Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 39

Salm Dafydd i’r Pencerdd, sef i Jedwthwn.

39 Dywedais, Cadwaf fy ffyrdd, rhag pechu â’m tafod: cadwaf ffrwyn yn fy ngenau, tra fyddo yr annuwiol yn fy ngolwg. Tewais yn ddistaw, ie, tewais â daioni; a’m dolur a gyffrôdd. Gwresogodd fy nghalon o’m mewn: tra yr oeddwn yn myfyrio, enynnodd tân, a mi a leferais â’m tafod. Arglwydd, pâr i mi wybod fy niwedd, a pheth yw mesur fy nyddiau; fel y gwypwyf o ba oedran y byddaf fi. Wele, gwnaethost fy nyddiau fel dyrnfedd; a’m heinioes sydd megis diddim yn dy olwg di: diau mai cwbl wagedd yw pob dyn, pan fo ar y gorau. Sela. Dyn yn ddiau sydd yn rhodio mewn cysgod, ac yn ymdrafferthu yn ofer: efe a dyrra olud, ac nis gŵyr pwy a’i casgl. Ac yn awr beth a ddisgwyliaf, O Arglwydd? fy ngobaith sydd ynot ti. Gwared fi o’m holl gamweddau; ac na osod fi yn waradwydd i’r ynfyd. Euthum yn fud, ac nid agorais fy ngenau: canys ti a wnaethost hyn. 10 Tyn dy bla oddi wrthyf: gan ddyrnod dy law y darfûm i. 11 Pan gosbit ddyn â cheryddon am anwiredd, datodit fel gwyfyn ei ardderchowgrwydd ef: gwagedd yn ddiau yw pob dyn. Sela. 12 Gwrando fy ngweddi, Arglwydd, a chlyw fy llef; na thaw wrth fy wylofain: canys ymdeithydd ydwyf gyda thi, ac alltud, fel fy holl dadau. 13 Paid â mi, fel y cryfhawyf cyn fy myned, ac na byddwyf mwy.

Jeremeia 11:1-17

11 Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd, gan ddywedyd, Gwrandewch eiriau y cyfamod hwn, a dywedwch wrth wŷr Jwda, ac wrth breswylwyr Jerwsalem; Dywed hefyd wrthynt, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel: Melltigedig fyddo y gŵr ni wrendy ar eiriau y cyfamod hwn, Yr hwn a orchmynnais i’ch tadau chwi y dydd y dygais hwynt o wlad yr Aifft, o’r ffwrn haearn, gan ddywedyd, Gwrandewch ar fy llef, a gwnewch hwynt, yn ôl yr hyn oll a orchmynnwyf i chwi: felly chwi a fyddwch yn bobl i mi, a minnau a fyddaf yn Dduw i chwithau: Fel y gallwyf gwblhau y llw a dyngais wrth eich tadau, ar roddi iddynt dir yn llifeirio o laeth a mêl, megis y mae heddiw. Yna yr atebais, ac y dywedais, O Arglwydd, felly y byddo. Yna yr Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Cyhoedda y geiriau hyn oll yn ninasoedd Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem, gan ddywedyd, Gwrandewch eiriau y cyfamod hwn, a gwnewch hwynt. Canys gan dystiolaethu y tystiolaethais wrth eich tadau, y dydd y dygais hwynt i fyny o dir yr Aifft, hyd y dydd hwn, trwy godi yn fore, a thystiolaethu, gan ddywedyd, Gwrandewch ar fy llais. Ond ni wrandawsant, ac ni ogwyddasant eu clust, eithr rhodiasant bawb yn ôl cyndynrwydd eu calon ddrygionus: am hynny y dygaf arnynt holl eiriau y cyfamod hwn, yr hwn a orchmynnais iddynt ei wneuthur, ond ni wnaethant. A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Cydfradwriaeth a gafwyd yng ngwŷr Jwda, ac ymysg trigolion Jerwsalem. 10 Troesant at anwiredd eu tadau gynt, y rhai a wrthodasant wrando fy ngeiriau: a hwy a aethant ar ôl duwiau dieithr i’w gwasanaethu hwy: tŷ Jwda a thŷ Israel a dorasant fy nghyfamod yr hwn a wneuthum â’u tadau hwynt.

