Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
I’r Pencerdd, Al‐teschith, Salm neu Gân Asaff.
75 Clodforwn dydi, O Dduw, clodforwn; canys agos yw dy enw; dy ryfeddodau a fynegant hynny. 2 Pan dderbyniwyf y gynulleidfa, mi a farnaf yn uniawn. 3 Ymddatododd y ddaear, a’i holl drigolion: myfi sydd yn cynnal ei cholofnau. Sela. 4 Dywedais wrth y rhai ynfyd, Nac ynfydwch; ac wrth y rhai annuwiol, Na ddyrchefwch eich corn: 5 Na ddyrchefwch eich corn yn uchel: na ddywedwch yn warsyth. 6 Canys nid o’r dwyrain, nac o’r gorllewin, nac o’r deau, y daw goruchafiaeth. 7 Ond Duw sydd yn barnu; efe a ostwng y naill, ac a gyfyd y llall. 8 Oblegid y mae ffiol yn llaw yr Arglwydd, a’r gwin sydd goch; yn llawn cymysg, ac efe a dywalltodd ohono: eto holl annuwiolion y tir a wasgant, ac a yfant ei waelodion. 9 Minnau a fynegaf yn dragywydd, ac a ganaf i Dduw Jacob. 10 Torraf hefyd holl gyrn y rhai annuwiol; a chyrn y rhai cyfiawn a ddyrchefir.
4 A rhyw wraig o wragedd meibion y proffwydi a lefodd ar Eliseus, gan ddywedyd, Dy was fy ngŵr a fu farw; a thi a wyddost fod dy was yn ofni yr Arglwydd: a’r echwynnwr a ddaeth i gymryd fy nau fab i i fod yn gaethion iddo. 2 Ac Eliseus a ddywedodd wrthi, Beth a wnaf fi i ti? mynega i mi, beth sydd gennyt ti yn dy dŷ? Dywedodd hithau, Nid oes dim gan dy lawforwyn yn tŷ, ond ystenaid o olew. 3 Ac efe a ddywedodd, Dos, cais i ti lestri oddi allan gan dy holl gymdogion, sef llestri gweigion, nid ychydig. 4 A phan ddelych i mewn, cae y drws arnat, ac ar dy feibion, a thywallt i’r holl lestri hynny; a dod heibio yr hwn a fyddo llawn. 5 Felly hi a aeth oddi wrtho ef, ac a gaeodd y drws arni, ac ar ei meibion: a hwynt‐hwy a ddygasant y llestri ati hi; a hithau a dywalltodd. 6 Ac wedi llenwi y llestri, hi a ddywedodd wrth ei mab, Dwg i mi eto lestr. Dywedodd yntau wrthi, Nid oes mwyach un llestr. A’r olew a beidiodd. 7 Yna hi a ddaeth ac a fynegodd i ŵr Duw. Dywedodd yntau, Dos, gwerth yr olew, a thâl dy ddyled; a bydd di fyw, ti a’th feibion, ar y rhan arall.
16 Wele, yr ydwyf fi yn eich danfon fel defaid yng nghanol bleiddiaid; byddwch chwithau gall fel y seirff, a diniwed fel y colomennod. 17 Eithr ymogelwch rhag dynion; canys hwy a’ch rhoddant chwi i fyny i’r cynghorau, ac a’ch ffrewyllant chwi yn eu synagogau. 18 A chwi a ddygir at lywiawdwyr a brenhinoedd o’m hachos i, er tystiolaeth iddynt hwy ac i’r Cenhedloedd. 19 Eithr pan y’ch rhoddant chwi i fyny, na ofelwch pa fodd neu pa beth a lefaroch: canys rhoddir i chwi yn yr awr honno pa beth a lefaroch. 20 Canys nid chwychwi yw’r rhai sydd yn llefaru, ond Ysbryd eich Tad yr hwn sydd yn llefaru ynoch. 21 A brawd a rydd frawd i fyny i farwolaeth, a thad ei blentyn: a phlant a godant i fyny yn erbyn eu rhieni, ac a barant eu marwolaeth hwynt. 22 A chas fyddwch gan bawb er mwyn fy enw i: ond yr hwn a barhao hyd y diwedd, efe fydd cadwedig. 23 A phan y’ch erlidiant yn y ddinas hon, ffowch i un arall: canys yn wir y dywedaf wrthych, Na orffennwch ddinasoedd Israel, nes dyfod Mab y dyn. 24 Nid yw’r disgybl yn uwch na’i athro, na’r gwas yn uwch na’i arglwydd. 25 Digon i’r disgybl fod fel ei athro, a’r gwas fel ei arglwydd. Os galwasant berchen y tŷ yn Beelsebub, pa faint mwy ei dylwyth ef?
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.