Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Salm neu Gân o gysegriad tŷ Dafydd.
30 Mawrygaf di, O Arglwydd: canys dyrchefaist fi, ac ni lawenheaist fy ngelynion o’m plegid. 2 Arglwydd fy Nuw, llefais arnat, a thithau a’m hiacheaist. 3 Arglwydd, dyrchefaist fy enaid o’r bedd: cedwaist fi yn fyw, rhag disgyn ohonof i’r pwll. 4 Cenwch i’r Arglwydd, ei saint ef; a chlodforwch wrth goffadwriaeth ei sancteiddrwydd ef. 5 Canys ennyd fechan y bydd yn ei lid; yn ei fodlonrwydd y mae bywyd: dros brynhawn yr erys wylofain, ac erbyn y bore y bydd gorfoledd. 6 Ac mi a ddywedais yn fy llwyddiant, Ni’m syflir yn dragywydd. 7 O’th ddaioni, Arglwydd, y gosodaist gryfder yn fy mynydd: cuddiaist dy wyneb, a bûm helbulus. 8 Arnat ti, Arglwydd, y llefais, ac â’r Arglwydd yr ymbiliais. 9 Pa fudd sydd yn fy ngwaed, pan ddisgynnwyf i’r ffos? a glodfora y llwch di? a fynega efe dy wirionedd? 10 Clyw, Arglwydd, a thrugarha wrthyf: Arglwydd, bydd gynorthwywr i mi. 11 Troaist fy ngalar yn llawenydd i mi: diosgaist fy sachwisg, a gwregysaist fi â llawenydd; 12 Fel y cano fy ngogoniant i ti, ac na thawo. O Arglwydd fy Nuw, yn dragwyddol y’th foliannaf.
8 A bu ar ryw ddiwrnod i Eliseus dramwyo i Sunem; ac yno yr oedd gwraig oludog, yr hon a’i cymhellodd ef i fwyta bara. A chynifer gwaith ag y tramwyai efe heibio, efe a droai yno i fwyta bara. 9 A hi a ddywedodd wrth ei gŵr, Wele yn awr, mi a wn mai gŵr sanctaidd i Dduw ydyw hwn, sydd yn cyniwair heibio i ni yn wastadol. 10 Gwnawn, atolwg, ystafell fechan ar y mur; a gosodwn iddo yno wely, a bwrdd, ac ystôl, a chanhwyllbren: fel y tro efe yno, pan ddelo efe atom ni. 11 Ac ar ddyddgwaith efe a ddaeth yno, ac a drodd i’r ystafell, ac a orffwysodd yno. 12 Ac efe a ddywedodd wrth Gehasi ei was, Galw ar y Sunamees hon. Yntau a alwodd arni hi: hithau a safodd ger ei fron ef. 13 Dywedodd hefyd wrtho, Dywed yn awr wrthi hi, Wele, ti a ofelaist trosom ni â’r holl ofal yma; beth sydd i’w wneuthur erot ti? a oes a fynnych di ei ddywedyd wrth y brenin, neu wrth dywysog y llu? Hithau a ddywedodd, Yng nghanol fy mhobl yr ydwyf fi yn trigo. 14 Ac efe a ddywedodd, Beth gan hynny sydd i’w wneuthur erddi hi? A Gehasi a ddywedodd, Yn ddiau nid oes iddi fab, a’i gŵr sydd hen. 15 Ac efe a ddywedodd, Galw hi. Ac efe a’i galwodd hi; a hi a safodd yn y drws. 16 Ac efe a ddywedodd, Ynghylch y pryd hwn wrth amser bywoliaeth, ti a gofleidi fab. Hithau a ddywedodd, Nage, fy arglwydd, gŵr Duw, na ddywed gelwydd i’th lawforwyn. 17 A’r wraig a feichiogodd, ac a ddug fab y pryd hwnnw, yn ôl amser bywoliaeth, yr hyn a lefarasai Eliseus wrthi hi.
14 Canys ni a wyddom fod y ddeddf yn ysbrydol: eithr myfi sydd gnawdol, wedi fy ngwerthu dan bechod. 15 Canys yr hyn yr wyf yn ei wneuthur, nid yw fodlon gennyf: canys nid y peth yr wyf yn ei ewyllysio, hynny yr wyf yn ei wneuthur; eithr y peth sydd gas gennyf, hyn yr ydwyf yn ei wneuthur. 16 Ac os y peth nid wyf yn ei ewyllysio, hynny yr wyf yn ei wneuthur, yr wyf fi yn cydsynio â’r ddeddf mai da ydyw. 17 Felly yr awron nid myfi sydd mwy yn gwneuthur hynny, eithr y pechod yr hwn sydd yn trigo ynof fi. 18 Canys mi a wn nad oes ynof fi (hynny yw, yn fy nghnawd i,) ddim da yn trigo: oblegid yr ewyllysio sydd barod gennyf; eithr cwblhau’r hyn sydd dda, nid wyf yn medru arno. 19 Canys nid wyf yn gwneuthur y peth da yr wyf yn ei ewyllysio; ond y drwg yr hwn nid wyf yn ei ewyllysio, hynny yr wyf yn ei wneuthur. 20 Ac os ydwyf fi yn gwneuthur y peth nid wyf yn ei ewyllysio, nid myfi mwyach sydd yn ei wneuthur, ond y pechod sydd yn trigo ynof fi. 21 Yr ydwyf fi gan hynny yn cael deddf, a mi yn ewyllysio gwneuthur da, fod drwg yn bresennol gyda mi. 22 Canys ymhyfrydu yr wyf yng nghyfraith Duw, yn ôl y dyn oddi mewn: 23 Eithr yr wyf yn gweled deddf arall yn fy aelodau, yn gwrthryfela yn erbyn deddf fy meddwl, ac yn fy nghaethiwo i ddeddf pechod, yr hon sydd yn fy aelodau. 24 Ys truan o ddyn wyf fi! pwy a’m gwared i oddi wrth gorff y farwolaeth hon? 25 Yr wyf fi yn diolch i Dduw, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Felly gan hynny, yr wyf fi fy hun â’r meddwl yn gwasanaethu cyfraith Duw; ond â’r cnawd, cyfraith pechod.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.