Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
I’r Pencerdd, Al‐teschith, Salm neu Gân Asaff.
75 Clodforwn dydi, O Dduw, clodforwn; canys agos yw dy enw; dy ryfeddodau a fynegant hynny. 2 Pan dderbyniwyf y gynulleidfa, mi a farnaf yn uniawn. 3 Ymddatododd y ddaear, a’i holl drigolion: myfi sydd yn cynnal ei cholofnau. Sela. 4 Dywedais wrth y rhai ynfyd, Nac ynfydwch; ac wrth y rhai annuwiol, Na ddyrchefwch eich corn: 5 Na ddyrchefwch eich corn yn uchel: na ddywedwch yn warsyth. 6 Canys nid o’r dwyrain, nac o’r gorllewin, nac o’r deau, y daw goruchafiaeth. 7 Ond Duw sydd yn barnu; efe a ostwng y naill, ac a gyfyd y llall. 8 Oblegid y mae ffiol yn llaw yr Arglwydd, a’r gwin sydd goch; yn llawn cymysg, ac efe a dywalltodd ohono: eto holl annuwiolion y tir a wasgant, ac a yfant ei waelodion. 9 Minnau a fynegaf yn dragywydd, ac a ganaf i Dduw Jacob. 10 Torraf hefyd holl gyrn y rhai annuwiol; a chyrn y rhai cyfiawn a ddyrchefir.
4 A Mesa brenin Moab oedd berchen defaid, ac a dalai i frenin Israel gan mil o ŵyn, a chan mil o hyrddod gwlanog. 5 Ond wedi marw Ahab, brenin Moab a wrthryfelodd yn erbyn brenin Israel.
6 A’r brenin Jehoram a aeth allan y pryd hwnnw o Samaria, ac a gyfrifodd holl Israel. 7 Efe a aeth hefyd ac a anfonodd at Jehosaffat brenin Jwda, gan ddywedyd, Brenin Moab a wrthryfelodd i’m herbyn i: a ddeui di gyda mi i ryfel yn erbyn Moab? Dywedodd yntau, Mi a af i fyny; myfi a fyddaf fel tithau, fy mhobl i fel dy bobl dithau, fy meirch i fel dy feirch dithau. 8 Ac efe a ddywedodd, Pa ffordd yr awn ni i fyny? Dywedodd yntau, Ffordd anialwch Edom. 9 Felly yr aeth brenin Israel, a brenin Jwda, a brenin Edom; ac a aethant o amgylch ar eu taith saith niwrnod: ac nid oedd dwfr i’r fyddin, nac i’r anifeiliaid oedd yn eu canlyn hwynt. 10 A brenin Israel a ddywedodd, Gwae fi! oherwydd i’r Arglwydd alw y tri brenin hyn ynghyd i’w rhoddi yn llaw Moab. 11 A Jehosaffat a ddywedodd, Onid oes yma broffwyd i’r Arglwydd, fel yr ymofynnom ni â’r Arglwydd trwyddo ef? Ac un o weision brenin Israel a atebodd ac a ddywedodd, Y mae yma Eliseus mab Saffat, yr hwn a dywalltodd ddwfr ar ddwylo Eleias. 12 A Jehosaffat a ddywedodd, Y mae gair yr Arglwydd gydag ef. Felly brenin Israel, a Jehosaffat, a brenin Edom, a aethant i waered ato ef. 13 Ac Eliseus a ddywedodd wrth frenin Israel, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi? dos at broffwydi dy dad, ac at broffwydi dy fam. A brenin Israel a ddywedodd wrtho, Nage: canys yr Arglwydd a alwodd y tri brenin hyn ynghyd i’w rhoddi yn llaw Moab. 14 Ac Eliseus a ddywedodd, Fel mai byw Arglwydd y lluoedd, yr hwn yr ydwyf yn sefyll ger ei fron, oni bai fy mod i yn perchi wyneb Jehosaffat brenin Jwda, nid edrychaswn i arnat ti, ac ni’th welswn. 15 Ond yn awr dygwch i mi gerddor. A phan ganodd y cerddor, daeth llaw yr Arglwydd arno ef. 16 Ac efe a ddywedodd, Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd; Gwna y dyffryn hwn yn llawn ffosydd. 17 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd; Ni welwch wynt, ac ni welwch law; eto y dyffryn hwn a lenwir o ddwfr, fel yr yfoch chwi, a’ch anifeiliaid, a’ch ysgrubliaid. 18 A pheth ysgafn yw hyn yng ngolwg yr Arglwydd: efe a ddyry Moab yn eich llaw chwi hefyd. 19 A chwi a drewch bob dinas gaerog, a phob dinas ddetholedig; a phob pren teg a fwriwch chwi i lawr; yr holl ffynhonnau dyfroedd hefyd a gaewch chwi, a phob darn o dir da a ddifwynwch chwi â cherrig. 20 A’r bore pan offrymwyd y bwyd‐offrwm, wele ddyfroedd yn dyfod o ffordd Edom; a’r wlad a lanwyd o ddyfroedd.
6 Na thwylled neb chwi â geiriau ofer: canys oblegid y pethau hyn y mae digofaint Duw yn dyfod ar blant yr anufudd‐dod. 7 Na fyddwch gan hynny gyfranogion â hwynt. 8 Canys yr oeddech chwi gynt yn dywyllwch, ond yr awron goleuni ydych yn yr Arglwydd: rhodiwch fel plant y goleuni; 9 (Canys ffrwyth yr Ysbryd sydd ym mhob daioni, a chyfiawnder, a gwirionedd;) 10 Gan brofi beth sydd gymeradwy gan yr Arglwydd. 11 Ac na fydded i chwi gydgyfeillach â gweithredoedd anffrwythlon y tywyllwch, eithr yn hytrach argyhoeddwch hwynt. 12 Canys brwnt yw adrodd y pethau a wneir ganddynt hwy yn ddirgel. 13 Eithr pob peth, wedi yr argyhoedder, a eglurir gan y goleuni: canys beth bynnag sydd yn egluro, goleuni yw. 14 Oherwydd paham y mae efe yn dywedyd, Deffro di yr hwn wyt yn cysgu, a chyfod oddi wrth y meirw; a Christ a oleua i ti. 15 Gwelwch gan hynny pa fodd y rhodioch yn ddiesgeulus, nid fel annoethion, ond fel doethion; 16 Gan brynu’r amser, oblegid y dyddiau sydd ddrwg. 17 Am hynny na fyddwch annoethion, eithr yn deall beth yw ewyllys yr Arglwydd. 18 Ac na feddwer chwi gan win, yn yr hyn y mae gormodedd; eithr llanwer chwi â’r Ysbryd; 19 Gan lefaru wrth eich gilydd mewn salmau, a hymnau, ac odlau ysbrydol; gan ganu a phyncio yn eich calon i’r Arglwydd; 20 Gan ddiolch yn wastad i Dduw a’r Tad am bob peth, yn enw ein Harglwydd Iesu Grist;
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.