Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Salm Dafydd.
27 Yr Arglwydd yw fy ngoleuni a’m hiachawdwriaeth; rhag pwy yr ofnaf? yr Arglwydd yw nerth fy mywyd; rhag pwy y dychrynaf? 2 Pan nesaodd y rhai drygionus, sef fy ngwrthwynebwyr a’m gelynion, i’m herbyn, i fwyta fy nghnawd, hwy a dramgwyddasant ac a syrthiasant. 3 Pe gwersyllai llu i’m herbyn, nid ofna fy nghalon: pe cyfodai cad i’m herbyn, yn hyn mi a fyddaf hyderus. 4 Un peth a ddeisyfais i gan yr Arglwydd, hynny a geisiaf; sef caffael trigo yn nhŷ yr Arglwydd holl ddyddiau fy mywyd, i edrych ar brydferthwch yr Arglwydd, ac i ymofyn yn ei deml. 5 Canys yn y dydd blin y’m cuddia o fewn ei babell: yn nirgelfa ei babell y’m cuddia; ar graig y’m cyfyd i. 6 Ac yn awr y dyrcha efe fy mhen goruwch fy ngelynion o’m hamgylch: am hynny yr aberthaf yn ei babell ef ebyrth gorfoledd; canaf, ie, canmolaf yr Arglwydd. 7 Clyw, O Arglwydd, fy lleferydd pan lefwyf: trugarha hefyd wrthyf, a gwrando arnaf. 8 Pan ddywedaist, Ceisiwch fy wyneb; fy nghalon a ddywedodd wrthyt, Dy wyneb a geisiaf, O Arglwydd. 9 Na chuddia dy wyneb oddi wrthyf; na fwrw ymaith dy was mewn soriant: fy nghymorth fuost; na ad fi, ac na wrthod fi, O Dduw fy iachawdwriaeth. 10 Pan yw fy nhad a’m mam yn fy ngwrthod, yr Arglwydd a’m derbyn. 11 Dysg i mi dy ffordd, Arglwydd, ac arwain fi ar hyd llwybrau uniondeb, oherwydd fy ngelynion. 12 Na ddyro fi i fyny i ewyllys fy ngelynion: canys gau dystion, a rhai a adroddant drawster, a gyfodasant i’m herbyn. 13 Diffygiaswn, pe na chredaswn weled daioni yr Arglwydd yn nhir y rhai byw. 14 Disgwyl wrth yr Arglwydd: ymwrola, ac efe a nertha dy galon: disgwyl, meddaf, wrth yr Arglwydd.
26 Bendigedig yw a ddêl yn enw yr Arglwydd: bendithiasom chwi o dŷ yr Arglwydd. 27 Duw yw yr Arglwydd, yr hwn a lewyrchodd i ni: rhwymwch yr aberth â rhaffau, hyd wrth gyrn yr allor. 28 Fy Nuw ydwyt ti, a mi a’th glodforaf: dyrchafaf di, fy Nuw. 29 Clodforwch yr Arglwydd; canys da yw: oherwydd yn dragywydd y pery ei drugaredd ef.
37 Jerwsalem, Jerwsalem, yr hon wyt yn lladd y proffwydi, ac yn llabyddio’r rhai a ddanfonir atat, pa sawl gwaith y mynaswn gasglu dy blant ynghyd, megis y casgl iâr ei chywion dan ei hadenydd, ac nis mynnech! 38 Wele, yr ydys yn gadael eich tŷ i chwi yn anghyfannedd. 39 Canys meddaf i chwi, Ni’m gwelwch ar ôl hyn, hyd oni ddywedoch, Bendigedig yw’r hwn sydd yn dyfod yn enw’r Arglwydd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.