Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 105:1-15

105 Clodforwch yr Arglwydd; gelwch ar ei enw: mynegwch ei weithredoedd ymysg y bobloedd. Cenwch iddo, canmolwch ef: ymddiddenwch am ei holl ryfeddodau ef. Gorfoleddwch yn ei enw sanctaidd: llawenyched calon y rhai a geisiant yr Arglwydd. Ceisiwch yr Arglwydd a’i nerth: ceisiwch ei wyneb ef bob amser. Cofiwch ei ryfeddodau y rhai a wnaeth efe; ei wyrthiau, a barnedigaethau ei enau; Chwi had Abraham ei was ef, chwi feibion Jacob ei etholedigion. Efe yw yr Arglwydd ein Duw ni: ei farnedigaethau ef sydd trwy yr holl ddaear. Cofiodd ei gyfamod byth, y gair a orchmynnodd efe i fil o genedlaethau: Yr hyn a amododd efe ag Abraham, a’i lw i Isaac; 10 A’r hyn a osododd efe yn ddeddf i Jacob, ac yn gyfamod tragwyddol i Israel; 11 Gan ddywedyd, I ti y rhoddaf dir Canaan, rhandir eich etifeddiaeth. 12 Pan oeddynt ychydig o rifedi, ie, ychydig, a dieithriaid ynddi: 13 Pan rodient o genhedlaeth i genhedlaeth, o’r naill deyrnas at bobl arall: 14 Ni adawodd i neb eu gorthrymu; ie, ceryddodd frenhinoedd o’u plegid; 15 Gan ddywedyd, Na chyffyrddwch â’m rhai eneiniog, ac na ddrygwch fy mhroffwydi.

Salmau 105:16-41

16 Galwodd hefyd am newyn ar y tir; a dinistriodd holl gynhaliaeth bara. 17 Anfonodd ŵr o’u blaen hwynt, Joseff, yr hwn a werthwyd yn was. 18 Cystuddiasant ei draed ef mewn gefyn: ei enaid a aeth mewn heyrn: 19 Hyd yr amser y daeth ei air ef: gair yr Arglwydd a’i profodd ef. 20 Y brenin a anfonodd, ac a’i gollyngodd ef; llywodraethwr y bobl, ac a’i rhyddhaodd ef. 21 Gosododd ef yn arglwydd ar ei dŷ, ac yn llywydd ar ei holl gyfoeth: 22 I rwymo ei dywysogion ef wrth ei ewyllys; ac i ddysgu doethineb i’w henuriaid ef. 23 Aeth Israel hefyd i’r Aifft; a Jacob a ymdeithiodd yn nhir Ham. 24 Ac efe a gynyddodd ei bobl yn ddirfawr; ac a’u gwnaeth yn gryfach na’u gwrthwynebwyr. 25 Trodd eu calon hwynt i gasáu ei bobl ef, i wneuthur yn ddichellgar â’i weision. 26 Efe a anfonodd Moses ei was; ac Aaron, yr hwn a ddewisasai. 27 Hwy a ddangosasant ei arwyddion ef yn eu plith hwynt, a rhyfeddodau yn nhir Ham. 28 Efe a anfonodd dywyllwch, ac a dywyllodd: ac nid anufuddhasant hwy ei air ef. 29 Efe a drodd eu dyfroedd yn waed, ac a laddodd eu pysgod. 30 Eu tir a heigiodd lyffaint yn ystafelloedd eu brenhinoedd. 31 Efe a ddywedodd, a daeth cymysgbla, a llau yn eu holl fro hwynt. 32 Efe a wnaeth eu glaw hwynt yn genllysg, ac yn fflamau tân yn eu tir. 33 Trawodd hefyd eu gwinwydd, a’u ffigyswydd; ac a ddrylliodd goed eu gwlad hwynt. 34 Efe a ddywedodd, a daeth y locustiaid, a’r lindys, yn aneirif; 35 Y rhai a fwytasant yr holl laswellt yn eu tir hwynt, ac a ddifasant ffrwyth eu daear hwynt. 36 Trawodd hefyd bob cyntaf‐anedig yn eu tir hwynt, blaenffrwyth eu holl nerth hwynt. 37 Ac a’u dug hwynt allan ag arian ac aur; ac heb un llesg yn eu llwythau. 38 Llawenychodd yr Aifft pan aethant allan: canys syrthiasai eu harswyd arnynt hwy. 39 Efe a daenodd gwmwl yn do, a thân i oleuo liw nos. 40 Gofynasant, ac efe a ddug soflieir; ac a’u diwallodd â bara nefol. 41 Efe a holltodd y graig, a’r dyfroedd a ddylifodd; cerddasant ar hyd lleoedd sychion yn afonydd.

