Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
17 Bydd dda wrth dy was, fel y byddwyf byw, ac y cadwyf dy air. 18 Datguddia fy llygaid, fel y gwelwyf bethau rhyfedd allan o’th gyfraith di. 19 Dieithr ydwyf fi ar y ddaear: na chudd di rhagof dy orchmynion. 20 Drylliwyd fy enaid gan awydd i’th farnedigaethau bob amser. 21 Ceryddaist y beilchion melltigedig, y rhai a gyfeiliornant oddi wrth dy orchmynion. 22 Tro oddi wrthyf gywilydd a dirmyg: oblegid dy dystiolaethau di a gedwais. 23 Tywysogion hefyd a eisteddasant, ac a ddywedasant i’m herbyn: dy was dithau a fyfyriai yn dy ddeddfau. 24 A’th dystiolaethau oeddynt fy hyfrydwch a’m cynghorwyr.DALETH
25 Glynodd fy enaid wrth y llwch: bywha fi yn ôl dy air. 26 Fy ffyrdd a fynegais, a gwrandewaist fi: dysg i mi dy ddeddfau. 27 Gwna i mi ddeall ffordd dy orchmynion; a mi a fyfyriaf yn dy ryfeddodau. 28 Diferodd fy enaid gan ofid: nertha fi yn ôl dy air. 29 Cymer oddi wrthyf ffordd y celwydd; ac yn raslon dod i mi dy gyfraith. 30 Dewisais ffordd gwirionedd: gosodais dy farnedigaethau o’m blaen. 31 Glynais wrth dy dystiolaethau: O Arglwydd, na’m gwaradwydda. 32 Ffordd dy orchmynion a redaf, pan ehangech fy nghalon.HE
13 Y diwrnod hwnnw y gwyryfon glân a’r meibion ieuainc a ddiffoddant o syched. 14 Y rhai a dyngant i bechod Samaria, ac a ddywedant, Byw yw dy dduw di, O Dan; a, Byw yw ffordd Beerseba; hwy a syrthiant, ac ni chodant mwy.
9 Gwelais yr Arglwydd yn sefyll ar yr allor: ac efe a ddywedodd, Taro gapan y drws, fel y siglo y gorsingau; a thor hwynt oll yn y pen; minnau a laddaf y rhai olaf ohonynt â’r cleddyf: ni ffy ymaith ohonynt a ffo, ac ni ddianc ohonynt a ddihango. 2 Pe cloddient hyd uffern, fy llaw a’u tynnai hwynt oddi yno; a phe dringent i’r nefoedd, mi a’u disgynnwn hwynt oddi yno: 3 A phe llechent ar ben Carmel, chwiliwn, a chymerwn hwynt oddi yno; a phe ymguddient o’m golwg yng ngwaelod y môr, oddi yno y gorchmynnaf i’r sarff eu brathu hwynt: 4 Ac os ânt i gaethiwed o flaen eu gelynion, oddi yno y gorchmynnaf i’r cleddyf, ac efe a’u lladd hwynt: a gosodaf fy ngolwg yn eu herbyn er drwg, ac nid er da iddynt.
2 Fy mhlant bychain, y pethau hyn yr wyf yn eu hysgrifennu atoch, fel na phechoch. Ac o phecha neb, y mae i ni Eiriolwr gyda’r Tad, Iesu Grist y Cyfiawn: 2 Ac efe yw’r iawn dros ein pechodau ni: ac nid dros yr eiddom ni yn unig, eithr dros bechodau yr holl fyd. 3 Ac wrth hyn y gwyddom yr adwaenom ef, os cadwn ni ei orchmynion ef. 4 Yr hwn sydd yn dywedyd, Mi a’i hadwaen ef, ac heb gadw ei orchmynion ef, celwyddog yw, a’r gwirionedd nid yw ynddo. 5 Eithr yr hwn a gadwo ei air ef, yn wir yn hwn y mae cariad Duw yn berffaith: wrth hyn y gwyddom ein bod ynddo ef. 6 Yr hwn a ddywed ei fod yn aros ynddo ef, a ddylai yntau felly rodio, megis ag y rhodiodd ef.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.