Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Salm Dafydd, pan oedd efe yn niffeithwch Jwda.
63 Ti, O Dduw, yw fy Nuw i; yn fore y’th geisiaf: sychedodd fy enaid amdanat, hiraethodd fy nghnawd amdanat, mewn tir cras a sychedig heb ddwfr; 2 I weled dy nerth a’th ogoniant, fel y’th welais yn y cysegr. 3 Canys gwell yw dy drugaredd di na’r bywyd: fy ngwefusau a’th foliannant. 4 Fel hyn y’th glodforaf yn fy mywyd: dyrchafaf fy nwylo yn dy enw. 5 Megis â mer ac â braster y digonir fy enaid; a’m genau a’th fawl â gwefusau llafar: 6 Pan y’th gofiwyf ar fy ngwely, myfyriaf amdanat yng ngwyliadwriaethau y nos. 7 Canys buost gynhorthwy i mi; am hynny yng nghysgod dy adenydd y gorfoleddaf. 8 Fy enaid a lŷn wrthyt: dy ddeheulaw a’m cynnal.
5 Canaf yr awr hon i’m hanwylyd, ganiad fy anwylyd am ei winllan. Gwinllan sydd i’m hanwylyd mewn bryn tra ffrwythlon: 2 Ac efe a’i cloddiodd hi, ac a’i digaregodd, ac a’i plannodd o’r winwydden orau, ac a adeiladodd dŵr yn ei chanol, ac a drychodd winwryf ynddi: ac efe a ddisgwyliodd iddi ddwyn grawnwin, hithau a ddug rawn gwylltion. 3 Ac yr awr hon, preswylwyr Jerwsalem, a gwŷr Jwda, bernwch, atolwg, rhyngof fi a’m gwinllan. 4 Beth oedd i’w wneuthur ychwaneg i’m gwinllan, nag a wneuthum ynddi? paham, a mi yn disgwyl iddi ddwyn grawnwin, y dug hi rawn gwylltion? 5 Ac yr awr hon mi a hysbysaf i chwi yr hyn a wnaf i’m gwinllan: tynnaf ymaith ei chae, fel y porer hi; torraf ei magwyr, fel y byddo hi yn sathrfa; 6 A mi a’i gosodaf hi yn ddifrod: nid ysgythrir hi, ac ni chloddir hi; ond mieri a drain a gyfyd: ac i’r cymylau y gorchmynnaf na lawiont law arni. 7 Diau, gwinllan Arglwydd y lluoedd yw tŷ Israel, a gwŷr Jwda yw ei blanhigyn hyfryd ef: ac efe a ddisgwyliodd am farn, ac wele drais; am gyfiawnder, ac wele lef.
43 Canys nid yw pren da yn dwyn ffrwyth drwg; na phren drwg yn dwyn ffrwyth da. 44 Oblegid pob pren a adwaenir wrth ei ffrwyth ei hun: canys nid oddi ar ddrain y casglant ffigys, nac oddi ar berth yr heliant rawnwin. 45 Y dyn da, o ddaionus drysor ei galon, a ddwg allan ddaioni; a’r dyn drwg, o ddrygionus drysor ei galon, a ddwg allan ddrygioni: canys o helaethrwydd y galon y mae ei enau yn llefaru.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.