Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Hosea 1:2-10

Dechrau ymadrodd yr Arglwydd trwy Hosea. Yr Arglwydd a ddywedodd wrth Hosea, Dos, cymer i ti wraig o odineb, a phlant o odineb: oherwydd y mae y wlad gan buteinio yn puteinio oddi ar ôl yr Arglwydd. Ac efe a aeth ac a gymerodd Gomer merch Diblaim; a hi a feichiogodd, ac a ddug iddo ef fab. A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Galw ei enw ef Jesreel: canys ar fyrder y dialaf waed Jesreel ar dŷ Jehu, ac y gwnaf i frenhiniaeth tŷ Israel ddarfod. A’r dydd hwnnw y torraf fwa Israel yng nglyn Jesreel.

A hi a feichiogodd eilwaith, ac a esgorodd ar ferch. A dywedodd yr Arglwydd wrtho, Galw ei henw hi Lo‐rwhama; am na chwanegaf drugarhau wrth dŷ Israel; eithr dygaf hwynt ymaith yn llwyr. Ac eto mi a drugarhaf wrth dŷ Jwda, ac a’u cadwaf hwynt trwy yr Arglwydd eu Duw; ac nid â bwa, nac â chleddyf, nac â rhyfel, nac â meirch nac â marchogion, y cadwaf hwynt.

A hi a ddiddyfnodd Lo‐rwhama, ac a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab. A Duw a ddywedodd, Galw ei enw ef Lo‐ammi: canys nid ydych bobl i mi, ac ni byddaf i chwithau yn Dduw.

10 Eto bydd nifer meibion Israel fel tywod y môr, yr hwn nis mesurir, ac nis cyfrifir: a bydd, yn y man lle y dywedwyd wrthynt, Nid pobl i mi ydych chwi, y dywedir yno wrthynt, Meibion y Duw byw ydych.

Salmau 85

I’r Pencerdd, Salm meibion Cora.

85 Graslon fuost, O Arglwydd, i’th dir: dychwelaist gaethiwed Jacob. Maddeuaist anwiredd dy bobl: cuddiaist eu holl bechod. Sela. Tynnaist ymaith dy holl lid: troaist oddi wrth lidiowgrwydd dy ddicter. Tro ni, O Dduw ein hiachawdwriaeth, a thor ymaith dy ddigofaint oddi wrthym. Ai byth y digi wrthym? a estynni di dy soriant hyd genhedlaeth a chenhedlaeth? Oni throi di a’n bywhau ni, fel y llawenycho dy bobl ynot ti? Dangos i ni, Arglwydd, dy drugaredd, a dod i ni dy iachawdwriaeth. Gwrandawaf beth a ddywed yr Arglwydd Dduw: canys efe a draetha heddwch i’w bobl, ac i’w saint: ond na throant at ynfydrwydd. Diau fod ei iechyd ef yn agos i’r rhai a’i hofnant; fel y trigo gogoniant yn ein tir ni. 10 Trugaredd a gwirionedd a ymgyfarfuant; cyfiawnder a heddwch a ymgusanasant. 11 Gwirionedd a dardda o’r ddaear; a chyfiawnder a edrych i lawr o’r nefoedd. 12 Yr Arglwydd hefyd a rydd ddaioni; a’n daear a rydd ei chnwd. 13 Cyfiawnder a â o’i flaen ef; ac a esyd ei draed ef ar y ffordd.

