Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
107 Clodforwch yr Arglwydd; canys da yw: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd. 2 Felly dyweded gwaredigion yr Arglwydd, y rhai a waredodd efe o law y gelyn; 3 Ac a gasglodd efe o’r tiroedd, o’r dwyrain, ac o’r gorllewin, o’r gogledd, ac o’r deau. 4 Crwydrasant yn yr anialwch mewn ffordd ddisathr, heb gael dinas i aros ynddi: 5 Yn newynog ac yn sychedig, eu henaid a lewygodd ynddynt. 6 Yna y llefasant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder; ac efe a’u gwaredodd o’u gorthrymderau; 7 Ac a’u tywysodd hwynt ar hyd y ffordd uniawn, i fyned i ddinas gyfanheddol. 8 O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni, a’i ryfeddodau i feibion dynion! 9 Canys efe a ddiwalla yr enaid sychedig, ac a leinw yr enaid newynog â daioni.
43 Y neb sydd ddoeth, ac a gadwo hyn, hwy a ddeallant drugareddau yr Arglwydd.
9 Israel, na orfoledda gan lawenydd, fel pobloedd eraill: canys puteiniaist oddi wrth dy Dduw, gwobrau a hoffaist ar bob llawr dyrnu ŷd. 2 Y llawr dyrnu na’r gwinwryf nis portha hwynt, a’r gwin newydd a’i twylla hi. 3 Ni thrigant yng ngwlad yr Arglwydd; ond Effraim a ddychwel i’r Aifft, ac yn Asyria y bwytânt beth aflan. 4 Nid offrymant win i’r Arglwydd, a’u haberthau ni bydd melys ganddo; byddant iddynt fel bara galarwyr; pawb a fwytao ohono a halogir: oherwydd eu bara dros eu heneidiau ni ddaw i dŷ yr Arglwydd. 5 Beth a wnewch ar ddydd yr uchel ŵyl, ac ar ddydd gŵyl yr Arglwydd? 6 Canys wele, aethant ymaith gan ddinistr; yr Aifft a’u casgl hwynt, Memffis a’u cladd hwynt: danadl a oresgyn hyfryd leoedd eu harian hwynt; drain a dyf yn eu pebyll. 7 Dyddiau i ymweled a ddaethant, dyddiau talu’r pwyth a ddaethant; Israel a gânt wybod hyn: y proffwyd sydd ffôl, ynfyd yw y gŵr ysbrydol, am amlder dy anwiredd, a’r cas mawr. 8 Gwyliedydd Effraim a fu gyda’m Duw; aeth y proffwyd yn fagl adarwr yn ei holl lwybrau, ac yn gasineb yn nhŷ ei Dduw. 9 Ymlygrasant yn ddwfn, megis yn amser Gibea: am hynny efe a goffa eu hanwiredd, efe a ymwêl â’u pechod. 10 Cefais Israel fel grawnwin yn yr anialwch; gwelais eich tadau megis y ffrwyth cynharaf yn y ffigysbren yn ei dechreuad: ond hwy a aethant at Baal‐peor, ymddidolasant at y gwarth hwnnw; a bu eu ffieidd‐dra fel y carasant. 11 Am Effraim, eu gogoniant hwy a eheda fel aderyn; o’r enedigaeth, o’r groth, ac o’r beichiogi. 12 Er iddynt fagu eu plant, gwnaf hwynt yn amddifaid o ddynion: a gwae hwynt, pan ymadawyf oddi wrthynt! 13 Effraim, fel y gwelais Tyrus, a blannwyd mewn hyfryd gyfannedd: eto Effraim a ddwg ei blant allan at y lleiddiad. 14 Dyro iddynt, Arglwydd: beth a roddi? dyro iddynt groth yn erthylu, a bronnau hysbion. 15 Eu holl ddrygioni sydd yn Gilgal: canys yno y caseais hwynt: am ddrygioni eu gweithredoedd y bwriaf hwynt allan o’m tŷ; ni chwanegaf eu caru hwynt: eu holl dywysogion sydd wrthryfelgar. 16 Effraim a drawyd, eu gwraidd a wywodd, dwyn ffrwyth nis gwnânt: ac os cenhedlant, eto lladdaf annwyl blant eu crothau. 17 Fy Nuw a’u gwrthyd hwynt, am na wrandawsant arno ef: am hynny y byddant grwydraid ymhlith y cenhedloedd.
17 Hyn gan hynny yr wyf yn ei ddywedyd, ac yn ei dystiolaethu yn yr Arglwydd, na rodioch chwi mwyach fel y mae’r Cenhedloedd eraill yn rhodio, yn oferedd eu meddwl, 18 Wedi tywyllu eu deall, wedi ymddieithrio oddi wrth fuchedd Dduw, trwy’r anwybodaeth sydd ynddynt, trwy ddallineb eu calon: 19 Y rhai wedi diddarbodi, a ymroesant i drythyllwch, i wneuthur pob aflendid yn unchwant. 20 Eithr chwychwi, nid felly y dysgasoch Grist; 21 Os bu i chwi ei glywed ef, ac os dysgwyd chwi ynddo, megis y mae’r gwirionedd yn yr Iesu: 22 Dodi ohonoch heibio, o ran yr ymarweddiad cyntaf, yr hen ddyn, yr hwn sydd lygredig yn ôl y chwantau twyllodrus; 23 Ac ymadnewyddu yn ysbryd eich meddwl; 24 A gwisgo’r dyn newydd, yr hwn yn ôl Duw a grewyd mewn cyfiawnder a gwir sancteiddrwydd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.