Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
I’r Pencerdd, Maschil, Salm Dafydd, pan ddaeth Doeg yr Edomiad a mynegi i Saul, a dywedyd wrtho, Daeth Dafydd i dŷ Ahimelech.
52 Paham yr ymffrosti mewn drygioni, O gadarn? y mae trugaredd Duw yn parhau yn wastadol. 2 Dy dafod a ddychymyg ysgelerder; fel ellyn llym, yn gwneuthur twyll. 3 Hoffaist ddrygioni yn fwy na daioni; a chelwydd yn fwy na thraethu cyfiawnder. Sela. 4 Hoffaist bob geiriau distryw, O dafod twyllodrus. 5 Duw a’th ddistrywia dithau yn dragywydd: efe a’th gipia di ymaith, ac a’th dynn allan o’th babell, ac a’th ddiwreiddia o dir y rhai byw. Sela. 6 Y cyfiawn hefyd a welant, ac a ofnant, ac a chwarddant am ei ben. 7 Wele y gŵr ni osododd Dduw yn gadernid iddo; eithr ymddiriedodd yn lluosowgrwydd ei olud, ac a ymnerthodd yn ei ddrygioni. 8 Ond myfi sydd fel olewydden werdd yn nhŷ Dduw: ymddiriedaf yn nhrugaredd Duw byth ac yn dragywydd. 9 Clodforaf di yn dragywydd, oherwydd i ti wneuthur hyn: a disgwyliaf wrth dy enw; canys da yw gerbron dy saint.
18 Gwae y neb sydd yn dymuno dydd yr Arglwydd! beth yw hwnnw i chwi? tywyllwch, ac nid goleuni yw dydd yr Arglwydd. 19 Megis pe ffoai gŵr rhag llew, ac arth yn cyfarfod ag ef; a myned i’r tŷ, a phwyso ei law ar y pared, a’i frathu o sarff. 20 Oni bydd dydd yr Arglwydd yn dywyllwch, ac nid yn oleuni? yn dywyll iawn, ac heb lewyrch ynddo?
21 Caseais a ffieiddiais eich gwyliau, ac nid aroglaf yn eich cymanfaoedd. 22 Canys er i chwi offrymu i mi boethoffrymau, a’ch offrymau bwyd, ni fyddaf fodlon iddynt; ac nid edrychaf ar hedd‐offrwm eich pasgedigion. 23 Symud oddi wrthyf drwst dy ganiadau: canys ni wrandawaf beroriaeth dy nablau. 24 Ond rheded barn fel dyfroedd, a chyfiawnder fel ffrwd gref. 25 A offrymasoch chwi i mi aberthau a bwyd‐offrymau yn y diffeithwch ddeugain mlynedd, tŷ Israel? 26 Ond dygasoch babell eich Moloch a Chïwn, eich delwau, seren eich duw, a wnaethoch i chwi eich hunain. 27 Am hynny y caethgludaf chwi i’r tu hwnt i Damascus, medd yr Arglwydd; Duw y lluoedd yw ei enw.
14 Oherwydd hyn yr wyf yn plygu fy ngliniau at Dad ein Harglwydd Iesu Grist, 15 O’r hwn yr enwir yr holl deulu yn y nefoedd ac ar y ddaear, 16 Ar roddi ohono ef i chwi, yn ôl cyfoeth ei ogoniant, fod wedi ymgadarnhau mewn nerth, trwy ei Ysbryd ef, yn y dyn oddi mewn; 17 Ar fod Crist yn trigo trwy ffydd yn eich calonnau chwi; 18 Fel y galloch, wedi eich gwreiddio a’ch seilio mewn cariad, amgyffred gyda’r holl saint, beth yw’r lled, a’r hyd, a’r dyfnder, a’r uchder; 19 A gwybod cariad Crist, yr hwn sydd uwchlaw gwybodaeth, fel y’ch cyflawner â holl gyflawnder Duw. 20 Ond i’r hwn a ddichon wneuthur yn dra rhagorol, y tu hwnt i bob peth yr ydym ni yn eu dymuno, neu yn eu meddwl, yn ôl y nerth sydd yn gweithredu ynom ni, 21 Iddo ef y byddo’r gogoniant yn yr eglwys trwy Grist Iesu, dros yr holl genedlaethau, hyd yn oes oesoedd. Amen.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.