Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
8 Fel hyn y dangosodd yr Arglwydd i mi; ac wele gawellaid o ffrwythydd haf. 2 Ac efe a ddywedodd, Beth a weli di, Amos? A mi a ddywedais, Cawellaid o ffrwythydd haf. Yna y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Daeth y diwedd ar fy mhobl Israel; nid af heibio iddynt mwyach. 3 Caniadau y deml hefyd a droir yn udo ar y dydd hwnnw, medd yr Arglwydd Dduw: llawer o gelaneddau a fydd ym mhob lle; bwrir hwynt allan yn ddistaw.
4 Gwrandewch hyn, y sawl ydych yn llyncu yr anghenog, i ddifa tlodion y tir, 5 Gan ddywedyd, Pa bryd yr â y mis heibio, fel y gwerthom ŷd? a’r Saboth, fel y dygom allan y gwenith, gan brinhau yr effa, a helaethu y sicl, ac anghyfiawnu y cloriannau trwy dwyll? 6 I brynu y tlawd er arian, a’r anghenus er pâr o esgidiau, ac i werthu gwehilion y gwenith? 7 Tyngodd yr Arglwydd i ragorfraint Jacob, Diau nid anghofiaf byth yr un o’u gweithredoedd hwynt. 8 Oni chrŷn y ddaear am hyn? ac oni alara ei holl breswylwyr? cyfyd hefyd i gyd fel llif; a bwrir hi ymaith, a hi a foddir, megis gan afon yr Aifft. 9 A’r dydd hwnnw, medd yr Arglwydd Dduw, y gwnaf i’r haul fachludo hanner dydd, a thywyllaf y ddaear liw dydd golau. 10 Troaf hefyd eich gwyliau yn alar, a’ch holl ganiadau yn oernad: dygaf sachliain ar yr holl lwynau, a moelni ar bob pen: a mi a’i gwnaf fel galar am unmab, a’i ddiwedd fel dydd chwerw.
11 Wele, y mae y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd Dduw, yr anfonaf newyn i’r tir; nid newyn am fara, ac nid syched am ddwfr, ond am wrando geiriau yr Arglwydd. 12 A hwy a grwydrant o fôr i fôr, ac a wibiant o’r gogledd hyd y dwyrain, i geisio gair yr Arglwydd, ac nis cânt.
I’r Pencerdd, Maschil, Salm Dafydd, pan ddaeth Doeg yr Edomiad a mynegi i Saul, a dywedyd wrtho, Daeth Dafydd i dŷ Ahimelech.
52 Paham yr ymffrosti mewn drygioni, O gadarn? y mae trugaredd Duw yn parhau yn wastadol. 2 Dy dafod a ddychymyg ysgelerder; fel ellyn llym, yn gwneuthur twyll. 3 Hoffaist ddrygioni yn fwy na daioni; a chelwydd yn fwy na thraethu cyfiawnder. Sela. 4 Hoffaist bob geiriau distryw, O dafod twyllodrus. 5 Duw a’th ddistrywia dithau yn dragywydd: efe a’th gipia di ymaith, ac a’th dynn allan o’th babell, ac a’th ddiwreiddia o dir y rhai byw. Sela. 6 Y cyfiawn hefyd a welant, ac a ofnant, ac a chwarddant am ei ben. 7 Wele y gŵr ni osododd Dduw yn gadernid iddo; eithr ymddiriedodd yn lluosowgrwydd ei olud, ac a ymnerthodd yn ei ddrygioni. 8 Ond myfi sydd fel olewydden werdd yn nhŷ Dduw: ymddiriedaf yn nhrugaredd Duw byth ac yn dragywydd. 9 Clodforaf di yn dragywydd, oherwydd i ti wneuthur hyn: a disgwyliaf wrth dy enw; canys da yw gerbron dy saint.
15 Yr hwn yw delw y Duw anweledig, cyntaf‐anedig pob creadur: 16 Canys trwyddo ef y crewyd pob dim a’r sydd yn y nefoedd, ac sydd ar y ddaear, yn weledig ac yn anweledig, pa un bynnag ai thronau, ai arglwyddiaethau, ai tywysogaethau, ai meddiannau; pob dim a grewyd trwyddo ef, ac erddo ef. 17 Ac y mae efe cyn pob peth, ac ynddo ef y mae pob peth yn cydsefyll. 18 Ac efe yw pen corff yr eglwys; efe, yr hwn yw’r dechreuad, y cyntaf‐anedig oddi wrth y meirw; fel y byddai efe yn blaenori ym mhob peth. 19 Oblegid rhyngodd bodd i’r Tad drigo o bob cyflawnder ynddo ef; 20 Ac, wedi iddo wneuthur heddwch trwy waed ei groes ef, trwyddo ef gymodi pob peth ag ef ei hun; trwyddo ef, meddaf, pa un bynnag ai pethau ar y ddaear, ai pethau yn y nefoedd. 21 A chwithau, y rhai oeddech ddieithriaid, a gelynion mewn meddwl trwy weithredoedd drwg, yr awr hon hefyd a gymododd efe, 22 Yng nghorff ei gnawd ef trwy farwolaeth, i’ch cyflwyno chwi yn sanctaidd, ac yn ddifeius, ac yn ddiargyhoedd, ger ei fron ef: 23 Os ydych yn parhau yn y ffydd, wedi eich seilio a’ch sicrhau, ac heb eich symud oddi wrth obaith yr efengyl, yr hon a glywsoch, ac a bregethwyd ymysg pob creadur a’r sydd dan y nef; i’r hon y’m gwnaethpwyd i Paul yn weinidog: 24 Yr hwn ydwyf yn awr yn llawenychu yn fy nioddefiadau drosoch, ac yn cyflawni’r hyn sydd yn ôl o gystuddiau Crist yn fy nghnawd i, er mwyn ei gorff ef, yr hwn yw’r eglwys: 25 I’r hon y’m gwnaethpwyd i yn weinidog, yn ôl goruchwyliaeth Duw, yr hon a roddwyd i mi tuag atoch chwi, i gyflawni gair Duw; 26 Sef y dirgelwch oedd guddiedig er oesoedd ac er cenedlaethau, ond yr awr hon a eglurwyd i’w saint ef: 27 I’r rhai yr ewyllysiodd Duw hysbysu beth yw golud gogoniant y dirgelwch hwn ymhlith y Cenhedloedd; yr hwn yw Crist ynoch chwi, gobaith y gogoniant: 28 Yr hwn yr ydym ni yn ei bregethu, gan rybuddio pob dyn, a dysgu pob dyn ym mhob doethineb; fel y cyflwynom bob dyn yn berffaith yng Nghrist Iesu:
38 A bu, a hwy yn ymdeithio, ddyfod ohono i ryw dref: a rhyw wraig, a’i henw Martha, a’i derbyniodd ef i’w thŷ. 39 Ac i hon yr oedd chwaer a elwid Mair, yr hon hefyd a eisteddodd wrth draed yr Iesu, ac a wrandawodd ar ei ymadrodd ef. 40 Ond Martha oedd drafferthus ynghylch llawer o wasanaeth: a chan sefyll gerllaw, hi a ddywedodd, Arglwydd, onid oes ofal gennyt am i’m chwaer fy ngadael i fy hun i wasanaethu? dywed wrthi gan hynny am fy helpio. 41 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthi, Martha, Martha, gofalus a thrafferthus wyt ynghylch llawer o bethau: 42 Eithr un peth sydd angenrheidiol: a Mair a ddewisodd y rhan dda, yr hon ni ddygir oddi arni.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.