Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Gweddi Dafydd.
17 Clyw, Arglwydd, gyfiawnder, ystyria fy lefain, gwrando fy ngweddi o wefusau didwyll. 2 Deued fy marn oddi ger dy fron: edryched dy lygaid ar uniondeb. 3 Profaist fy nghalon; gofwyaist fi y nos; chwiliaist fi, ac ni chei ddim: bwriedais na throseddai fy ngenau. 4 Tuag at am weithredoedd dynion, wrth eiriau dy wefusau yr ymgedwais rhag llwybrau yr ysbeilydd. 5 Cynnal fy ngherddediad yn dy lwybrau, fel na lithro fy nhraed. 6 Mi a elwais arnat; canys gwrandewi arnaf fi, O Dduw: gostwng dy glust ataf, ac erglyw fy ymadrodd. 7 Dangos dy ryfedd drugareddau,O Achubydd y rhai a ymddiriedant ynot, rhag y sawl a ymgyfodant yn erbyn dy ddeheulaw. 8 Cadw fi fel cannwyll llygad: cudd fi dan gysgod dy adenydd, 9 Rhag yr annuwiolion, y rhai a’m gorthrymant, rhag fy ngelynion marwol, y rhai a’m hamgylchant. 10 Caesant gan eu braster: â’u genau y llefarant mewn balchder. 11 Ein cyniweirfa ni a glychynasant hwy yr awron: gosodasant eu llygaid i dynnu i lawr i’r ddaear. 12 Eu dull sydd fel llew a chwenychai ysglyfaethu, ac megis llew ieuanc yn aros mewn leoedd dirgel. 13 cyfod, Arglwydd, achub ei flaen ef, cwympa ef: gwared fy enaid rhag yr annuwio, yr hwn yw dy gleddyf di; 14 Rhag dynion, y rhai yw dy law, O Arglwydd, rhag dynion y byd, y rhai y mae eu rhan yn y bywyd yma, a’r rhai y llenwaist eu boliau â’th guddiedig drysor: llawn ydynt o feibion, a gadawant eu gweddill i’w rhai bychain. 15 Myfi a edrychaf ar dy wyneb mewn cyfiawnder: digonir fi, pan ddihunwyf, â’th ddelw di.
3 Ac efe a ddangosodd i mi Josua yr archoffeiriad yn sefyll gerbron angel yr Arglwydd, a Satan yn sefyll ar ei ddeheulaw ef i’w wrthwynebu ef. 2 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Satan, Cerydded yr Arglwydd dydi, Satan; sef yr Arglwydd yr hwn a ddewisodd Jerwsalem, a’th geryddo: onid pentewyn yw hwn wedi ei achub o’r tân? 3 A Josua ydoedd wedi ei wisgo â dillad budron, ac yn sefyll yng ngŵydd yr angel. 4 Ac efe a atebodd, ac a ddywedodd wrth y rhai oedd yn sefyll ger ei fron, gan ddywedyd, Cymerwch ymaith y dillad budron oddi amdano ef. Wrtho yntau y dywedodd, Wele, symudais dy anwiredd oddi wrthyt, a gwisgaf di hefyd â newid dillad. 5 A dywedais hefyd, Rhoddant feitr teg ar ei ben ef: a rhoddasant feitr teg ar ei ben ef, ac a’i gwisgasant â dillad; ac angel yr Arglwydd oedd yn sefyll gerllaw. 6 Ac angel yr Arglwydd a dystiolaethodd wrth Josua, gan ddywedyd, 7 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Os rhodi di yn fy ffyrdd, ac os cedwi fy nghadwraeth, tithau hefyd a ferni fy nhŷ, ac a gedwi fy nghynteddoedd; rhoddaf i ti hefyd leoedd i rodio ymysg y rhai hyn sydd yn sefyll yma. 8 Gwrando, atolwg, Josua yr archoffeiriad, ti a’th gyfeillion sydd yn eistedd ger dy fron: canys gwŷr rhyfedd yw y rhai hyn: oherwydd wele, dygaf allan fy ngwas Y BLAGURYN. 9 Canys wele, y garreg a roddais gerbron Josua; ar un garreg y bydd saith o lygaid: wele fi yn naddu ei naddiad hi, medd Arglwydd y lluoedd, a mi a symudaf ymaith anwiredd y tir hwnnw mewn un diwrnod. 10 Y dwthwn hwnnw, medd Arglwydd y lluoedd, y gelwch bob un ei gymydog dan y winwydden, a than y ffigysbren.