Salmau 105:42

42 Canys efe a gofiodd ei air sanctaidd, ac Abraham ei was.

2 Cronicl 20:1-22

20 Ac wedi hyn meibion Moab a meibion Ammon a ddaethant, a chyda hwynt eraill heblaw yr Ammoniaid, yn erbyn Jehosaffat, i ryfel. Yna y daethpwyd ac y mynegwyd i Jehosaffat, gan ddywedyd, Tyrfa fawr a ddaeth yn dy erbyn di o’r tu hwnt i’r môr, o Syria; ac wele y maent hwy yn Hasason-Tamar, honno yw En-gedi. A Jehosaffat a ofnodd, ac a ymroddodd i geisio yr Arglwydd; ac a gyhoeddodd ympryd trwy holl Jwda. A Jwda a ymgasglasant i ofyn cymorth gan yr Arglwydd: canys hwy a ddaethant o holl ddinasoedd Jwda i geisio’r Arglwydd.

A Jehosaffat a safodd yng nghynulleidfa Jwda a Jerwsalem, yn nhŷ yr Arglwydd, o flaen y cyntedd newydd, Ac a ddywedodd, O Arglwydd Dduw ein tadau, onid wyt ti yn Dduw yn y nefoedd, ac yn llywodraethu ar holl deyrnasoedd y cenhedloedd; ac onid yn dy law di y mae nerth a chadernid, fel nad oes a ddichon dy wrthwynebu di? Onid tydi ein Duw ni a yrraist ymaith breswylwyr y wlad hon o flaen dy bobl Israel, ac a’i rhoddaist hi i had Abraham dy garedigol yn dragywydd? A thrigasant ynddi, ac adeiladasant i ti ynddi gysegr i’th enw, gan ddywedyd, Pan ddêl niwed arnom ni, sef cleddyf, barnedigaeth, neu haint y nodau, neu newyn; os safwn o flaen y tŷ hwn, a cher dy fron di, (canys dy enw di sydd yn y tŷ hwn,) a gweiddi arnat yn ein cyfyngdra, ti a wrandewi ac a’n gwaredi ni. 10 Ac yn awr wele feibion Ammon a Moab, a thrigolion mynydd Seir, y rhai ni chaniateaist i Israel fyned atynt, pan ddaethant o wlad yr Aifft; ond hwy a droesant oddi wrthynt, ac ni ddifethasant hwynt: 11 Eto wele hwynt-hwy yn talu i ni, gan ddyfod i’n bwrw ni allan o’th etifeddiaeth di, yr hon a wnaethost i ni ei hetifeddu. 12 O ein Duw ni, oni ferni di hwynt? canys nid oes gennym ni nerth i sefyll o flaen y dyrfa fawr hon sydd yn dyfod i’n herbyn; ac ni wyddom ni beth a wnawn: ond arnat ti y mae ein llygaid. 13 A holl Jwda oedd yn sefyll gerbron yr Arglwydd, â’u rhai bach, eu gwragedd, a’u plant.

