Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
1 Brenhinoedd 19:1-4

19 Ac Ahab a fynegodd i Jesebel yr hyn oll a wnaethai Eleias; a chyda phob peth, y modd y lladdasai efe yr holl broffwydi â’r cleddyf. Yna Jesebel a anfonodd gennad at Eleias, gan ddywedyd, Fel hyn y gwnelo y duwiau, ac fel hyn y chwanegont, oni wnaf erbyn y pryd hwn yfory dy einioes di fel einioes un ohonynt hwy. A phan welodd efe hynny, efe a gyfododd, ac a aeth am ei einioes, ac a ddaeth i Beerseba, yr hon sydd yn Jwda, ac a adawodd ei lanc yno.

Ond efe a aeth i’r anialwch daith diwrnod, ac a ddaeth ac a eisteddodd dan ferywen; ac a ddeisyfodd iddo gael marw: dywedodd hefyd, Digon yw; yn awr, Arglwydd, cymer fy einioes: canys nid ydwyf fi well na’m tadau.

1 Brenhinoedd 19:5-7

Ac fel yr oedd efe yn gorwedd ac yn cysgu dan ferywen, wele, angel a gyffyrddodd ag ef, ac a ddywedodd wrtho, Cyfod, bwyta. Ac efe a edrychodd: ac wele deisen wedi ei chrasu ar farwor, a ffiolaid o ddwfr wrth ei ben ef. Ac efe a fwytaodd ac a yfodd, ac a gysgodd drachefn. Ac angel yr Arglwydd a ddaeth drachefn yr ail waith, ac a gyffyrddodd ag ef, ac a ddywedodd, Cyfod a bwyta; canys y mae i ti lawer o ffordd.

1 Brenhinoedd 19:8-15

Ac efe a gyfododd, ac a fwytaodd ac a yfodd; a thrwy rym y bwyd hwnnw y cerddodd efe ddeugain niwrnod a deugain nos, hyd Horeb mynydd Duw.

Ac yno yr aeth efe i fewn ogof, ac a letyodd yno. Ac wele air yr Arglwydd ato ef; ac efe a ddywedodd wrtho, Beth a wnei di yma, Eleias? 10 Ac efe a ddywedodd, Dygais fawr sêl dros Arglwydd Dduw y lluoedd; oherwydd i feibion Israel wrthod dy gyfamod di, a distrywio dy allorau di, a lladd dy broffwydi â’r cleddyf: a mi fy hunan a adawyd; a cheisio y maent ddwyn fy einioes innau. 11 Ac efe a ddywedodd, Dos allan, a saf yn y mynydd gerbron yr Arglwydd. Ac wele yr Arglwydd yn myned heibio, a gwynt mawr a chryf yn rhwygo’r mynyddoedd, ac yn dryllio’r creigiau o flaen yr Arglwydd; ond nid oedd yr Arglwydd yn y gwynt: ac ar ôl y gwynt, daeargryn; ond nid oedd yr Arglwydd yn y ddaeargryn: 12 Ac ar ôl y ddaeargryn, tân; ond nid oedd yr Arglwydd yn y tân: ac ar ôl y tân, llef ddistaw fain. 13 A phan glybu Eleias, efe a oblygodd ei wyneb yn ei fantell, ac a aeth allan, ac a safodd wrth ddrws yr ogof. Ac wele lef yn dyfod ato, yr hon a ddywedodd, Beth a wnei di yma, Eleias? 14 Dywedodd yntau, Dygais fawr sêl dros Arglwydd Dduw y lluoedd; oherwydd i feibion Israel wrthod dy gyfamod di, a distrywio dy allorau, a lladd dy broffwydi â’r cleddyf: a mi fy hunan a adawyd; a cheisio y maent fy einioes innau i’w dwyn hi ymaith. 15 A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Dos, dychwel i’th ffordd i anialwch Damascus: a phan ddelych, eneinia Hasael yn frenin ar Syria;

Salmau 42

I’r Pencerdd, Maschil, i feibion Cora.

42 Fel y brefa yr hydd am yr afonydd dyfroedd, felly yr hiraetha fy enaid amdanat ti, O Dduw. Sychedig yw fy enaid am Dduw, am y Duw byw: pa bryd y deuaf ac yr ymddangosaf gerbron Duw? Fy nagrau oedd fwyd i mi ddydd a nos, tra dywedant wrthyf bob dydd, Pa le y mae dy Dduw? Tywalltwn fy enaid ynof, pan gofiwn hynny: canys aethwn gyda’r gynulleidfa, cerddwn gyda hwynt i dŷ Dduw, mewn sain cân a moliant, fel tyrfa yn cadw gŵyl. Paham, fy enaid, y’th ddarostyngir, ac yr ymderfysgi ynof? gobeithia yn Nuw: oblegid moliannaf ef eto, am iachawdwriaeth ei wynepryd. Fy Nuw, fy enaid a ymddarostwng ynof: am hynny y cofiaf di, o dir yr Iorddonen, a’r Hermoniaid, o fryn Misar. Dyfnder a eilw ar ddyfnder, wrth sŵn dy bistylloedd di: dy holl donnau a’th lifeiriaint a aethant drosof fi, Eto yr Arglwydd a orchymyn ei drugaredd liw dydd, a’i gân fydd gyda mi liw nos; sef gweddi ar Dduw fy einioes. Dywedaf wrth Dduw fy nghraig, Paham yr anghofiaist fi? paham y rhodiaf yn alarus trwy orthrymder y gelyn? 10 Megis â chleddyf yn fy esgyrn y mae fy ngwrthwynebwyr yn fy ngwaradwyddo, pan ddywedant wrthyf bob dydd, Pa le y mae dy Dduw? 11 Paham y’th ddarostyngir, fy enaid? a phaham y terfysgi ynof? ymddiried yn Nuw; canys eto y moliannaf ef, sef iachawdwriaeth fy wyneb, a’m Duw.

