Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Salm Dafydd i’r Pencerdd, sef i Jedwthwn.
39 Dywedais, Cadwaf fy ffyrdd, rhag pechu â’m tafod: cadwaf ffrwyn yn fy ngenau, tra fyddo yr annuwiol yn fy ngolwg. 2 Tewais yn ddistaw, ie, tewais â daioni; a’m dolur a gyffrôdd. 3 Gwresogodd fy nghalon o’m mewn: tra yr oeddwn yn myfyrio, enynnodd tân, a mi a leferais â’m tafod. 4 Arglwydd, pâr i mi wybod fy niwedd, a pheth yw mesur fy nyddiau; fel y gwypwyf o ba oedran y byddaf fi. 5 Wele, gwnaethost fy nyddiau fel dyrnfedd; a’m heinioes sydd megis diddim yn dy olwg di: diau mai cwbl wagedd yw pob dyn, pan fo ar y gorau. Sela. 6 Dyn yn ddiau sydd yn rhodio mewn cysgod, ac yn ymdrafferthu yn ofer: efe a dyrra olud, ac nis gŵyr pwy a’i casgl. 7 Ac yn awr beth a ddisgwyliaf, O Arglwydd? fy ngobaith sydd ynot ti. 8 Gwared fi o’m holl gamweddau; ac na osod fi yn waradwydd i’r ynfyd. 9 Euthum yn fud, ac nid agorais fy ngenau: canys ti a wnaethost hyn. 10 Tyn dy bla oddi wrthyf: gan ddyrnod dy law y darfûm i. 11 Pan gosbit ddyn â cheryddon am anwiredd, datodit fel gwyfyn ei ardderchowgrwydd ef: gwagedd yn ddiau yw pob dyn. Sela. 12 Gwrando fy ngweddi, Arglwydd, a chlyw fy llef; na thaw wrth fy wylofain: canys ymdeithydd ydwyf gyda thi, ac alltud, fel fy holl dadau. 13 Paid â mi, fel y cryfhawyf cyn fy myned, ac na byddwyf mwy.
17 A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd, 2 Mab dyn, traetha ddychymyg, a diarheba ddihareb wrth dŷ Israel, 3 A dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Eryr mawr, mawr ei adenydd, hir ei asgell, llawn plu, yr hwn oedd iddo amryw liwiau, a ddaeth i Libanus, ac a gymerth frigyn uchaf y gedrwydden. 4 Torrodd frig ei blagur hi, ac a’i dug i dir marsiandïaeth: yn ninas marchnadyddion y gosododd efe ef. 5 A chymerth o had y tir, ac a’i bwriodd mewn maes ffrwythlon; efe a’i gosododd ef wrth ddyfroedd lawer, ac a’i plannodd fel helygen. 6 Ac efe a dyfodd, ac a aeth yn winwydden wasgarog, isel o dwf, a’i changau yn troi ato ef; a’i gwraidd oedd dano ef: felly yr aeth yn winwydden, ac y dug geinciau, ac y bwriodd frig. 7 Yr oedd hefyd ryw eryr mawr, mawr ei esgyll, ac â llawer o blu: ac wele y winwydden hon yn plygu ei gwraidd tuag ato ef, ac yn bwrw ei cheinciau tuag ato, i’w dyfrhau ar hyd rhigolau ei phlaniad. 8 Mewn maes da wrth ddyfroedd lawer y planasid hi, i fwrw brig, ac i ddwyn ffrwyth, fel y byddai yn winwydden hardd‐deg. 9 Dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw: A lwydda hi? oni thyn efe ei gwraidd hi? ac oni thyr efe ei ffrwyth hi, fel y gwywo? sych holl ddail ei brig, ac nid trwy fraich mawr, na thrwy bobl lawer, i’w thynnu hi o’i gwraidd. 10 Ie, wele, wedi ei phlannu, a lwydda hi? gan wywo oni wywa, pan gyffyrddo gwynt y dwyrain â hi? yn rhigolau ei thwf y gwywa.
12 Oblegid cynifer ag a bechasant yn ddi‐ddeddf, a gyfrgollir hefyd yn ddi‐ddeddf; a chynifer ag a bechasant yn y ddeddf, a fernir wrth y ddeddf; 13 (Canys nid gwrandawyr y ddeddf sydd gyfiawn gerbron Duw, ond gwneuthurwyr y ddeddf a gyfiawnheir. 14 Canys pan yw’r Cenhedloedd y rhai nid yw’r ddeddf ganddynt, wrth naturiaeth yn gwneuthur y pethau sydd yn y ddeddf, y rhai hyn heb fod y ddeddf ganddynt, ydynt ddeddf iddynt eu hunain: 15 Y rhai sydd yn dangos gweithred y ddeddf yn ysgrifenedig yn eu calonnau, a’u cydwybod yn cyd‐dystiolaethu, a’u meddyliau yn cyhuddo ei gilydd, neu yn esgusodi;) 16 Yn y dydd y barno Duw ddirgeloedd dynion, yn ôl fy efengyl i, trwy Iesu Grist.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.