Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Genesis 15:1-12

15 Wedi ’r pethau hyn, y daeth gair yr Arglwydd at Abram mewn gweledigaeth, gan ddywedyd, Nac ofna, Abram; myfi ydyw dy darian, dy wobr mawr iawn. A dywedodd Abram, Arglwydd Dduw, beth a roddi di i mi? gan fy mod yn myned yn ddi‐blant, a goruchwyliwr fy nhŷ yw Eleasar yma o Damascus. Abram hefyd a ddywedodd, Wele, ni roddaist i mi had; ac wele, fy nghaethwas fydd fy etifedd. Ac wele air yr Arglwydd ato ef, gan ddywedyd, Nid hwn fydd dy etifedd, onid un a ddaw allan o’th ymysgaroedd di fydd dy etifedd. Ac efe a’i dug ef allan, ac a ddywedodd, Golyga yn awr y nefoedd, a rhif y sêr, o gelli eu cyfrif hwynt: dywedodd hefyd wrtho, Felly y bydd dy had di. Yntau a gredodd yn yr Arglwydd, ac efe a’i cyfrifodd iddo yn gyfiawnder. Ac efe a ddywedodd wrtho, Myfi yw yr Arglwydd, yr hwn a’th ddygais di allan o Ur y Caldeaid, i roddi i ti y wlad hon i’w hetifeddu. Yntau a ddywedodd, Arglwydd Dduw, trwy ba beth y caf wybod yr etifeddaf hi? Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymer i mi anner dair blwydd, a gafr dair blwydd, a hwrdd tair blwydd, a thurtur, a chyw colomen. 10 Ac efe a gymerth iddo y rhai hyn oll, ac a’u holltodd hwynt ar hyd eu canol, ac a roddodd bob rhan ar gyfer ei gilydd; ond ni holltodd efe yr adar. 11 A phan ddisgynnai yr adar ar y celaneddau, yna Abram a’u tarfai hwynt. 12 A phan oedd yr haul ar fachludo, y syrthiodd trymgwsg ar Abram: ac wele ddychryn, a thywyllni mawr, yn syrthio arno ef.

Genesis 15:17-18

17 A bu, pan fachludodd yr haul, a hi yn dywyll, wele ffwrn yn mygu, a lamp danllyd yn tramwyo rhwng y darnau hynny. 18 Yn y dydd hwnnw y gwnaeth yr Arglwydd gyfamod ag Abram, gan ddywedyd, I’th had di y rhoddais y wlad hon, o afon yr Aifft hyd yr afon fawr, afon Ewffrates:

Salmau 27

Salm Dafydd.

27 Yr Arglwydd yw fy ngoleuni a’m hiachawdwriaeth; rhag pwy yr ofnaf? yr Arglwydd yw nerth fy mywyd; rhag pwy y dychrynaf? Pan nesaodd y rhai drygionus, sef fy ngwrthwynebwyr a’m gelynion, i’m herbyn, i fwyta fy nghnawd, hwy a dramgwyddasant ac a syrthiasant. Pe gwersyllai llu i’m herbyn, nid ofna fy nghalon: pe cyfodai cad i’m herbyn, yn hyn mi a fyddaf hyderus. Un peth a ddeisyfais i gan yr Arglwydd, hynny a geisiaf; sef caffael trigo yn nhŷ yr Arglwydd holl ddyddiau fy mywyd, i edrych ar brydferthwch yr Arglwydd, ac i ymofyn yn ei deml. Canys yn y dydd blin y’m cuddia o fewn ei babell: yn nirgelfa ei babell y’m cuddia; ar graig y’m cyfyd i. Ac yn awr y dyrcha efe fy mhen goruwch fy ngelynion o’m hamgylch: am hynny yr aberthaf yn ei babell ef ebyrth gorfoledd; canaf, ie, canmolaf yr Arglwydd. Clyw, O Arglwydd, fy lleferydd pan lefwyf: trugarha hefyd wrthyf, a gwrando arnaf. Pan ddywedaist, Ceisiwch fy wyneb; fy nghalon a ddywedodd wrthyt, Dy wyneb a geisiaf, O Arglwydd. Na chuddia dy wyneb oddi wrthyf; na fwrw ymaith dy was mewn soriant: fy nghymorth fuost; na ad fi, ac na wrthod fi, O Dduw fy iachawdwriaeth. 10 Pan yw fy nhad a’m mam yn fy ngwrthod, yr Arglwydd a’m derbyn. 11 Dysg i mi dy ffordd, Arglwydd, ac arwain fi ar hyd llwybrau uniondeb, oherwydd fy ngelynion. 12 Na ddyro fi i fyny i ewyllys fy ngelynion: canys gau dystion, a rhai a adroddant drawster, a gyfodasant i’m herbyn. 13 Diffygiaswn, pe na chredaswn weled daioni yr Arglwydd yn nhir y rhai byw. 14 Disgwyl wrth yr Arglwydd: ymwrola, ac efe a nertha dy galon: disgwyl, meddaf, wrth yr Arglwydd.

