Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 85

I’r Pencerdd, Salm meibion Cora.

85 Graslon fuost, O Arglwydd, i’th dir: dychwelaist gaethiwed Jacob. Maddeuaist anwiredd dy bobl: cuddiaist eu holl bechod. Sela. Tynnaist ymaith dy holl lid: troaist oddi wrth lidiowgrwydd dy ddicter. Tro ni, O Dduw ein hiachawdwriaeth, a thor ymaith dy ddigofaint oddi wrthym. Ai byth y digi wrthym? a estynni di dy soriant hyd genhedlaeth a chenhedlaeth? Oni throi di a’n bywhau ni, fel y llawenycho dy bobl ynot ti? Dangos i ni, Arglwydd, dy drugaredd, a dod i ni dy iachawdwriaeth. Gwrandawaf beth a ddywed yr Arglwydd Dduw: canys efe a draetha heddwch i’w bobl, ac i’w saint: ond na throant at ynfydrwydd. Diau fod ei iechyd ef yn agos i’r rhai a’i hofnant; fel y trigo gogoniant yn ein tir ni. 10 Trugaredd a gwirionedd a ymgyfarfuant; cyfiawnder a heddwch a ymgusanasant. 11 Gwirionedd a dardda o’r ddaear; a chyfiawnder a edrych i lawr o’r nefoedd. 12 Yr Arglwydd hefyd a rydd ddaioni; a’n daear a rydd ei chnwd. 13 Cyfiawnder a â o’i flaen ef; ac a esyd ei draed ef ar y ffordd.

Hosea 5

Clywch hyn, chwi offeiriaid; gwrandewch, tŷ Israel; a thŷ y brenin, rhoddwch glust: canys y mae barn tuag atoch, am eich bod yn fagl ar Mispa, ac yn rhwyd wedi ei lledu ar Tabor. Y rhai a wyrant i ladd a ânt i’r dwfn, er i mi eu ceryddu hwynt oll. Myfi a adwaen Effraim, ac nid yw Israel guddiedig oddi wrthyf: canys yn awr ti, Effraim, a buteiniaist, ac Israel a halogwyd. Ni roddant eu gwaith ar droi at eu Duw; am fod ysbryd godineb o’u mewn, ac nid adnabuant yr Arglwydd. A balchder Israel a ddwg dystiolaeth yn ei wyneb: am hynny Israel ac Effraim a syrthiant yn eu hanwiredd; Jwda hefyd a syrth gyda hwynt. A’u defaid ac â’u gwartheg y deuant i geisio yr Arglwydd; ond nis cânt ef: ciliodd efe oddi wrthynt. Yn erbyn yr Arglwydd y buant anffyddlon: canys cenedlasant blant dieithr: mis bellach a’u difa hwynt ynghyd â’u rhannau. Cenwch y corn yn Gibea, yr utgorn yn Rama; bloeddiwch yn Beth‐afen ar dy ôl di, Benjamin. Effraim fydd yn anrhaith yn nydd y cerydd: ymysg llwythau Israel y perais wybod yr hyn fydd yn sicr. 10 Bu dywysogion Jwda fel symudwyr terfyn: am hynny y tywalltaf arnynt fy llid fel dwfr. 11 Gorthrymwyd Effraim, drylliwyd ef mewn barn, am iddo yn ewyllysgar fyned ar ôl y gorchymyn. 12 Am hynny y byddaf fel gwyfyn i Effraim, ac fel pydredd i dŷ Jwda. 13 Pan welodd Effraim ei lesgedd, a Jwda ei archoll; yna yr aeth Effraim at yr Asyriad, ac a hebryngodd at frenin Jareb: eto ni allai efe eich meddyginiaethu, na’ch iacháu o’ch archoll. 14 Canys mi a fyddaf i Effraim fel llew, ac i dŷ Jwda fel cenau llew: myfi a ysglyfaethaf, ac a af ymaith; dygaf ymaith, ac ni bydd a achubo.

15 Af a dychwelaf i’m lle, hyd oni chydnabyddont eu bai, a cheisio fy wyneb: pan fyddo adfyd arnynt, y’m boregeisiant.

Actau 2:22-36

22 Ha wŷr Israel, clywch y geiriau hyn; Iesu o Nasareth, gŵr profedig gan Dduw yn eich plith chwi, trwy nerthoedd a rhyfeddodau ac arwyddion, y rhai a wnaeth Duw trwyddo ef yn eich canol chwi, megis ag y gwyddoch chwithau: 23 Hwn, wedi ei roddi trwy derfynedig gyngor a rhagwybodaeth Duw, a gymerasoch chwi, a thrwy ddwylo anwir a groeshoeliasoch, ac a laddasoch: 24 Yr hwn a gyfododd Duw, gan ryddhau gofidiau angau: canys nid oedd bosibl ei atal ef ganddo. 25 Canys Dafydd sydd yn dywedyd amdano, Rhagwelais yr Arglwydd ger fy mron yn wastad; canys ar fy neheulaw y mae, fel na’m hysgoger. 26 Am hynny y llawenychodd fy nghalon, ac y gorfoleddodd fy nhafod; ie, a’m cnawd hefyd a orffwys mewn gobaith: 27 Am na adewi fy enaid yn uffern, ac na oddefi i’th Sanct weled llygredigaeth. 28 Gwnaethost yn hysbys i mi ffyrdd y bywyd: ti a’m cyflawni o lawenydd â’th wynepryd. 29 Ha wŷr frodyr, y mae’n rhydd i mi ddywedyd yn hy wrthych am y patriarch Dafydd, ei farw ef a’i gladdu, ac y mae ei feddrod ef gyda ni hyd y dydd hwn. 30 Am hynny, ac efe yn broffwyd, yn gwybod dyngu o Dduw iddo trwy lw, Mai o ffrwyth ei lwynau ef o ran y cnawd, y cyfodai efe Grist i eistedd ar ei orseddfa ef: 31 Ac efe yn rhagweled, a lefarodd am atgyfodiad Crist, na adawyd ei enaid ef yn uffern, ac na welodd ei gnawd ef lygredigaeth. 32 Yr Iesu hwn a gyfododd Duw i fyny; o’r hyn yr ydym ni oll yn dystion. 33 Am hynny, wedi ei ddyrchafu ef trwy ddeheulaw Duw, ac iddo dderbyn gan y Tad yr addewid o’r Ysbryd Glân, efe a dywalltodd y peth yma yr ydych chwi yr awron yn ei weled ac yn ei glywed. 34 Oblegid ni ddyrchafodd Dafydd i’r nefoedd: ond y mae efe yn dywedyd ei hun, Yr Arglwydd a ddywedodd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, 35 Hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i’th draed. 36 Am hynny gwybydded holl dŷ Israel yn ddiogel, ddarfod i Dduw wneuthur yn Arglwydd ac yn Grist, yr Iesu hwn a groeshoeliasoch chwi.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.