Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 44

I’r Pencerdd, i feibion Cora, Maschil.

44 Duw, clywsom â’n clustiau, ein tadau a fynegasant i ni, y weithred a wnaethost yn eu hamser hwynt, yn y dyddiau gynt. Ti â’th law a yrraist allan y cenhedloedd, ac a’u plennaist hwythau; ti a ddrygaist y bobloedd, ac a’u cynyddaist hwythau. Canys nid â’u cleddyf eu hun y goresgynasant y tir, nid eu braich a barodd iachawdwriaeth iddynt; eithr dy ddeheulaw di, a’th fraich, a llewyrch dy wyneb, oherwydd i ti eu hoffi hwynt. Ti, Dduw, yw fy Mrenin: gorchymyn iachawdwriaeth i Jacob. Ynot ti y cilgwthiwn ni ein gelynion: yn dy enw di y sathrwn y rhai a gyfodant i’n herbyn. Oherwydd nid yn fy mwa yr ymddiriedaf; nid fy nghleddyf chwaith a’m hachub. Eithr ti a’n hachubaist ni oddi wrth ein gwrthwynebwyr, ac a waradwyddaist ein caseion. Yn Nuw yr ymffrostiwn trwy y dydd; a ni a glodforwn dy enw yn dragywydd. Sela. Ond ti a’n bwriaist ni ymaith, ac a’n gwaradwyddaist; ac nid wyt yn myned allan gyda’n lluoedd. 10 Gwnaethost i ni droi yn ôl oddi wrth y gelyn: a’n caseion a anrheithiasant iddynt eu hun. 11 Rhoddaist ni fel defaid i’w bwyta; a gwasgeraist ni ymysg y cenhedloedd. 12 Gwerthaist dy bobl heb elw, ac ni chwanegaist dy olud o’u gwerth hwynt. 13 Gosodaist ni yn warthrudd i’n cymdogion, yn watwargerdd ac yn wawd i’r rhai ydynt o’n hamgylch. 14 Gosodaist ni yn ddihareb ymysg y cenhedloedd, yn rhai i ysgwyd pen arnynt ymysg y bobloedd. 15 Fy ngwarthrudd sydd beunydd ger fy mron, a chywilydd fy wyneb a’m todd: 16 Gan lais y gwarthruddwr a’r cablwr; oherwydd y gelyn a’r ymddialwr. 17 Hyn oll a ddaeth arnom; eto ni’th anghofiasom di, ac ni buom anffyddlon yn dy gyfamod. 18 Ni throdd ein calon yn ei hôl, ac nid aeth ein cerddediad allan o’th lwybr di; 19 Er i ti ein curo yn nhrigfa dreigiau, a thoi drosom â chysgod angau. 20 Os anghofiasom enw ein Duw, neu estyn ein dwylo at dduw dieithr: 21 Oni chwilia Duw hyn allan? canys efe a ŵyr ddirgeloedd y galon. 22 Ie, er dy fwyn di y’n lleddir beunydd; cyfrifir ni fel defaid i’w lladd. 23 Deffro, paham y cysgi, O Arglwydd? cyfod, na fwrw ni ymaith yn dragywydd. 24 Paham y cuddi dy wyneb? ac yr anghofi ein cystudd a’n gorthrymder? 25 Canys gostyngwyd ein henaid i’r llwch: glynodd ein bol wrth y ddaear. 26 Cyfod yn gynhorthwy i ni, a gwared ni er mwyn dy drugaredd.

Hosea 6:11-7:16

11 Gosododd hefyd gynhaeaf i tithau, Jwda, a mi yn dychwelyd caethiwed fy mhobl.

A mi yn ewyllysio iacháu Israel, datguddiwyd anwiredd Effraim, a drygioni Samaria: canys gwnânt ffalster; a’r lleidr a ddaw i mewn, a mintai o ysbeilwyr a anrheithia oddi allan. Ac nid ydynt yn meddwl yn eu calonnau fy mod i yn cofio eu holl ddrygioni hwynt: weithian eu gweithredoedd eu hun a’u hamgylchynodd: y maent gerbron fy wyneb. Llawenhânt y brenin â’u drygioni, a’r tywysogion â’u celwyddau. Pawb ohonynt sydd yn torri priodas, fel ffwrn wedi ei thwymo gan y pobydd, yr hwn a baid â chodi wedi iddo dylino y toes, hyd oni byddo wedi ei lefeinio. Yn niwrnod ein brenin y tywysogion a’i gwnaethant yn glaf â chostrelau gwin: estynnodd ei law gyda gwatwarwyr. Fel yr oeddynt yn cynllwyn, darparasant eu calon fel ffwrn: eu pobydd a gwsg ar hyd y nos; y bore y llysg fel fflam dân. Pawb ohonynt a wresogant fel y ffwrn, ac a ysant eu barnwyr: eu holl frenhinoedd a gwympasant, heb un ohonynt yn galw arnaf fi. Effraim a ymgymysgodd â’r bobloedd; Effraim sydd fel teisen heb ei throi. Estroniaid a fwytânt ei gryfder, ac nis gŵyr efe: ymdaenodd penwynni ar hyd‐ddo, ac nis gwybu efe. 10 Ac y mae balchder Israel yn tystiolaethu yn ei wyneb; ac er hyn oll ni throant at yr Arglwydd eu Duw, ac nis ceisiant ef.

11 Effraim sydd fel colomen ynfyd heb galon; galwant ar yr Aifft, ânt i Asyria. 12 Pan elont, taenaf fy rhwyd drostynt, a thynnaf hwynt i lawr fel ehediaid y nefoedd: cosbaf hwynt, fel y clybu eu cynulleidfa hwynt. 13 Gwae hwynt! canys ffoesant oddi wrthyf: dinistr arnynt; oherwydd gwnaethant gamwedd i’m herbyn: er i mi eu gwared hwynt, eto hwy a ddywedasant gelwydd arnaf fi. 14 Ac ni lefasant arnaf â’u calon, pan udasant ar eu gwelyau: am ŷd a melys win yr ymgasglant; ciliasant oddi wrthyf. 15 Er i mi rwymo a nerthu eu breichiau hwynt, eto meddyliasant ddrwg i mi. 16 Dychwelasant, nid at y Goruchaf: y maent fel bwa twyllodrus: eu tywysogion a syrthiant gan y cleddyf am gynddaredd eu tafod. Dyma eu gwatwar hwynt yng ngwlad yr Aifft.

Mathew 5:43-48

43 Clywsoch ddywedyd, Câr dy gymydog, a chasâ dy elyn. 44 Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, Cerwch eich gelynion, bendithiwch y rhai a’ch melltithiant, gwnewch dda i’r sawl a’ch casânt, a gweddïwch dros y rhai a wnêl niwed i chwi, ac a’ch erlidiant; 45 Fel y byddoch blant i’ch Tad yr hwn sydd yn y nefoedd: canys y mae efe yn peri i’w haul godi ar y drwg a’r da, ac yn glawio ar y cyfiawn a’r anghyfiawn. 46 Oblegid os cerwch y sawl a’ch caro, pa wobr sydd i chwi? oni wna’r publicanod hefyd yr un peth? 47 Ac os cyferchwch well i’ch brodyr yn unig, pa ragoriaeth yr ydych chwi yn ei wneuthur? onid ydyw’r publicanod hefyd yn gwneuthur felly? 48 Byddwch chwi gan hynny yn berffaith, fel y mae eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd yn berffaith.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.