Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 119:17-32

17 Bydd dda wrth dy was, fel y byddwyf byw, ac y cadwyf dy air. 18 Datguddia fy llygaid, fel y gwelwyf bethau rhyfedd allan o’th gyfraith di. 19 Dieithr ydwyf fi ar y ddaear: na chudd di rhagof dy orchmynion. 20 Drylliwyd fy enaid gan awydd i’th farnedigaethau bob amser. 21 Ceryddaist y beilchion melltigedig, y rhai a gyfeiliornant oddi wrth dy orchmynion. 22 Tro oddi wrthyf gywilydd a dirmyg: oblegid dy dystiolaethau di a gedwais. 23 Tywysogion hefyd a eisteddasant, ac a ddywedasant i’m herbyn: dy was dithau a fyfyriai yn dy ddeddfau. 24 A’th dystiolaethau oeddynt fy hyfrydwch a’m cynghorwyr.

DALETH

25 Glynodd fy enaid wrth y llwch: bywha fi yn ôl dy air. 26 Fy ffyrdd a fynegais, a gwrandewaist fi: dysg i mi dy ddeddfau. 27 Gwna i mi ddeall ffordd dy orchmynion; a mi a fyfyriaf yn dy ryfeddodau. 28 Diferodd fy enaid gan ofid: nertha fi yn ôl dy air. 29 Cymer oddi wrthyf ffordd y celwydd; ac yn raslon dod i mi dy gyfraith. 30 Dewisais ffordd gwirionedd: gosodais dy farnedigaethau o’m blaen. 31 Glynais wrth dy dystiolaethau: O Arglwydd, na’m gwaradwydda. 32 Ffordd dy orchmynion a redaf, pan ehangech fy nghalon.

HE

Amos 7:1-6

Fel hyn y dangosodd yr Arglwydd i mi; ac wele ef yn ffurfio ceiliogod rhedyn pan ddechreuodd yr adladd godi; ac wele, adladd wedi lladd gwair y brenin oedd. A phan ddarfu iddynt fwyta glaswellt y tir, yna y dywedais, Arbed, Arglwydd, atolwg: pwy a gyfyd Jacob? canys bychan yw. Edifarhaodd yr Arglwydd am hyn: Ni bydd hyn, eb yr Arglwydd.

Fel hyn y dangosodd yr Arglwydd Dduw i mi: ac wele yr Arglwydd Dduw yn galw i farn trwy dân; a difaodd y tân y dyfnder mawr, ac a ysodd beth. Yna y dywedais, Arglwydd Dduw, paid, atolwg: pwy a gyfyd Jacob? canys bychan yw. Edifarhaodd yr Arglwydd am hyn: Ni bydd hyn chwaith, eb yr Arglwydd Dduw.

Colosiaid 1:27-2:7

27 I’r rhai yr ewyllysiodd Duw hysbysu beth yw golud gogoniant y dirgelwch hwn ymhlith y Cenhedloedd; yr hwn yw Crist ynoch chwi, gobaith y gogoniant: 28 Yr hwn yr ydym ni yn ei bregethu, gan rybuddio pob dyn, a dysgu pob dyn ym mhob doethineb; fel y cyflwynom bob dyn yn berffaith yng Nghrist Iesu: 29 Am yr hyn yr ydwyf hefyd yn llafurio, gan ymdrechu yn ôl ei weithrediad ef, yr hwn sydd yn gweithio ynof fi yn nerthol.

Canys mi a ewyllysiwn i chwi wybod pa faint o ymdrech sydd arnaf er eich mwyn chwi, a’r rhai yn Laodicea, a chynifer ag ni welsant fy wyneb i yn y cnawd; Fel y cysurid eu calonnau hwy, wedi eu cydgysylltu mewn cariad, ac i bob golud sicrwydd deall, i gydnabyddiaeth dirgelwch Duw, a’r Tad, a Christ; Yn yr hwn y mae holl drysorau doethineb a gwybodaeth yn guddiedig. A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd, fel na thwyllo neb chwi ag ymadrodd hygoel. Canys er fy mod i yn absennol yn y cnawd, er hynny yr ydwyf gyda chwi yn yr ysbryd, yn llawenychu, ac yn gweled eich trefn chwi, a chadernid eich ffydd yng Nghrist. Megis gan hynny y derbyniasoch Grist Iesu yr Arglwydd, felly rhodiwch ynddo; Wedi eich gwreiddio a’ch adeiladu ynddo ef, a’ch cadarnhau yn y ffydd, megis y’ch dysgwyd, gan gynyddu ynddi mewn diolchgarwch.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.