Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 44

I’r Pencerdd, i feibion Cora, Maschil.

44 Duw, clywsom â’n clustiau, ein tadau a fynegasant i ni, y weithred a wnaethost yn eu hamser hwynt, yn y dyddiau gynt. Ti â’th law a yrraist allan y cenhedloedd, ac a’u plennaist hwythau; ti a ddrygaist y bobloedd, ac a’u cynyddaist hwythau. Canys nid â’u cleddyf eu hun y goresgynasant y tir, nid eu braich a barodd iachawdwriaeth iddynt; eithr dy ddeheulaw di, a’th fraich, a llewyrch dy wyneb, oherwydd i ti eu hoffi hwynt. Ti, Dduw, yw fy Mrenin: gorchymyn iachawdwriaeth i Jacob. Ynot ti y cilgwthiwn ni ein gelynion: yn dy enw di y sathrwn y rhai a gyfodant i’n herbyn. Oherwydd nid yn fy mwa yr ymddiriedaf; nid fy nghleddyf chwaith a’m hachub. Eithr ti a’n hachubaist ni oddi wrth ein gwrthwynebwyr, ac a waradwyddaist ein caseion. Yn Nuw yr ymffrostiwn trwy y dydd; a ni a glodforwn dy enw yn dragywydd. Sela. Ond ti a’n bwriaist ni ymaith, ac a’n gwaradwyddaist; ac nid wyt yn myned allan gyda’n lluoedd. 10 Gwnaethost i ni droi yn ôl oddi wrth y gelyn: a’n caseion a anrheithiasant iddynt eu hun. 11 Rhoddaist ni fel defaid i’w bwyta; a gwasgeraist ni ymysg y cenhedloedd. 12 Gwerthaist dy bobl heb elw, ac ni chwanegaist dy olud o’u gwerth hwynt. 13 Gosodaist ni yn warthrudd i’n cymdogion, yn watwargerdd ac yn wawd i’r rhai ydynt o’n hamgylch. 14 Gosodaist ni yn ddihareb ymysg y cenhedloedd, yn rhai i ysgwyd pen arnynt ymysg y bobloedd. 15 Fy ngwarthrudd sydd beunydd ger fy mron, a chywilydd fy wyneb a’m todd: 16 Gan lais y gwarthruddwr a’r cablwr; oherwydd y gelyn a’r ymddialwr. 17 Hyn oll a ddaeth arnom; eto ni’th anghofiasom di, ac ni buom anffyddlon yn dy gyfamod. 18 Ni throdd ein calon yn ei hôl, ac nid aeth ein cerddediad allan o’th lwybr di; 19 Er i ti ein curo yn nhrigfa dreigiau, a thoi drosom â chysgod angau. 20 Os anghofiasom enw ein Duw, neu estyn ein dwylo at dduw dieithr: 21 Oni chwilia Duw hyn allan? canys efe a ŵyr ddirgeloedd y galon. 22 Ie, er dy fwyn di y’n lleddir beunydd; cyfrifir ni fel defaid i’w lladd. 23 Deffro, paham y cysgi, O Arglwydd? cyfod, na fwrw ni ymaith yn dragywydd. 24 Paham y cuddi dy wyneb? ac yr anghofi ein cystudd a’n gorthrymder? 25 Canys gostyngwyd ein henaid i’r llwch: glynodd ein bol wrth y ddaear. 26 Cyfod yn gynhorthwy i ni, a gwared ni er mwyn dy drugaredd.

Hosea 6:1-10

Deuwch, a dychwelwn at yr Arglwydd: canys efe a’n drylliodd, ac efe a’n hiachâ ni; efe a drawodd, ac efe a’n meddyginiaetha ni. Efe a’n bywha ni ar ôl deuddydd, a’r trydydd dydd y cyfyd ni i fyny, a byddwn fyw ger ei fron ef. Yna yr adnabyddwn, os dilynwn adnabod yr Arglwydd: ei fynediad a ddarperir fel y bore; ac efe a ddaw fel glaw atom, fel y diweddar law a’r cynnar law i’r ddaear.

Beth a wnaf i ti, Effraim? beth a wnaf i ti, Jwda? eich mwynder sydd yn ymado fel cwmwl y bore, ac fel gwlith boreol. Am hynny y trewais hwynt trwy y proffwydi; lleddais hwynt â geiriau fy ngenau: a’th farnedigaethau sydd fel goleuni yn myned allan. Canys ewyllysiais drugaredd, ac nid aberth; a gwybodaeth o Dduw, yn fwy na phoethoffrymau. A’r rhai hyn, fel dynion, a dorasant y cyfamod: yno y buant anffyddlon i’m herbyn. Dinas gweithredwyr anwiredd yw Gilead, wedi ei halogi gan waed. Ac fel y mae mintai o ladron yn disgwyl gŵr, felly y mae cynulleidfa yr offeiriaid yn lladd ar y ffordd yn gytûn: canys gwnânt ysgelerder. 10 Gwelais yn nhŷ Israel beth erchyll: yno y mae godineb Effraim; halogwyd Israel.

Rhufeiniaid 9:30-10:4

30 Beth gan hynny a ddywedwn ni? Bod y Cenhedloedd, y rhai nid oeddynt yn dilyn cyfiawnder, wedi derbyn cyfiawnder, sef y cyfiawnder sydd o ffydd: 31 Ac Israel, yr hwn oedd yn dilyn deddf cyfiawnder, ni chyrhaeddodd ddeddf cyfiawnder. 32 Paham? Am nad oeddynt yn ei cheisio trwy ffydd, ond megis trwy weithredoedd y ddeddf: canys hwy a dramgwyddasant wrth y maen tramgwydd; 33 Megis y mae yn ysgrifenedig, Wele fi yn gosod yn Seion faen tramgwydd, a chraig rhwystr: a phob un a gredo ynddo ni chywilyddir.

10 O frodyr, gwir ewyllys fy nghalon, a’m gweddi ar Dduw dros yr Israel, sydd er iachawdwriaeth. Canys yr wyf fi yn dyst iddynt, fod ganddynt sêl Duw, eithr nid ar ôl gwybodaeth. Canys hwynt‐hwy, heb wybod cyfiawnder Duw, ac yn ceisio gosod eu cyfiawnder eu hunain, nid ymostyngasant i gyfiawnder Duw. Canys Crist yw diwedd y ddeddf, er cyfiawnder i bob un sy’n credu.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.