Philipiaid 3:17-4:1

17 Byddwch ddilynwyr i mi, frodyr, ac edrychwch ar y rhai sydd yn rhodio felly, megis yr ydym ni yn siampl i chwi. 18 (Canys y mae llawer yn rhodio, am y rhai y dywedais i chwi yn fynych, ac yr ydwyf yr awron hefyd dan wylo yn dywedyd, mai gelynion croes Crist ydynt; 19 Diwedd y rhai yw distryw, duw y rhai yw eu bol, a’u gogoniant yn eu cywilydd, y rhai sydd yn synied pethau daearol.) 20 Canys ein hymarweddiad ni sydd yn y nefoedd; o’r lle hefyd yr ydym yn disgwyl yr Iachawdwr, yr Arglwydd Iesu Grist: 21 Yr hwn a gyfnewidia ein corff gwael ni, fel y gwneler ef yr un ffurf â’i gorff gogoneddus ef, yn ôl y nerthol weithrediad trwy yr hwn y dichon efe, ie, ddarostwng pob peth iddo ei hun.

Am hynny, fy mrodyr annwyl a hoff, fy llawenydd a’m coron, felly sefwch yn yr Arglwydd, anwylyd.

Luc 13:31-35

31 Y dwthwn hwnnw y daeth ato ryw Phariseaid, gan ddywedyd wrtho, Dos allan, a cherdda oddi yma: canys y mae Herod yn ewyllysio dy ladd di. 32 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch, a dywedwch i’r cadno hwnnw, Wele, yr wyf yn bwrw allan gythreuliaid, ac yn iacháu heddiw ac yfory, a’r trydydd dydd y’m perffeithir. 33 Er hynny rhaid i mi ymdaith heddiw ac yfory, a thrennydd: canys ni all fod y derfydd am broffwyd allan o Jerwsalem. 34 O Jerwsalem, Jerwsalem, yr hon wyt yn lladd y proffwydi, ac yn llabyddio’r rhai a anfonir atat: pa sawl gwaith y mynaswn gasglu dy blant ynghyd, y modd y casgl yr iâr ei chywion dan ei hadenydd, ac nis mynnech! 35 Wele, eich tŷ a adewir i chwi yn anghyfannedd. Ac yn wir yr wyf yn dywedyd wrthych, Ni welwch fi, hyd oni ddêl yr amser pan ddywedoch, Bendigedig yw’r hwn sydd yn dyfod yn enw’r Arglwydd.

Luc 9:28-36

28 A bu, ynghylch wyth niwrnod wedi’r geiriau hyn, gymryd ohono ef Pedr, ac Ioan, ac Iago, a myned i fyny i’r mynydd i weddïo. 29 Ac fel yr oedd efe yn gweddïo, gwedd ei wynepryd ef a newidiwyd, a’i wisg oedd yn wen ddisglair. 30 Ac wele, dau ŵr a gydymddiddanodd ag ef, y rhai oedd Moses ac Eleias: 31 Y rhai a ymddangosasant mewn gogoniant, ac a ddywedasant am ei ymadawiad ef, yr hwn a gyflawnai efe yn Jerwsalem. 32 A Phedr, a’r rhai oedd gydag ef, oeddynt wedi trymhau gan gysgu: a phan ddihunasant, hwy a welsant ei ogoniant ef, a’r ddau ŵr y rhai oedd yn sefyll gydag ef. 33 A bu, a hwy yn ymado oddi wrtho ef, ddywedyd o Pedr wrth yr Iesu, O Feistr, da yw i ni fod yma: a gwnawn dair pabell; un i ti, ac un i Moses, ac un i Eleias: heb wybod beth yr oedd yn ei ddywedyd. 34 Ac fel yr oedd efe yn dywedyd hyn, daeth cwmwl, ac a’u cysgododd hwynt: a hwynt‐hwy a ofnasant wrth fyned ohonynt i’r cwmwl. 35 A daeth llef allan o’r cwmwl, gan ddywedyd, Hwn yw fy Mab annwyl; gwrandewch ef. 36 Ac wedi bod y llef, cafwyd yr Iesu yn unig. A hwy a gelasant, ac ni fynegasant i neb y dyddiau hynny ddim o’r pethau a welsent.

Luc 9:37-43

37 A darfu drannoeth, pan ddaethant i waered o’r mynydd, i dyrfa fawr gyfarfod ag ef. 38 Ac wele, gŵr o’r dyrfa a ddolefodd, gan ddywedyd, O Athro, yr wyf yn atolwg i ti, edrych ar fy mab; canys fy unig‐anedig yw. 39 Ac wele, y mae ysbryd yn ei gymryd ef, ac yntau yn ddisymwth yn gweiddi; ac y mae’n ei ddryllio ef, hyd oni falo ewyn; a braidd yr ymedy oddi wrtho, wedi iddo ei ysigo ef. 40 Ac mi a ddeisyfais ar dy ddisgyblion di ei fwrw ef allan; ac nis gallasant. 41 A’r Iesu gan ateb a ddywedodd, O genhedlaeth anffyddlon a throfaus, pa hyd y byddaf gyda chwi, ac y’ch goddefaf? dwg dy fab yma. 42 Ac fel yr oedd efe eto yn dyfod, y cythraul a’i rhwygodd ef, ac a’i drylliodd: a’r Iesu a geryddodd yr ysbryd aflan, ac a iachaodd y bachgen, ac a’i rhoddes ef i’w dad.

43 A brawychu a wnaethant oll gan fawredd Duw. Ac a phawb yn rhyfeddu am yr holl bethau a wnaethai’r Iesu, efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion,

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.