Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 6

I’r Pencerdd ar Neginoth ar y Seminith, Salm Dafydd.

Arglwydd, na cherydda fi yn dy lidiowgrwydd, ac na chosba fi yn dy lid. Trugarha wrthyf, Arglwydd: canys llesg ydwyf fi: iachâ fi, O Arglwydd; canys fy esgyrn a gystuddiwyd. A’m henaid a ddychrynwyd yn ddirfawr: tithau, Arglwydd, pa hyd? Dychwel, Arglwydd, gwared fy enaid: achub fi er mwyn dy drugaredd. Canys yn angau nid oes goffa amdanat: yn y bedd pwy a’th folianna? Diffygiais gan fy ochain; bob nos yr ydwyf yn gwneuthur fy ngwely yn foddfa: yr ydwyf fi yn gwlychu fy ngorweddfa â’m dagrau. Treuliodd fy llygad gan ddicter: heneiddiodd oherwydd fy holl elynion. Ciliwch oddi wrthyf, holl weithredwyr anwiredd: canys yr Arglwydd a glywodd lef fy wylofain. Clybu yr Arglwydd fy neisyfiad: yr Arglwydd a dderbyn fy ngweddi. 10 Gwaradwydder a thralloder yn ddirfawr fy holl elynion: dychweler a chywilyddier hwynt yn ddisymwth.

2 Brenhinoedd 5:19-27

19 Ac efe a ddywedodd wrtho, Dos mewn heddwch. Ac efe a aeth oddi wrtho ef encyd o ffordd.

20 Ond Gehasi, gwas Eliseus gŵr Duw, a ddywedodd, Wele, fy meistr a arbedodd Naaman y Syriad hwn, heb gymryd o’i law ef yr hyn a ddygasai efe: fel mai byw yr Arglwydd, mi a redaf ar ei ôl ef, ac a gymeraf ryw beth ganddo ef. 21 Felly Gehasi a ganlynodd ar ôl Naaman. A phan welodd Naaman ef yn rhedeg ar ei ôl, efe a ddisgynnodd oddi ar y cerbyd i’w gyfarfod ef, ac a ddywedodd, A yw pob peth yn dda? 22 Dywedodd yntau, Y mae pob peth yn dda. Fy meistr a’m hanfonodd i, gan ddywedyd, Wele, yr awr hon dau lanc o fynydd Effraim, o feibion y proffwydi, a ddaeth ataf fi: dyro yn awr iddynt hwy dalent o arian, a dau bâr o ddillad. 23 A Naaman a ddywedodd, Bydd fodlon, cymer ddwy dalent. Ac efe a fu daer arno ef; ac a rwymodd ddwy dalent arian mewn dwy god, a deubar o ddillad; ac efe a’u rhoddodd ar ddau o’i weision, i’w dwyn o’i flaen ef. 24 A phan ddaeth efe i’r bwlch, efe a’u cymerth o’u llaw hwynt, ac a’u rhoddodd i gadw yn tŷ; ac a ollyngodd ymaith y gwŷr, a hwy a aethant ymaith. 25 Ond efe a aeth i mewn, ac a safodd o flaen ei feistr. Ac Eliseus a ddywedodd wrtho ef, O ba le y daethost ti, Gehasi? Dywedodd yntau, Nid aeth dy was nac yma na thraw. 26 Ac efe a ddywedodd wrtho, Onid aeth fy nghalon gyda thi, pan drodd y gŵr oddi ar ei gerbyd i’th gyfarfod di? a ydoedd hi amser i gymryd arian, ac i gymryd gwisgoedd, ac olewyddlannau, a gwinllannau, a defaid, a gwartheg, a gweision, a morynion? 27 Am hynny gwahanglwyf Naaman a lŷn wrthyt ti, ac wrth dy had yn dragywydd. Ac efe a aeth ymaith o’i ŵydd ef yn wahanglwyfus cyn wynned â’r eira.

Actau 19:28-41

28 A phan glywsant, hwy a lanwyd o ddigofaint; ac a lefasant, gan ddywedyd, Mawr yw Diana’r Effesiaid. 29 A llanwyd yr holl ddinas o gythrwfl: a hwy a ruthrasant yn unfryd i’r orsedd, gwedi cipio Gaius ac Aristarchus o Facedonia, cydymdeithion Paul. 30 A phan oedd Paul yn ewyllysio myned i mewn i blith y bobl, ni adawodd y disgyblion iddo. 31 Rhai hefyd o benaethiaid Asia, y rhai oedd gyfeillion iddo, a yrasant ato, i ddeisyf arno, nad ymroddai efe i fyned i’r orsedd. 32 A rhai a lefasant un peth, ac eraill beth arall: canys y gynulleidfa oedd yn gymysg; a’r rhan fwyaf ni wyddent oherwydd pa beth y daethent ynghyd. 33 A hwy a dynasant Alexander allan o’r dyrfa, a’r Iddewon yn ei yrru ef ymlaen. Ac Alexander a amneidiodd â’i law am osteg, ac a fynasai ei amddiffyn ei hun wrth y bobl. 34 Eithr pan wybuant mai Iddew oedd efe, pawb ag un llef a lefasant megis dros ddwy awr, Mawr yw Diana’r Effesiaid. 35 Ac wedi i ysgolhaig y ddinas lonyddu’r bobl, efe a ddywedodd, Ha wŷr Effesiaid, pa ddyn sydd nis gŵyr fod dinas yr Effesiaid yn addoli’r dduwies fawr Diana, a’r ddelw a ddisgynnodd oddi wrth Jwpiter? 36 A chan fod y pethau hyn heb allu dywedyd i’w herbyn, rhaid i chwi fod yn llonydd, ac na wneloch ddim mewn byrbwyll. 37 Canys dygasoch yma y gwŷr hyn, y rhai nid ydynt nac yn ysbeilwyr temlau, nac yn cablu eich duwies chwi. 38 Od oes gan hynny gan Demetrius a’r crefftwyr sydd gydag ef, un hawl yn erbyn neb, y mae cyfraith i’w chael, ac y mae rhaglawiaid: rhodded pawb yn erbyn ei gilydd. 39 Ac os gofynnwch ddim am bethau eraill, mewn cynulleidfa gyfreithlon y terfynir hynny. 40 Oherwydd enbyd yw rhag achwyn arnom am y derfysg heddiw; gan nad oes un achos trwy yr hwn y gallom roddi rheswm o’r ymgyrch hwn. 41 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ollyngodd y gynulleidfa ymaith.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.