r dwyrain, ac o’r gorllewin, o’r gogledd, ac o’r deau. Crwydrasant yn yr anialwch mewn ffordd ddisathr, heb gael dinas i aros ynddi: Yn newynog ac yn sychedig, eu henaid a lewygodd ynddynt. Yna y llefasant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder; ac efe a’u gwaredodd o’u gorthrymderau; Ac a’u tywysodd hwynt ar hyd y ffordd uniawn, i fyned i ddinas gyfanheddol. O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni, a’i ryfeddodau i feibion dynion! Canys efe a ddiwalla yr enaid sychedig, ac a leinw yr enaid newynog â daioni.

Salmau 107:43

43 Y neb sydd ddoeth, ac a gadwo hyn, hwy a ddeallant drugareddau yr Arglwydd.

Colosiaid 3:1-11

Am hynny os cydgyfodasoch gyda Christ, ceisiwch y pethau sydd uchod, lle mae Crist yn eistedd ar ddeheulaw Duw. Rhoddwch eich serch ar bethau sydd uchod, nid ar bethau sydd ar y ddaear. Canys meirw ydych, a’ch bywyd a guddiwyd gyda Christ yn Nuw. Pan ymddangoso Crist ein bywyd ni, yna hefyd yr ymddangoswch chwithau gydag ef mewn gogoniant. Marwhewch gan hynny eich aelodau, y rhai sydd ar y ddaear; godineb, aflendid, gwŷn, drygchwant, a chybydd‐dod, yr hon sydd eilun‐addoliaeth: O achos yr hyn bethau y mae digofaint Duw yn dyfod ar blant yr anufudd‐dod: Yn y rhai hefyd y rhodiasoch chwithau gynt, pan oeddech yn byw ynddynt. Ond yr awron rhoddwch chwithau ymaith yr holl bethau hyn; dicter, llid, drygioni, cabledd, serthedd, allan o’ch genau. Na ddywedwch gelwydd wrth eich gilydd, gan ddarfod i chwi ddiosg yr hen ddyn ynghyd â’i weithredoedd; 10 A gwisgo’r newydd, yr hwn a adnewyddir mewn gwybodaeth, yn ôl delw yr hwn a’i creodd ef: 11 Lle nid oes na Groegwr nac Iddew, enwaediad na dienwaediad, Barbariad na Scythiad, caeth na rhydd: ond Crist sydd bob peth, ac ym mhob peth.

Luc 12:13-21

13 A rhyw un o’r dyrfa a ddywedodd wrtho, Athro, dywed wrth fy mrawd am rannu â myfi yr etifeddiaeth. 14 Yntau a ddywedodd wrtho, Y dyn, pwy a’m gosododd i yn farnwr neu yn rhannwr arnoch chwi? 15 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Edrychwch, ac ymogelwch rhag cybydd‐dod: canys nid yw bywyd neb yn sefyll ar amlder y pethau sydd ganddo.

16 Ac efe a draethodd wrthynt ddameg, gan ddywedyd, Tir rhyw ŵr goludog a gnydiodd yn dda. 17 Ac efe a ymresymodd ynddo’i hun, gan ddywedyd, Beth a wnaf, am nad oes gennyf le i gasglu fy ffrwythau iddo? 18 Ac efe a ddywedodd, Hyn a wnaf: Mi a dynnaf i lawr fy ysguboriau, ac a adeiladaf rai mwy; ac yno y casglaf fy holl ffrwythau, a’m da. 19 A dywedaf wrth fy enaid, Fy enaid, y mae gennyt dda lawer wedi eu rhoi i gadw dros lawer o flynyddoedd: gorffwys, bwyta, yf, bydd lawen. 20 Eithr Duw a ddywedodd wrtho, O ynfyd, y nos hon y gofynnant dy enaid oddi wrthyt; ac eiddo pwy fydd y pethau a baratoaist? 21 Felly y mae’r hwn sydd yn trysori iddo’i hun, ac nid yw gyfoethog tuag at Dduw.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.