Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 7

Sigaion Dafydd, yr hwn a ganodd efe i’r Arglwydd oblegid geiriau Cus mab Jemini.

Arglwydd fy Nuw, ynot yr ymddiriedais: achub fi rhag fy holl erlidwyr, a gwared fi. Rhag iddo larpio fy enaid fel llew, gan ei rwygo, pryd na byddo gwaredydd. O Arglwydd fy Nuw, os gwneuthum hyn; od oes anwiredd yn fy nwylo; O thelais ddrwg i’r neb oedd heddychol â mi, (ie, mi a waredais yr hwn sydd elyn i mi heb achos;) Erlidied y gelyn fy enaid, a goddiwedded: sathred hefyd fy mywyd i’r llawr, a gosoded fy ngogoniant yn y llwch. Sela. Cyfod, Arglwydd, yn dy ddicllonedd, ymddyrcha, oherwydd llid fy ngelynion: deffro hefyd drosof i’r farn a orchmynnaist. Felly cynulleidfa y bobloedd a’th amgylchynant: er eu mwyn dychwel dithau i’r uchelder. Yr Arglwydd a farn y bobloedd: barn fi, O Arglwydd, yn ôl fy nghyfiawnder, ac yn ôl fy mherffeithrwydd sydd ynof. Darfydded weithian anwiredd yr annuwiolion, eithr cyfarwydda di y cyfiawn: canys y Duw cyfiawn a chwilia y calonnau a’r arennau. 10 Fy amddiffyn sydd o Dduw, Iachawdwr y rhai uniawn o galon. 11 Duw sydd Farnydd cyfiawn, a Duw sydd ddicllon beunydd wrth yr annuwiol. 12 Oni ddychwel yr annuwiol, efe a hoga ei gleddyf: efe a anelodd ei fwa, ac a’i paratôdd. 13 Paratôdd hefyd iddo arfau angheuol: efe a drefnodd ei saethau yn erbyn yr erlidwyr. 14 Wele, efe a ymddŵg anwiredd, ac a feichiogodd ar gamwedd, ac a esgorodd ar gelwydd. 15 Torrodd bwll, cloddiodd ef, syrthiodd hefyd yn y clawdd a wnaeth. 16 Ei anwiredd a ymchwel ar ei ben ei hun, a’i draha a ddisgyn ar ei gopa ei hun. 17 Clodforaf yr Arglwydd yn ôl ei gyfiawnder, a chanmolaf enw yr Arglwydd goruchaf.

Amos 4:6-13

A rhoddais i chwi lendid dannedd yn eich holl ddinasoedd, ac eisiau bara yn eich holl leoedd: eto ni ddychwelasoch ataf fi, medd yr Arglwydd. Myfi hefyd a ateliais y glaw rhagoch, pan oedd eto dri mis hyd y cynhaeaf: glawiais hefyd ar un ddinas, ac ni lawiais ar ddinas arall: un rhan a gafodd law; a’r rhan ni chafodd law a wywodd. Gwibiodd dwy ddinas neu dair i un ddinas, i yfed dwfr; ond nis diwallwyd: eto ni ddychwelasoch ataf fi, medd yr Arglwydd. Trewais chwi â diflaniad, ac â mallter: pan amlhaodd eich gerddi, a’ch gwinllannoedd, a’ch ffigyswydd, a’ch olewydd, y lindys a’u hysodd: eto ni throesoch ataf fi, medd yr Arglwydd. 10 Anfonais yr haint yn eich mysg, megis yn ffordd yr Aifft: eich gwŷr ieuainc a leddais â’r cleddyf, gyda chaethgludo eich meirch; a chodais ddrewi eich gwersylloedd i’ch ffroenau: eto ni throesoch ataf fi, medd yr Arglwydd. 11 Mi a ddymchwelais rai ohonoch, fel yr ymchwelodd Duw Sodom a Gomorra; ac yr oeddech fel pentewyn wedi ei achub o’r gynnau dân: eto ni throesoch ataf fi, medd yr Arglwydd. 12 Oherwydd hynny yn y modd yma y gwnaf i ti, Israel: ac oherwydd mai hyn a wnaf i ti, bydd barod, Israel, i gyfarfod â’th Dduw. 13 Canys wele, Lluniwr y mynyddoedd, a Chreawdwr y gwynt, yr hwn a fynega i ddyn beth yw ei feddwl, ac a wna y bore yn dywyllwch, ac a gerdd ar uchelderau y ddaear, yr Arglwydd, Duw y lluoedd, yw ei enw.

1 Ioan 3:11-17

11 Oblegid hon yw’r genadwri a glywsoch o’r dechreuad; bod i ni garu ein gilydd. 12 Nid fel Cain, yr hwn oedd o’r drwg, ac a laddodd ei frawd. A phaham y lladdodd ef? Oblegid bod ei weithredoedd ef yn ddrwg, a’r eiddo ei frawd yn dda. 13 Na ryfeddwch, fy mrodyr, os yw’r byd yn eich casáu chwi. 14 Nyni a wyddom ddarfod ein symud ni o farwolaeth i fywyd, oblegid ein bod yn caru’r brodyr. Yr hwn nid yw yn caru ei frawd, y mae yn aros ym marwolaeth. 15 Pob un a’r sydd yn casáu ei frawd, lleiddiad dyn yw: a chwi a wyddoch nad oes i un lleiddiad dyn fywyd tragwyddol yn aros ynddo. 16 Yn hyn yr adnabuom gariad Duw, oblegid dodi ohono ef ei einioes drosom ni: a ninnau a ddylem ddodi ein heinioes dros y brodyr. 17 Eithr yr hwn sydd ganddo dda’r byd hwn, ac a welo ei frawd mewn eisiau, ac a gaeo ei dosturi oddi wrtho, pa fodd y mae cariad Duw yn aros ynddo ef?

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.