Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
I’r Pencerdd, i Jedwthwn, Salm Asaff.
77 A’m llef y gwaeddais ar Dduw, â’m llef ar Dduw; ac efe a’m gwrandawodd. 2 Yn nydd fy nhrallod y ceisiais yr Arglwydd: fy archoll a redodd liw nos, ac ni pheidiodd: fy enaid a wrthododd ei ddiddanu.
11 Cofiaf weithredoedd yr Arglwydd; ie, cofiaf dy wyrthiau gynt. 12 Myfyriaf hefyd ar dy holl waith, ac am dy weithredoedd y chwedleuaf. 13 Dy ffordd, O Dduw, sydd yn y cysegr: pa dduw mor fawr â’n Duw ni? 14 Ti yw y Duw sydd yn gwneuthur rhyfeddodau: dangosaist dy nerth ymysg y bobloedd. 15 Gwaredaist â’th fraich dy bobl, meibion Jacob a Joseff. Sela. 16 Y dyfroedd a’th welsant, O Dduw, y dyfroedd a’th welsant: hwy a ofnasant; y dyfnderau hefyd a gynhyrfwyd. 17 Y cymylau a dywalltasant ddwfr: yr wybrennau a roddasant dwrf: dy saethau hefyd a gerddasant. 18 Twrf dy daran a glywyd o amgylch: mellt a oleuasant y byd; cyffrôdd a chrynodd y ddaear. 19 Dy ffordd sydd yn y môr, a’th lwybrau yn y dyfroedd mawrion; ac nid adwaenir dy ôl. 20 Tywysaist dy bobl fel defaid, trwy law Moses ac Aaron.
29 Felly brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda a aethant i fyny i Ramoth‐Gilead. 30 A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat, Mi a newidiaf fy nillad, ac a af i’r rhyfel; ond gwisg di dy ddillad dy hun. A brenin Israel a newidiodd ei ddillad, ac a aeth i’r rhyfel. 31 A brenin Syria a orchmynasai i dywysogion y cerbydau oedd ganddo, sef deuddeg ar hugain, gan ddywedyd, Nac ymleddwch â bychan nac â mawr, ond â brenin Israel yn unig. 32 A phan welodd tywysogion y cerbydau Jehosaffat, hwy a ddywedasant, Diau brenin Israel yw efe. A hwy a droesant i ymladd yn ei erbyn ef: a Jehosaffat a waeddodd. 33 A phan welodd tywysogion y cerbydau nad brenin Israel oedd efe, hwy a ddychwelasant oddi ar ei ôl ef. 34 A rhyw ŵr a dynnodd mewn bwa ar ei amcan, ac a drawodd frenin Israel rhwng cysylltiadau y llurig; am hynny efe a ddywedodd wrth ei gerbydwr, Tro dy law, a dwg fi allan o’r fyddin; canys fe a’m clwyfwyd i. 35 A’r rhyfel a gryfhaodd y dwthwn hwnnw: a’r brenin a gynhelid i fyny yn ei gerbyd yn erbyn y Syriaid; ac efe a fu farw gyda’r hwyr: a gwaed yr archoll a ffrydiodd i ganol y cerbyd. 36 Ac fe aeth cyhoeddiad trwy y gwersyll ynghylch machludiad yr haul, gan ddywedyd, Eled pob un i’w ddinas, a phob un i’w wlad ei hun.
37 Felly y bu farw y brenin, ac y daeth efe i Samaria; a hwy a gladdasant y brenin yn Samaria. 38 A golchwyd ei gerbyd ef yn llyn Samaria; a’r cŵn a lyfasant ei waed ef: yr arfau hefyd a olchwyd; yn ôl gair yr Arglwydd, yr hwn a lefarasai efe. 39 A’r rhan arall o hanesion Ahab, a’r hyn oll a wnaeth efe, a’r tŷ ifori a adeiladodd efe, a’r holl ddinasoedd a adeiladodd efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel? 40 Felly Ahab a hunodd gyda’i dadau; ac Ahaseia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
51 Ahaseia mab Ahab a aeth yn frenin ar Israel yn Samaria, yn y ddwyfed flwyddyn ar bymtheg i Jehosaffat brenin Jwda; ac a deyrnasodd ar Israel ddwy flynedd. 52 Ac efe a wnaeth ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, ac a rodiodd yn ffordd ei dad, ac yn ffordd ei fam, ac yn ffordd Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu. 53 Canys efe a wasanaethodd Baal, ac a ymgrymodd iddo, ac a ddigiodd Arglwydd Dduw Israel, yn ôl yr hyn oll a wnaethai ei dad.
5 Profwch chwychwi eich hunain, a ydych yn y ffydd; holwch eich hunain. Onid ydych yn eich adnabod eich hunain, sef bod Iesu Grist ynoch, oddieithr i chwi fod yn anghymeradwy? 6 Ond yr wyf yn gobeithio y gwybyddwch nad ydym ni yn anghymeradwy. 7 Ac yr wyf yn gweddïo ar Dduw na wneloch chwi ddim drwg; nid fel yr ymddangosom ni yn gymeradwy, ond fel y gwneloch chwi yr hyn sydd dda, er bod ohonom ni megis rhai anghymeradwy. 8 Canys ni allwn ni ddim yn erbyn y gwirionedd, ond dros y gwirionedd. 9 Canys llawen ydym pan fyddom ni yn weiniaid, a chwithau yn gryfion: a hyn hefyd yr ydym yn ei ddymuno, sef eich perffeithrwydd chwi. 10 Am hynny myfi yn absennol ydwyf yn ysgrifennu’r pethau hyn, fel pan fyddwyf bresennol nad arferwyf doster, yn ôl yr awdurdod a roddes yr Arglwydd i mi er adeilad, ac nid er dinistr.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.