Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 32

Salm Dafydd, er athrawiaeth.

32 Gwyn ei fyd y neb y maddeuwyd ei drosedd, ac y cuddiwyd ei bechod. Gwyn ei fyd y dyn ni chyfrif yr Arglwydd iddo anwiredd, ac ni byddo dichell yn ei ysbryd. Tra y tewais, heneiddiodd fy esgyrn, gan fy rhuad ar hyd y dydd. Canys trymhaodd dy law arnaf ddydd a nos: fy irder a drowyd yn sychder haf. Sela. Addefais fy mhechod wrthyt, a’m hanwiredd ni chuddiais: dywedais, Cyffesaf yn fy erbyn fy hun fy anwireddau i’r Arglwydd; a thi a faddeuaist anwiredd fy mhechod. Sela. Am hyn y gweddïa pob duwiol arnat ti yn yr amser y’th geffir: yn ddiau yn llifeiriant dyfroedd mawrion, ni chânt nesáu ato ef. Ti ydwyt loches i mi; cedwi fi rhag ing: amgylchyni fi â chaniadau ymwared. Sela. Cyfarwyddaf di, a dysgaf di yn y ffordd yr elych: â’m llygad arnat y’th gynghoraf. Na fyddwch fel march, neu ful, heb ddeall: yr hwn y mae rhaid atal ei ên â genfa, ac â ffrwyn, rhag ei ddynesáu atat. 10 Gofidiau lawer fydd i’r annuwiol: ond y neb a ymddiriedo yn yr Arglwydd, trugaredd a’i cylchyna ef. 11 Y rhai cyfiawn, byddwch lawen a hyfryd yn yr Arglwydd: a’r rhai uniawn o galon oll, cenwch yn llafar.

Josua 4:14-24

14 Y dwthwn hwnnw yr Arglwydd a fawrhaodd Josua yng ngolwg holl Israel; a hwy a’i hofnasant ef, fel yr ofnasant Moses, holl ddyddiau ei einioes. 15 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Josua, gan ddywedyd, 16 Gorchymyn i’r offeiriaid, sydd yn dwyn arch y dystiolaeth, ddyfod ohonynt i fyny allan o’r Iorddonen. 17 Am hynny Josua a orchmynnodd i’r offeiriaid, gan ddywedyd, Deuwch i fyny allan o’r Iorddonen. 18 A phan ddaeth yr offeiriaid, oedd yn dwyn arch cyfamod yr Arglwydd, i fyny o ganol yr Iorddonen, a sengi o wadnau traed yr offeiriaid ar y sychdir; yna dyfroedd yr Iorddonen a ddychwelasant i’w lle, ac a aethant, megis cynt, dros ei holl geulennydd.

19 A’r bobl a ddaethant i fyny o’r Iorddonen y degfed dydd o’r mis cyntaf; ac a wersyllasant yn Gilgal, yn eithaf tu dwyrain Jericho.

20 A’r deuddeg carreg hynny, y rhai a ddygasent o’r Iorddonen, a sefydlodd Josua yn Gilgal. 21 Ac efe a lefarodd wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Pan ofynno eich meibion chwi yn ôl hyn i’w tadau, gan ddywedyd, Beth yw y cerrig hyn? 22 Yna yr hysbyswch i’ch meibion, gan ddywedyd, Israel a ddaeth trwy’r Iorddonen hon ar dir sych. 23 Canys yr Arglwydd eich Duw chwi a sychodd ddyfroedd yr Iorddonen o’ch blaen chwi, nes i chwi fyned drwodd; megis y gwnaeth yr Arglwydd eich Duw i’r môr coch, yr hwn a sychodd efe o’n blaen ni, nes i ni fyned drwodd: 24 Fel yr adnabyddo holl bobloedd y ddaear law yr Arglwydd, mai nerthol yw; fel yr ofnoch yr Arglwydd eich Duw bob amser.

2 Corinthiaid 5:6-15

Am hynny yr ydym yn hyderus bob amser, ac yn gwybod, tra ydym yn gartrefol yn y corff, ein bod oddi cartref oddi wrth yr Arglwydd: Canys wrth ffydd yr ydym yn rhodio, ac nid wrth olwg. Ond yr ydym yn hy, ac yn gweled yn dda yn hytrach fod oddi cartref o’r corff, a chartrefu gyda’r Arglwydd. Am hynny hefyd yr ydym yn ymorchestu, pa un bynnag ai gartref y byddom, ai oddi cartref, ein bod yn gymeradwy ganddo ef. 10 Canys rhaid i ni oll ymddangos gerbron brawdle Crist; fel y derbynio pob un y pethau a wnaethpwyd yn y corff, yn ôl yr hyn a wnaeth, pa un bynnag ai da ai drwg. 11 A ni gan hynny yn gwybod ofn yr Arglwydd, yr ydym yn perswadio dynion: eithr i Dduw y’n gwnaed yn hysbys; ac yr ydwyf yn gobeithio ddarfod ein gwneuthur yn hysbys yn eich cydwybodau chwithau hefyd. 12 Canys nid ydym yn ein canmol ein hunain drachefn wrthych, ond yn rhoddi i chwi achlysur gorfoledd o’n plegid ni, fel y caffoch beth i ateb yn erbyn y rhai sydd yn gorfoleddu yn y golwg, ac nid yn y galon. 13 Canys pa un bynnag ai amhwyllo yr ydym, i Dduw yr ydym; ai yn ein pwyll yr ydym, i chwi yr ydym. 14 Canys y mae cariad Crist yn ein cymell ni, gan farnu ohonom hyn; os bu un farw dros bawb, yna meirw oedd pawb: 15 Ac efe a fu farw dros bawb, fel na byddai i’r rhai byw fyw mwyach iddynt eu hunain, ond i’r hwn a fu farw drostynt, ac a gyfodwyd.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.