Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Salm Asaff.
82 Duw sydd yn sefyll yng nghynulleidfa y galluog: ymhlith y duwiau y barn efe. 2 Pa hyd y bernwch ar gam? ac y derbyniwch wyneb y rhai annuwiol? Sela. 3 Bernwch y tlawd a’r amddifad: cyfiawnhewch y cystuddiedig a’r rheidus. 4 Gwaredwch y tlawd a’r anghenus: achubwch hwynt o law y rhai annuwiol. 5 Ni wyddant, ac ni ddeallant; mewn tywyllwch y rhodiant: holl sylfaenau y ddaear a symudwyd o’u lle. 6 Myfi a ddywedais, Duwiau ydych chwi; a meibion y Goruchaf ydych chwi oll. 7 Eithr byddwch feirw fel dynion, ac fel un o’r tywysogion y syrthiwch. 8 Cyfod, O Dduw, barna y ddaear: canys ti a etifeddi yr holl genhedloedd.
4 Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Am dair o anwireddau Jwda, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddynt ddirmygu cyfraith yr Arglwydd, ac na chadwasant ei ddeddfau ef; a’u celwyddau a’u cyfeiliornodd hwynt, y rhai yr aeth eu tadau ar eu hôl. 5 Eithr anfonaf dân i Jwda, ac efe a ddifa balasoedd Jerwsalem.
6 Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Am dair o anwireddau Israel, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddynt werthu y cyfiawn am arian, a’r tlawd er pâr o esgidiau: 7 Y rhai a ddyheant ar ôl llwch y ddaear ar ben y tlodion, ac a wyrant ffordd y gostyngedig: a gŵr a’i dad a â at yr un llances, i halogi fy enw sanctaidd. 8 Ac ar ddillad wedi eu rhoi yng ngwystl y gorweddant wrth bob allor; a gwin y dirwyol a yfant yn nhŷ eu duw.
9 Eto myfi a ddinistriais yr Amoriad o’u blaen hwynt, yr hwn yr oedd ei uchder fel uchder y cedrwydd, ac efe oedd gryf fel derw; eto mi a ddinistriais ei ffrwythau oddi arnodd, a’i wraidd oddi tanodd. 10 Myfi hefyd a’ch dygais chwi i fyny o wlad yr Aifft, ac a’ch arweiniais chwi ddeugain mlynedd trwy yr anialwch, i feddiannu gwlad yr Amoriad. 11 A mi a gyfodais o’ch meibion chwi rai yn broffwydi, ac o’ch gwŷr ieuainc rai yn Nasareaid. Oni bu hyn, O meibion Israel? medd yr Arglwydd
9 A’r patrieirch, gan genfigennu, a werthasant Joseff i’r Aifft: ond yr oedd Duw gydag ef, 10 Ac a’i hachubodd ef o’i holl orthrymderau, ac a roes iddo hawddgarwch a doethineb yng ngolwg Pharo brenin yr Aifft; ac efe a’i gosododd ef yn llywodraethwr ar yr Aifft, ac ar ei holl dŷ. 11 Ac fe ddaeth newyn dros holl dir yr Aifft a Chanaan, a gorthrymder mawr; a’n tadau ni chawsant luniaeth. 12 Ond pan glybu Jacob fod ŷd yn yr Aifft, efe a anfonodd ein tadau ni allan yn gyntaf. 13 A’r ail waith yr adnabuwyd Joseff gan ei frodyr; a chenedl Joseff a aeth yn hysbys i Pharo. 14 Yna yr anfonodd Joseff, ac a gyrchodd ei dad Jacob, a’i holl genedl, pymtheg enaid a thrigain. 15 Felly yr aeth Jacob i waered i’r Aifft, ac a fu farw, efe a’n tadau hefyd. 16 A hwy a symudwyd i Sichem, ac a ddodwyd yn y bedd a brynasai Abraham er arian gan feibion Emor tad Sichem.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.