Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 75

I’r Pencerdd, Al‐teschith, Salm neu Gân Asaff.

75 Clodforwn dydi, O Dduw, clodforwn; canys agos yw dy enw; dy ryfeddodau a fynegant hynny. Pan dderbyniwyf y gynulleidfa, mi a farnaf yn uniawn. Ymddatododd y ddaear, a’i holl drigolion: myfi sydd yn cynnal ei cholofnau. Sela. Dywedais wrth y rhai ynfyd, Nac ynfydwch; ac wrth y rhai annuwiol, Na ddyrchefwch eich corn: Na ddyrchefwch eich corn yn uchel: na ddywedwch yn warsyth. Canys nid o’r dwyrain, nac o’r gorllewin, nac o’r deau, y daw goruchafiaeth. Ond Duw sydd yn barnu; efe a ostwng y naill, ac a gyfyd y llall. Oblegid y mae ffiol yn llaw yr Arglwydd, a’r gwin sydd goch; yn llawn cymysg, ac efe a dywalltodd ohono: eto holl annuwiolion y tir a wasgant, ac a yfant ei waelodion. Minnau a fynegaf yn dragywydd, ac a ganaf i Dduw Jacob. 10 Torraf hefyd holl gyrn y rhai annuwiol; a chyrn y rhai cyfiawn a ddyrchefir.

2 Brenhinoedd 2:15-22

15 A phan welodd meibion y proffwydi ef, y rhai oedd yn Jericho ar ei gyfer, hwy a ddywedasant, Gorffwysodd ysbryd Eleias ar Eliseus. A hwy a ddaethant i’w gyfarfod ef, ac a ymgrymasant hyd lawr iddo.

16 A hwy a ddywedasant wrtho, Wele yn awr, y mae gyda’th weision ddeg a deugain o wŷr cryfion; elont yn awr, ni a atolygwn, a cheisiant dy feistr: rhag i ysbryd yr Arglwydd ei ddwyn ef, a’i fwrw ar ryw fynydd, neu mewn rhyw ddyffryn. Dywedodd yntau, Na anfonwch. 17 Eto buant daer arno, nes cywilyddio ohono, ac efe a ddywedodd, Anfonwch. A hwy a anfonasant ddengwr a deugain, y rhai a’i ceisiasant ef dridiau, ond nis cawsant. 18 A hwy a ddychwelasant ato ef, ac efe oedd yn aros yn Jericho; ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Oni ddywedais i wrthych, Nac ewch?

19 A gwŷr y ddinas a ddywedasant wrth Eliseus, Wele, atolwg, ansawdd y ddinas, da yw, fel y mae fy arglwydd yn gweled: ond y dyfroedd sydd ddrwg, a’r tir yn ddiffaith. 20 Ac efe a ddywedodd, Dygwch i mi ffiol newydd, a dodwch ynddi halen. A hwy a’i dygasant ato ef. 21 Ac efe a aeth at ffynhonnell y dyfroedd, ac a fwriodd yr halen yno, ac a ddywedodd, Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, Mi a iacheais y dyfroedd hyn; ni bydd oddi yno farwolaeth mwyach, na diffrwythdra. 22 Felly yr iachawyd y dyfroedd hyd y dydd hwn, yn ôl gair Eliseus, yr hwn a ddywedasai efe.

1 Ioan 2:7-11

Y brodyr, nid gorchymyn newydd yr wyf yn ei ysgrifennu atoch, eithr gorchymyn hen yr hwn oedd gennych o’r dechreuad. Yr hen orchymyn yw’r gair a glywsoch o’r dechreuad. Trachefn, gorchymyn newydd yr wyf yn ei ysgrifennu atoch, yr hyn sydd wir ynddo ef, ac ynoch chwithau: oblegid y tywyllwch a aeth heibio, a’r gwir oleuni sydd yr awron yn tywynnu. Yr hwn a ddywed ei fod yn y goleuni, ac a gasao ei frawd, yn y tywyllwch y mae hyd y pryd hwn. 10 Yr hwn sydd yn caru ei frawd, sydd yn aros yn y goleuni, ac nid oes rhwystr ynddo. 11 Eithr yr hwn sydd yn casáu ei frawd, yn y tywyllwch y mae, ac yn y tywyllwch y mae yn rhodio; ac ni ŵyr i ba le y mae yn myned, oblegid y mae’r tywyllwch wedi dallu ei lygaid ef.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.