Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
17 Bydd dda wrth dy was, fel y byddwyf byw, ac y cadwyf dy air. 18 Datguddia fy llygaid, fel y gwelwyf bethau rhyfedd allan o’th gyfraith di. 19 Dieithr ydwyf fi ar y ddaear: na chudd di rhagof dy orchmynion. 20 Drylliwyd fy enaid gan awydd i’th farnedigaethau bob amser. 21 Ceryddaist y beilchion melltigedig, y rhai a gyfeiliornant oddi wrth dy orchmynion. 22 Tro oddi wrthyf gywilydd a dirmyg: oblegid dy dystiolaethau di a gedwais. 23 Tywysogion hefyd a eisteddasant, ac a ddywedasant i’m herbyn: dy was dithau a fyfyriai yn dy ddeddfau. 24 A’th dystiolaethau oeddynt fy hyfrydwch a’m cynghorwyr.DALETH
25 Glynodd fy enaid wrth y llwch: bywha fi yn ôl dy air. 26 Fy ffyrdd a fynegais, a gwrandewaist fi: dysg i mi dy ddeddfau. 27 Gwna i mi ddeall ffordd dy orchmynion; a mi a fyfyriaf yn dy ryfeddodau. 28 Diferodd fy enaid gan ofid: nertha fi yn ôl dy air. 29 Cymer oddi wrthyf ffordd y celwydd; ac yn raslon dod i mi dy gyfraith. 30 Dewisais ffordd gwirionedd: gosodais dy farnedigaethau o’m blaen. 31 Glynais wrth dy dystiolaethau: O Arglwydd, na’m gwaradwydda. 32 Ffordd dy orchmynion a redaf, pan ehangech fy nghalon.HE
5 Ac Arglwydd Dduw y lluoedd a gyffwrdd â’r ddaear, a hi a dawdd; a galara pawb a’r a drig ynddi, a hi a gyfyd oll fel llifeiriant, ac a foddir megis gan afon yr Aifft. 6 Yr hwn a adeilada ei esgynfeydd yn y nefoedd, ac a sylfaenodd ei fintai ar y ddaear, yr hwn a eilw ddyfroedd y môr, ac a’u tywallt ar wyneb y ddaear: Yr Arglwydd yw ei enw. 7 Onid ydych chwi, meibion Israel, i mi fel meibion yr Ethiopiaid? medd yr Arglwydd: oni ddygais i fyny feibion Israel allan o dir yr Aifft, a’r Philistiaid o Cafftor, a’r Syriaid o Cir? 8 Wele lygaid yr Arglwydd ar y deyrnas bechadurus, a mi a’i difethaf oddi ar wyneb y ddaear: ond ni lwyr ddifethaf dŷ Jacob, medd yr Arglwydd. 9 Canys wele, myfi a orchmynnaf, ac a ogrynaf dŷ Israel ymysg yr holl genhedloedd, fel y gogrynir ŷd mewn gogr; ac ni syrth y gronyn lleiaf i’r llawr. 10 Holl bechaduriaid fy mhobl a fyddant feirw gan y cleddyf, y rhai a ddywedant, Ni oddiwedd drwg ni, ac ni achub ein blaen.
11 Y dydd hwnnw y codaf babell Dafydd, yr hon a syrthiodd, ac a gaeaf ei bylchau, ac a godaf ei hadwyau, ac a’i hadeiladaf fel yn y dyddiau gynt: 12 Fel y meddianno y rhai y gelwir fy enw arnynt, weddill Edom, a’r holl genhedloedd, medd yr Arglwydd, yr hwn a wna hyn. 13 Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, y goddiwedd yr arddwr y medelwr, a sathrydd y grawnwin yr heuwr had; a’r mynyddoedd a ddefnynnant felyswin, a’r holl fryniau a doddant. 14 A dychwelaf gaethiwed fy mhobl Israel; a hwy a adeiladant y dinasoedd anghyfannedd, ac a’u preswyliant; a hwy a blannant winllannoedd, ac a yfant o’u gwin; gwnânt hefyd erddi, a bwytânt eu ffrwyth hwynt. 15 Ac mi a’u plannaf hwynt yn eu tir, ac nis diwreiddir hwynt mwyach o’u tir a roddais i iddynt, medd yr Arglwydd dy Dduw.
41 Yna yr Iddewon a rwgnachasant yn ei erbyn ef, oherwydd iddo ddywedyd, Myfi yw’r bara a ddaeth i waered o’r nef. 42 A hwy a ddywedasant, Onid hwn yw Iesu mab Joseff, tad a mam yr hwn a adwaenom ni? pa fodd gan hynny y mae efe yn dywedyd, O’r nef y disgynnais? 43 Yna yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Na furmurwch wrth eich gilydd. 44 Ni ddichon neb ddyfod ataf fi, oddieithr i’r Tad, yr hwn a’m hanfonodd, ei dynnu ef: a myfi a’i hatgyfodaf ef y dydd diwethaf. 45 Y mae yn ysgrifenedig yn y proffwydi, A phawb a fyddant wedi eu dysgu gan Dduw. Pob un gan hynny a glywodd gan y Tad, ac a ddysgodd, sydd yn dyfod ataf fi. 46 Nid oherwydd gweled o neb y Tad, ond yr hwn sydd o Dduw; efe a welodd y Tad. 47 Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn sydd yn credu ynof fi, sydd ganddo fywyd tragwyddol. 48 Myfi yw bara’r bywyd. 49 Eich tadau chwi a fwytasant y manna yn yr anialwch, ac a fuont feirw. 50 Hwn yw’r bara sydd yn dyfod i waered o’r nef, fel y bwytao dyn ohono, ac na byddo marw. 51 Myfi yw’r bara bywiol, yr hwn a ddaeth i waered o’r nef. Os bwyty neb o’r bara hwn, efe a fydd byw yn dragywydd. A’r bara a roddaf fi, yw fy nghnawd i, yr hwn a roddaf fi dros fywyd y byd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.