11 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd, Wele fi yn dwyn drwg arnynt, yr hwn nis gallant fyned oddi wrtho: yna y gwaeddant arnaf, ac ni wrandawaf hwynt. 12 Yna dinasoedd Jwda a thrigolion Jerwsalem a ânt, ac a waeddant ar y duwiau yr arogldarthant iddynt: ond gan waredu ni allant eu gwared hwynt yn amser eu drygfyd. 13 Canys yn ôl rhifedi dy ddinasoedd yr oedd dy dduwiau, O Jwda; ac yn ôl rhifedi heolydd Jerwsalem y gosodasoch allorau i’r peth gwaradwyddus hwnnw, ie, allorau i fwgdarthu i Baal. 14 Am hynny na weddïa dros y bobl hyn, ac na chyfod waedd neu weddi drostynt: canys ni wrandawaf yr amser y gwaeddant arnaf oherwydd eu drygfyd. 15 Beth a wna fy annwyl yn fy nhŷ, gan iddi wneuthur ysgelerder lawer? a’r cig cysegredig a aeth ymaith oddi wrthyt: pan wnelit ddrygioni, yna y llawenychit. 16 Olewydden ddeiliog deg, o ffrwyth prydferth, y galwodd yr Arglwydd dy enw: trwy drwst cynnwrf mawr y cyneuodd tân ynddi, a’i changhennau a dorrwyd. 17 Canys Arglwydd y lluoedd, yr hwn a’th blannodd, a draethodd ddrwg yn dy erbyn, oherwydd drygioni tŷ Israel a thŷ Jwda, y rhai a wnaethant yn eu herbyn eu hun, i’m digio i, trwy fwgdarthu i Baal.

Rhufeiniaid 2:1-11

Oherwydd paham, diesgus wyt ti, O ddyn, pwy bynnag wyt yn barnu: canys yn yr hyn yr wyt yn barnu arall, yr wyt yn dy gondemnio dy hun: canys ti yr hwn wyt yn barnu, wyt yn gwneuthur yr un pethau. Eithr ni a wyddom fod barn Duw yn ôl gwirionedd, yn erbyn y rhai a wnânt gyfryw bethau. Ac a wyt ti’n tybied hyn, O ddyn, yr hwn wyt yn barnu’r rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau, a thithau yn gwneuthur yr un pethau, y dihengi di rhag barn Duw? Neu a wyt ti’n diystyru golud ei ddaioni ef, a’i ddioddefgarwch, a’i ymaros, heb wybod fod daioni Duw yn dy dywys di i edifeirwch? Eithr yn ôl dy galedrwydd, a’th galon ddiedifeiriol, wyt yn trysori i ti dy hun ddigofaint erbyn dydd y digofaint, a datguddiad cyfiawn farn Duw, Yr hwn a dâl i bob un yn ôl ei weithredoedd: Sef i’r rhai trwy barhau yn gwneuthur da, a geisiant ogoniant, ac anrhydedd, ac anllygredigaeth, bywyd tragwyddol: Eithr i’r rhai sydd gynhennus, ac anufudd i’r gwirionedd, eithr yn ufudd i anghyfiawnder, y bydd llid a digofaint; Trallod ac ing ar bob enaid dyn sydd yn gwneuthur drwg; yr Iddew yn gyntaf, a’r Groegwr hefyd: 10 Eithr gogoniant, ac anrhydedd, a thangnefedd, i bob un sydd yn gwneuthur daioni; i’r Iddew yn gyntaf, ac i’r Groegwr hefyd. 11 Canys nid oes derbyn wyneb gerbron Duw.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.