4 Canys onid arbedodd Duw yr angylion a bechasent, eithr eu taflu hwynt i uffern, a’u rhoddi i gadwynau tywyllwch, i’w cadw i farnedigaeth; 5 Ac onid arbedodd efe yr hen fyd, eithr Noe, pregethwr cyfiawnder, a gadwodd efe ar ei wythfed, pan ddug efe y dilyw ar fyd y rhai anwir; 6 A chan droi dinasoedd Sodom a Gomorra yn lludw, a’u damniodd hwy â dymchweliad, gan eu gosod yn esampl i’r rhai a fyddent yn annuwiol; 7 Ac a waredodd Lot gyfiawn, yr hwn oedd mewn gofid trwy anniwair ymarweddiad yr anwiriaid: 8 (Canys y cyfiawn hwnnw yn trigo yn eu mysg hwynt, yn gweled ac yn clywed, ydoedd yn poeni ei enaid cyfiawn o ddydd i ddydd trwy eu hanghyfreithlon weithredoedd hwynt:) 9 Yr Arglwydd a fedr wared y rhai duwiol rhag profedigaeth, a chadw y rhai anghyfiawn i ddydd y farn i’w poeni: 10 Ac yn bennaf y rhai sydd yn rhodio ar ôl y cnawd mewn chwant aflendid, ac yn diystyru llywodraeth. Rhyfygus ydynt, cyndyn; nid ydynt yn arswydo cablu urddas: 11 Lle nid yw’r angylion, y rhai sydd fwy mewn gallu a nerth, yn rhoddi cablaidd farn yn eu herbyn hwynt gerbron yr Arglwydd. 12 Eithr y rhai hyn, megis anifeiliaid anrhesymol anianol, y rhai a wnaed i’w dal ac i’w difetha, a gablant y pethau ni wyddant oddi wrthynt, ac a ddifethir yn eu llygredigaeth eu hunain; 13 Ac a dderbyniant gyflog anghyfiawnder, a hwy yn cyfrif moethau beunydd yn hyfrydwch. Brychau a meflau ydynt, yn ymddigrifo yn eu twyll eu hunain, gan wledda gyda chwi; 14 A llygaid ganddynt yn llawn godineb, ac heb fedru peidio â phechod; yn llithio eneidiau anwadal: a chanddynt galon wedi ymgynefino â chybydd-dra; plant y felltith: 15 Wedi gadael y ffordd union, hwy a aethant ar gyfeiliorn, gan ganlyn ffordd Balaam mab Bosor, yr hwn a garodd wobr anghyfiawnder; 16 Ond efe a gafodd gerydd am ei gamwedd: asen fud arferol â’r iau, gan ddywedyd â llef ddynol, a waharddodd ynfydrwydd y proffwyd. 17 Y rhai hyn ydynt ffynhonnau di-ddwfr, cymylau a yrrid gan dymestl; i’r rhai y mae niwl tywyllwch yng nghadw yn dragywydd. 18 Canys gan ddywedyd chwyddedig eiriau gorwagedd, y maent hwy, trwy chwantau’r cnawd, a thrythyllwch, yn llithio’r rhai a ddianghasai yn gwbl oddi wrth y rhai sydd yn byw ar gyfeiliorn. 19 Gan addo rhyddid iddynt, a hwythau eu hunain yn wasanaethwyr llygredigaeth: canys gan bwy bynnag y gorchfygwyd neb, i hwnnw hefyd yr aeth efe yn gaeth. 20 Canys os, wedi iddynt ddianc oddi wrth halogedigaeth y byd, trwy adnabyddiaeth yr Arglwydd a’r Achubwr Iesu Grist, y rhwystrir hwy drachefn â’r pethau hyn, a’u gorchfygu; aeth diwedd y rhai hynny yn waeth na’u dechreuad. 21 Canys gwell fuasai iddynt fod heb adnabod ffordd cyfiawnder, nag, wedi ei hadnabod, troi oddi wrth y gorchymyn sanctaidd yr hwn a draddodwyd iddynt.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.