Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
I’r Pencerdd, Maschil, i feibion Cora.
42 Fel y brefa yr hydd am yr afonydd dyfroedd, felly yr hiraetha fy enaid amdanat ti, O Dduw. 2 Sychedig yw fy enaid am Dduw, am y Duw byw: pa bryd y deuaf ac yr ymddangosaf gerbron Duw? 3 Fy nagrau oedd fwyd i mi ddydd a nos, tra dywedant wrthyf bob dydd, Pa le y mae dy Dduw? 4 Tywalltwn fy enaid ynof, pan gofiwn hynny: canys aethwn gyda’r gynulleidfa, cerddwn gyda hwynt i dŷ Dduw, mewn sain cân a moliant, fel tyrfa yn cadw gŵyl. 5 Paham, fy enaid, y’th ddarostyngir, ac yr ymderfysgi ynof? gobeithia yn Nuw: oblegid moliannaf ef eto, am iachawdwriaeth ei wynepryd. 6 Fy Nuw, fy enaid a ymddarostwng ynof: am hynny y cofiaf di, o dir yr Iorddonen, a’r Hermoniaid, o fryn Misar. 7 Dyfnder a eilw ar ddyfnder, wrth sŵn dy bistylloedd di: dy holl donnau a’th lifeiriaint a aethant drosof fi, 8 Eto yr Arglwydd a orchymyn ei drugaredd liw dydd, a’i gân fydd gyda mi liw nos; sef gweddi ar Dduw fy einioes. 9 Dywedaf wrth Dduw fy nghraig, Paham yr anghofiaist fi? paham y rhodiaf yn alarus trwy orthrymder y gelyn? 10 Megis â chleddyf yn fy esgyrn y mae fy ngwrthwynebwyr yn fy ngwaradwyddo, pan ddywedant wrthyf bob dydd, Pa le y mae dy Dduw? 11 Paham y’th ddarostyngir, fy enaid? a phaham y terfysgi ynof? ymddiried yn Nuw; canys eto y moliannaf ef, sef iachawdwriaeth fy wyneb, a’m Duw.
43 Barn fi, O Dduw, a dadlau fy nadl yn erbyn y genhedlaeth anhrugarog: gwared fi rhag y dyn twyllodrus ac anghyfiawn. 2 Canys ti yw Duw fy nerth: paham y’m bwri ymaith? paham yr af yn alarus trwy orthrymder y gelyn? 3 Anfon dy oleuni a’th wirionedd: tywysant hwy fi; ac arweiniant fi i fynydd dy sancteiddrwydd, ac i’th bebyll. 4 Yna yr af at allor Duw, at Dduw hyfrydwch fy ngorfoledd; a mi a’th foliannaf ar y delyn, O Dduw, fy Nuw. 5 Paham y’th ddarostyngir, fy enaid? a phaham y terfysgi ynof? gobeithia yn Nuw; canys eto y moliannaf ef, sef iachawdwriaeth fy wyneb, a’m Duw.
3 Perffeithrwydd yr uniawn a’u tywys hwynt: ond trawsedd yr anffyddloniaid a’u difetha hwynt. 4 Ni thycia cyfoeth yn nydd digofaint: ond cyfiawnder a wared rhag angau. 5 Cyfiawnder y perffaith a’i hyfforddia ef: ond o achos ei ddrygioni y syrth y drygionus. 6 Cyfiawnder y cyfiawn a’u gwared hwynt: ond troseddwyr a ddelir yn eu drygioni. 7 Pan fyddo marw dyn drygionus, fe a ddarfu am ei obaith ef: a gobaith y traws a gyfrgollir. 8 Y cyfiawn a waredir o gyfyngder, a’r drygionus a ddaw yn ei le ef. 9 Rhagrithiwr â’i enau a lygra ei gymydog: ond y cyfiawn a waredir trwy wybodaeth. 10 Yr holl ddinas a ymlawenha oherwydd llwyddiant y cyfiawn: a phan gyfrgoller y drygionus, y bydd gorfoledd. 11 Trwy fendith y cyfiawn y dyrchefir y ddinas: ond trwy enau y drygionus y dinistrir hi. 12 Y neb sydd ddisynnwyr a ddiystyra ei gymydog; ond y synhwyrol a dau â sôn. 13 Yr hwn a rodia yn athrodwr, a ddatguddia gyfrinach: ond y ffyddlon ei galon a gela y peth.
27 A phan oedd yr Iesu yn myned oddi yno, dau ddeillion a’i canlynasant ef, gan lefain a dywedyd, Mab Dafydd, trugarha wrthym. 28 Ac wedi iddo ddyfod i’r tŷ, y deillion a ddaethant ato: a’r Iesu a ddywedodd wrthynt, a ydych chwi yn credu y gallaf fi wneuthur hyn? Hwy a ddywedasant wrtho, Ydym, Arglwydd. 29 Yna y cyffyrddodd efe â’u llygaid hwy, gan ddywedyd, Yn ôl eich ffydd bydded i chwi. 30 A’u llygaid a agorwyd: a’r Iesu a orchmynnodd iddynt trwy fygwth, gan ddywedyd, Gwelwch nas gwypo neb. 31 Ond wedi iddynt ymado, hwy a’i clodforasant ef trwy’r holl wlad honno.
32 Ac a hwy yn myned allan, wele, rhai a ddygasant ato ddyn mud, cythreulig. 33 Ac wedi bwrw y cythraul allan, llefarodd y mudan: a’r torfeydd a ryfeddasant, gan ddywedyd, Ni welwyd y cyffelyb erioed yn Israel. 34 Ond y Phariseaid a ddywedasant, Trwy bennaeth y cythreuliaid y mae ef yn bwrw allan gythreuliaid.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.