Colosiaid 2:6-15

Megis gan hynny y derbyniasoch Grist Iesu yr Arglwydd, felly rhodiwch ynddo; Wedi eich gwreiddio a’ch adeiladu ynddo ef, a’ch cadarnhau yn y ffydd, megis y’ch dysgwyd, gan gynyddu ynddi mewn diolchgarwch. Edrychwch na bo neb yn eich anrheithio trwy philosophi a gwag dwyll, yn ôl traddodiad dynion, yn ôl egwyddorion y byd, ac nid yn ôl Crist. Oblegid ynddo ef y mae holl gyflawnder y Duwdod yn preswylio yn gorfforol. 10 Ac yr ydych chwi wedi eich cyflawni ynddo ef, yr hwn yw pen pob tywysogaeth ac awdurdod: 11 Yn yr hwn hefyd y’ch enwaedwyd ag enwaediad nid o waith llaw, trwy ddiosg corff pechodau’r cnawd, yn enwaediad Crist: 12 Wedi eich cydgladdu ag ef yn y bedydd, yn yr hwn hefyd y’ch cyd-gyfodwyd trwy ffydd gweithrediad Duw yr hwn a’i cyfododd ef o feirw. 13 A chwithau, pan oeddech yn feirw mewn camweddau, a dienwaediad eich cnawd, a gydfywhaodd efe gydag ef, gan faddau i chwi yr holl gamweddau; 14 Gan ddileu ysgrifen‐law yr ordeiniadau, yr hon oedd i’n herbyn ni, yr hon oedd yng ngwrthwyneb i ni, ac a’i cymerodd hi oddi ar y ffordd, gan ei hoelio wrth y groes; 15 Gan ysbeilio’r tywysogaethau a’r awdurdodau, efe a’u harddangosodd hwy ar gyhoedd, gan ymorfoleddu arnynt arni hi.

Colosiaid 2:16-19

16 Am hynny na farned neb arnoch chwi am fwyd, neu am ddiod, neu o ran dydd gŵyl, neu newyddloer, neu Sabothau: 17 Y rhai ydynt gysgod pethau i ddyfod; ond y corff sydd o Grist. 18 Na thwylled neb chwi am eich gwobr, wrth ei ewyllys, mewn gostyngeiddrwydd, ac addoliad angylion, gan ruthro i bethau nis gwelodd, wedi ymchwyddo yn ofer gan ei feddwl cnawdol ei hun; 19 Ac heb gyfatal y Pen, o’r hwn y mae’r holl gorff, trwy’r cymalau a’r cysylltiadau, yn derbyn lluniaeth, ac wedi ei gydgysylltu, yn cynyddu gan gynnydd Duw.

Luc 11:1-13

11 A bu, ac efe mewn rhyw fan yn gweddïo, pan beidiodd, ddywedyd o un o’i ddisgyblion wrtho, Arglwydd, dysg i ni weddïo, megis ag y dysgodd Ioan i’w ddisgyblion. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pan weddïoch, dywedwch, Ein Tad yr hwn wyt yn y nefoedd, Sancteiddier dy enw. Deued dy deyrnas. Gwneler dy ewyllys, megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd. Dyro i ni o ddydd i ddydd ein bara beunyddiol. A maddau i ni ein pechodau: canys yr ydym ninnau yn maddau i bawb sydd yn ein dyled. Ac nac arwain ni i brofedigaeth; eithr gwared ni rhag drwg. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pwy ohonoch fydd iddo gyfaill, ac a â ato hanner nos, ac a ddywed wrtho, O gyfaill, moes i mi dair torth yn echwyn; Canys cyfaill i mi a ddaeth ataf wrth ymdaith, ac nid oes gennyf ddim i’w ddodi ger ei fron ef: Ac yntau oddi mewn a etyb ac a ddywed, Na flina fi: yn awr y mae’r drws yn gaead, a’m plant gyda mi yn y gwely; ni allaf godi a’u rhoddi i ti. Yr wyf yn dywedyd i chwi, Er na chyfyd efe a rhoddi iddo, am ei fod yn gyfaill iddo; eto oherwydd ei daerni, efe a gyfyd, ac a rydd iddo gynifer ag y sydd arno eu heisiau. Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Gofynnwch, a rhoddir i chwi; ceisiwch, a chwi a gewch; curwch, ac fe a agorir i chwi. 10 Canys pob un sydd yn gofyn, sydd yn derbyn; a’r neb sydd yn ceisio, sydd yn cael; ac i’r hwn sydd yn curo, yr agorir. 11 Os bara a ofyn mab i un ohonoch chwi sydd dad, a ddyry efe garreg iddo? ac os pysgodyn, a ddyry efe iddo sarff yn lle pysgodyn? 12 Neu os gofyn efe wy, a ddyry efe ysgorpion iddo? 13 Os chwychwi gan hynny, y rhai ydych ddrwg, a fedrwch roi rhoddion da i’ch plant chwi; pa faint mwy y rhydd eich Tad o’r nef yr Ysbryd Glân i’r rhai a ofynno ganddo?

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.