Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Salm Asaff.
82 Duw sydd yn sefyll yng nghynulleidfa y galluog: ymhlith y duwiau y barn efe. 2 Pa hyd y bernwch ar gam? ac y derbyniwch wyneb y rhai annuwiol? Sela. 3 Bernwch y tlawd a’r amddifad: cyfiawnhewch y cystuddiedig a’r rheidus. 4 Gwaredwch y tlawd a’r anghenus: achubwch hwynt o law y rhai annuwiol. 5 Ni wyddant, ac ni ddeallant; mewn tywyllwch y rhodiant: holl sylfaenau y ddaear a symudwyd o’u lle. 6 Myfi a ddywedais, Duwiau ydych chwi; a meibion y Goruchaf ydych chwi oll. 7 Eithr byddwch feirw fel dynion, ac fel un o’r tywysogion y syrthiwch. 8 Cyfod, O Dduw, barna y ddaear: canys ti a etifeddi yr holl genhedloedd.
12 Ond chwi a roesoch i’r Nasareaid win i’w yfed; ac a orchmynasoch i’ch proffwydi, gan ddywedyd, Na phroffwydwch. 13 Wele fi wedi fy llethu tanoch fel y llethir y fen lawn o ysgubau. 14 A metha gan y buan ddianc, a’r cryf ni chadarnha ei rym, a’r cadarn ni wared ei enaid ei hun: 15 Ni saif a ddalio y bwa, ni ddianc y buan o draed, nid achub marchog march ei einioes ei hun. 16 A’r cryfaf ei galon o’r cedyrn a ffy y dwthwn hwnnw yn noeth lymun medd yr Arglwydd.
3 Gwrandewch y gair a lefarodd yr Arglwydd i’ch erbyn chwi, plant Israel, yn erbyn yr holl deulu a ddygais i fyny o wlad yr Aifft, gan ddywedyd, 2 Chwi yn unig a adnabûm o holl deuluoedd y ddaear: am hynny ymwelaf â chwi am eich holl anwireddau. 3 A rodia dau ynghyd, heb fod yn gytûn? 4 A rua y llew yn y goedwig, heb ganddo ysglyfaeth? a leisia cenau llew o’i ffau, heb ddal dim? 5 A syrth yr aderyn yn y fagl ar y ddaear, heb fod croglath iddo? a gyfyd un y fagl oddi ar y ddaear, heb ddal dim? 6 A genir utgorn yn y ddinas, heb ddychrynu o’r bobl? a fydd niwed yn y ddinas, heb i’r Arglwydd ei wneuthur? 7 Canys ni wna yr Arglwydd ddim, a’r nas dangoso ei gyfrinach i’w weision y proffwydi. 8 Rhuodd y llew, pwy nid ofna? yr Arglwydd Iôr a lefarodd, pwy ni phroffwyda?
16 Canys felly y carodd Duw y byd fel y rhoddodd efe ei unig‐anedig Fab, fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef, ond caffael ohono fywyd tragwyddol. 17 Oblegid ni ddanfonodd Duw ei Fab i’r byd i ddamnio’r byd, ond fel yr achubid y byd trwyddo ef.
18 Yr hwn sydd yn credu ynddo ef, ni ddemnir: eithr yr hwn nid yw yn credu, a ddamniwyd eisoes; oherwydd na chredodd yn enw unig‐anedig Fab Duw. 19 A hon yw’r ddamnedigaeth, ddyfod goleuni i’r byd, a charu o ddynion y tywyllwch yn fwy na’r goleuni; canys yr oedd eu gweithredoedd hwy yn ddrwg. 20 Oherwydd pob un a’r sydd yn gwneuthur drwg, sydd yn casáu’r goleuni, ac nid yw yn dyfod i’r goleuni, fel nad argyhoedder ei weithredoedd ef. 21 Ond yr hwn sydd yn gwneuthur gwirionedd, sydd yn dyfod i’r goleuni, fel yr eglurhaer ei weithredoedd ef, mai yn Nuw y gwnaed hwynt.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.