Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 30

Salm neu Gân o gysegriad tŷ Dafydd.

30 Mawrygaf di, O Arglwydd: canys dyrchefaist fi, ac ni lawenheaist fy ngelynion o’m plegid. Arglwydd fy Nuw, llefais arnat, a thithau a’m hiacheaist. Arglwydd, dyrchefaist fy enaid o’r bedd: cedwaist fi yn fyw, rhag disgyn ohonof i’r pwll. Cenwch i’r Arglwydd, ei saint ef; a chlodforwch wrth goffadwriaeth ei sancteiddrwydd ef. Canys ennyd fechan y bydd yn ei lid; yn ei fodlonrwydd y mae bywyd: dros brynhawn yr erys wylofain, ac erbyn y bore y bydd gorfoledd. Ac mi a ddywedais yn fy llwyddiant, Ni’m syflir yn dragywydd. O’th ddaioni, Arglwydd, y gosodaist gryfder yn fy mynydd: cuddiaist dy wyneb, a bûm helbulus. Arnat ti, Arglwydd, y llefais, ac â’r Arglwydd yr ymbiliais. Pa fudd sydd yn fy ngwaed, pan ddisgynnwyf i’r ffos? a glodfora y llwch di? a fynega efe dy wirionedd? 10 Clyw, Arglwydd, a thrugarha wrthyf: Arglwydd, bydd gynorthwywr i mi. 11 Troaist fy ngalar yn llawenydd i mi: diosgaist fy sachwisg, a gwregysaist fi â llawenydd; 12 Fel y cano fy ngogoniant i ti, ac na thawo. O Arglwydd fy Nuw, yn dragwyddol y’th foliannaf.

2 Brenhinoedd 4:18-31

18 A’r bachgen a gynyddodd, ac a aeth ddyddgwaith allan at ei dad at y medelwyr. 19 Ac efe a ddywedodd wrth ei dad, Fy mhen, fy mhen. Dywedodd yntau wrth lanc, Dwg ef at ei fam. 20 Ac efe a’i cymerth, ac a’i dug ef at ei fam. Ac efe a eisteddodd ar ei gliniau hi hyd hanner dydd, ac a fu farw. 21 A hi a aeth i fyny, ac a’i gosododd ef i orwedd ar wely gŵr Duw, ac a gaeodd y drws arno, ac a aeth allan. 22 A hi a alwodd ar ei gŵr, ac a ddywedodd, Anfon, atolwg, gyda mi un o’r llanciau, ac un o’r asynnod: canys mi a redaf hyd at ŵr Duw, ac a ddychwelaf. 23 Dywedodd yntau, Paham yr ei di ato ef heddiw? nid yw hi na newyddloer, na Saboth. Hithau a ddywedodd, Pob peth yn dda. 24 Yna hi a gyfrwyodd yr asyn; ac a ddywedodd wrth ei llanc, Gyr, a dos rhagot: nac aros amdanaf fi i farchogaeth, onid archwyf i ti. 25 Felly hi a aeth, ac a ddaeth at ŵr Duw i fynydd Carmel. A phan welodd gŵr Duw hi o bell, efe a ddywedodd wrth Gehasi ei was, Wele y Sunamees honno. 26 Rhed yn awr, atolwg, i’w chyfarfod, a dywed wrthi hi, A wyt ti yn iach? a ydyw dy ŵr yn iach? a ydyw y bachgen yn iach? Dywedodd hithau, Iach. 27 A phan ddaeth hi at ŵr Duw i’r mynydd, hi a ymaflodd yn ei draed ef: a Gehasi a nesaodd i’w gwthio hi ymaith. A gŵr Duw a ddywedodd, Gad hi yn llonydd: canys ei henaid sydd ofidus ynddi; a’r Arglwydd a’i celodd oddi wrthyf fi, ac nis mynegodd i mi. 28 Yna hi a ddywedodd, A ddymunais i fab gan fy arglwydd? oni ddywedais, Na thwylla fi? 29 Yna efe a ddywedodd wrth Gehasi, Gwregysa dy lwynau, a chymer fy ffon yn dy law, a dos ymaith: o chyfarfyddi â neb, na chyfarch iddo; ac o chyfarch neb di, nac ateb ef: a gosod fy ffon i ar wyneb y bachgen. 30 A mam y bachgen a ddywedodd, Fel mai byw yr Arglwydd, ac mai byw dy enaid di, nid ymadawaf fi â thi. Ac efe a gyfododd, ac a aeth ar ei hôl hi. 31 A Gehasi a gerddodd o’u blaen hwynt, ac a osododd y ffon ar wyneb y bachgen: ond nid oedd na lleferydd, na chlywed. Am hynny efe a ddychwelodd i’w gyfarfod ef; ac a fynegodd iddo, gan ddywedyd, Ni ddeffrôdd y bachgen.

2 Corinthiaid 8:1-7

Yr ydym ni hefyd yn hysbysu i chwi, frodyr, y gras Duw a roddwyd yn eglwysi Macedonia; Ddarfod, mewn mawr brofiad cystudd, i helaethrwydd eu llawenydd hwy a’u dwfn dlodi, ymhelaethu i gyfoeth eu haelioni hwy. Oblegid yn ôl eu gallu, yr wyf fi yn dyst, ac uwchlaw eu gallu, yr oeddynt yn ewyllysgar ohonynt eu hunain; Gan ddeisyfu arnom trwy lawer o ymbil, ar dderbyn ohonom ni y rhodd, a chymdeithas gweinidogaeth y saint. A hyn a wnaethant, nid fel yr oeddem ni yn gobeithio, ond hwy a’u rhoddasant eu hunain yn gyntaf i’r Arglwydd, ac i ninnau trwy ewyllys Duw: Fel y dymunasom ni ar Titus, megis y dechreuasai efe o’r blaen, felly hefyd orffen ohono yn eich plith chwi y gras hwn hefyd. Eithr fel yr ydych ym mhob peth yn helaeth, mewn ffydd, a gair, a gwybodaeth, a phob astudrwydd, ac yn eich cariad tuag atom ni; edrychwch ar fod ohonoch yn y gras hwn hefyd yn ehelaeth.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.