14 Yna ar Jahasiel mab Sechareia, fab Benaia, fab Jeiel, fab Mataneia, Lefiad o feibion Asaff, y daeth ysbryd yr Arglwydd yng nghanol y gynulleidfa. 15 Ac efe a ddywedodd, Gwrandewch holl Jwda, a thrigolion Jerwsalem, a thithau frenin Jehosaffat, Fel hyn y dywed yr Arglwydd wrthych chwi, Nac ofnwch, ac na ddigalonnwch rhag y dyrfa fawr hon: canys nid eiddoch chwi y rhyfel, eithr eiddo Dduw. 16 Yfory ewch i waered yn eu herbyn hwynt; wele hwynt yn dyfod i fyny wrth riw Sis, a chwi a’u goddiweddwch hwynt yng nghwr yr afon, tuag anialwch Jeruel. 17 Nid rhaid i chwi ymladd yn y rhyfel hwn: sefwch yn llonydd, a gwelwch ymwared yr Arglwydd tuag atoch, O Jwda a Jerwsalem: nac ofnwch, ac na ddigalonnwch: ewch yfory allan yn eu herbyn hwynt, a’r Arglwydd fydd gyda chwi. 18 A Jehosaffat a ymgrymodd i lawr ar ei wyneb: holl Jwda hefyd a holl drigolion Jerwsalem a syrthiasant gerbron yr Arglwydd, gan addoli yr Arglwydd. 19 A’r Lefiaid, o feibion y Cohathiaid, ac o feibion y Corhiaid, a gyfodasant i foliannu Arglwydd Dduw Israel â llef uchel ddyrchafedig.

20 A hwy a gyfodasant yn fore, ac a aethant i anialwch Tecoa: ac wrth fyned ohonynt, Jehosaffat a safodd, ac a ddywedodd, Gwrandewch fi, O Jwda, a thrigolion Jerwsalem; Credwch yn yr Arglwydd eich Duw, a chwi a sicrheir; coeliwch ei broffwydi ef, a chwi a ffynnwch. 21 Ac efe a ymgynghorodd â’r bobl, ac a osododd gantorion i’r Arglwydd, a rhai i foliannu prydferthwch sancteiddrwydd, pan aent allan o flaen y rhyfelwyr; ac i ddywedyd, Clodforwch yr Arglwydd, oherwydd ei drugaredd a bery yn dragywydd.

22 Ac yn yr amser y dechreuasant hwy y gân a’r moliant, y rhoddodd yr Arglwydd gynllwynwyr yn erbyn meibion Ammon, Moab, a thrigolion mynydd Seir, y rhai oedd yn dyfod yn erbyn Jwda; a hwy a laddasant bawb ei gilydd.

Luc 13:22-31

22 Ac efe a dramwyodd trwy ddinasoedd a threfi, gan athrawiaethu, ac ymdeithio tua Jerwsalem.

23 A dywedodd un wrtho, Arglwydd, ai ychydig yw y rhai cadwedig? Ac efe a ddywedodd wrthynt, 24 Ymdrechwch am fyned i mewn trwy’r porth cyfyng: canys llawer, meddaf i chwi, a geisiant fyned i mewn, ac nis gallant. 25 Gwedi cyfodi gŵr y tŷ, a chau’r drws, a dechrau ohonoch sefyll oddi allan, a churo’r drws, gan ddywedyd, Arglwydd, Arglwydd, agor i ni; ac iddo yntau ateb a dywedyd wrthych, Nid adwaen ddim ohonoch o ba le yr ydych: 26 Yna y dechreuwch ddywedyd, Ni a fwytasom ac a yfasom yn dy ŵydd di, a thi a ddysgaist yn ein heolydd ni. 27 Ac efe a ddywed, Yr wyf yn dywedyd i chwi, Nid adwaen chwi o ba le yr ydych: ewch ymaith oddi wrthyf, chwi holl weithredwyr anwiredd. 28 Yno y bydd wylofain a rhincian dannedd, pan weloch Abraham, ac Isaac, a Jacob, a’r holl broffwydi, yn nheyrnas Dduw, a chwithau wedi eich bwrw allan. 29 A daw rhai o’r dwyrain, ac o’r gorllewin, ac o’r gogledd, ac o’r deau, ac a eisteddant yn nheyrnas Dduw. 30 Ac wele, olaf ydyw’r rhai a fyddant flaenaf, a blaenaf ydyw’r rhai a fyddant olaf.

31 Y dwthwn hwnnw y daeth ato ryw Phariseaid, gan ddywedyd wrtho, Dos allan, a cherdda oddi yma: canys y mae Herod yn ewyllysio dy ladd di.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.