Salmau 43

43 Barn fi, O Dduw, a dadlau fy nadl yn erbyn y genhedlaeth anhrugarog: gwared fi rhag y dyn twyllodrus ac anghyfiawn. Canys ti yw Duw fy nerth: paham y’m bwri ymaith? paham yr af yn alarus trwy orthrymder y gelyn? Anfon dy oleuni a’th wirionedd: tywysant hwy fi; ac arweiniant fi i fynydd dy sancteiddrwydd, ac i’th bebyll. Yna yr af at allor Duw, at Dduw hyfrydwch fy ngorfoledd; a mi a’th foliannaf ar y delyn, O Dduw, fy Nuw. Paham y’th ddarostyngir, fy enaid? a phaham y terfysgi ynof? gobeithia yn Nuw; canys eto y moliannaf ef, sef iachawdwriaeth fy wyneb, a’m Duw.

Galatiaid 3:23-29

23 Eithr cyn dyfod ffydd, y’n cadwyd dan y ddeddf, wedi ein cyd‐gau i’r ffydd, yr hon oedd i’w datguddio. 24 Y ddeddf gan hynny oedd ein hathro ni at Grist, fel y’n cyfiawnheid trwy ffydd. 25 Eithr wedi dyfod ffydd, nid ydym mwyach dan athro. 26 Canys chwi oll ydych blant i Dduw trwy ffydd yng Nghrist Iesu. 27 Canys cynifer ohonoch ag a fedyddiwyd yng Nghrist, a wisgasoch Grist. 28 Nid oes nac Iddew na Groegwr, nid oes na chaeth na rhydd, nid oes na gwryw na benyw: canys chwi oll un ydych yng Nghrist Iesu. 29 Ac os eiddo Crist ydych, yna had Abraham ydych, ac etifeddion yn ôl yr addewid.

Luc 8:26-39

26 A hwy a hwyliasant i wlad y Gadareniaid, yr hon sydd o’r tu arall, ar gyfer Galilea. 27 Ac wedi iddo fyned allan i dir, cyfarfu ag ef ryw ŵr o’r ddinas, yr hwn oedd ganddo gythreuliaid er ys talm o amser; ac ni wisgai ddillad, ac nid arhosai mewn tŷ, ond yn y beddau. 28 Hwn, wedi gweled yr Iesu, a dolefain, a syrthiodd i lawr ger ei fron ef, ac a ddywedodd â llef uchel, Beth sydd i mi â thi, O Iesu, Fab Duw goruchaf? yr wyf yn atolwg i ti na’m poenech. 29 (Canys efe a orchmynasai i’r ysbryd aflan ddyfod allan o’r dyn. Canys llawer o amserau y cipiasai ef: ac efe a gedwid yn rhwym â chadwynau, ac â llyffetheiriau; ac wedi dryllio’r rhwymau, efe a yrrwyd gan y cythraul i’r diffeithwch.) 30 A’r Iesu a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Beth yw dy enw di? Yntau a ddywedodd, Lleng: canys llawer o gythreuliaid a aethent iddo ef. 31 A hwy a ddeisyfasant arno, na orchmynnai iddynt fyned i’r dyfnder. 32 Ac yr oedd yno genfaint o foch lawer yn pori ar y mynydd: a hwynt‐hwy a atolygasant iddo adael iddynt fyned i mewn i’r rhai hynny. Ac efe a adawodd iddynt. 33 A’r cythreuliaid a aethant allan o’r dyn, ac a aethant i mewn i’r moch: a’r genfaint a ruthrodd oddi ar y dibyn i’r llyn, ac a foddwyd. 34 A phan welodd y meichiaid yr hyn a ddarfuasai, hwy a ffoesant, ac a aethant, ac a fynegasant yn y ddinas, ac yn y wlad. 35 A hwy a aethant allan i weled y peth a wnaethid; ac a ddaethant at yr Iesu, ac a gawsant y dyn, o’r hwn yr aethai’r cythreuliaid allan, yn ei ddillad, a’i iawn bwyll, yn eistedd wrth draed yr Iesu: a hwy a ofnasant. 36 A’r rhai a welsent, a fynegasant hefyd iddynt pa fodd yr iachasid y cythreulig.

37 A’r holl liaws o gylch gwlad y Gadareniaid a ddymunasant arno fyned ymaith oddi wrthynt; am eu bod mewn ofn mawr. Ac efe wedi myned i’r llong, a ddychwelodd. 38 A’r gŵr o’r hwn yr aethai’r cythreuliaid allan, a ddeisyfodd arno gael bod gydag ef: eithr yr Iesu a’i danfonodd ef ymaith, gan ddywedyd, 39 Dychwel i’th dŷ, a dangos faint o bethau a wnaeth Duw i ti. Ac efe a aeth, dan bregethu trwy gwbl o’r ddinas, faint a wnaethai’r Iesu iddo.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.