Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Deuteronomium 26:1-11

26 Aphan ddelych i’r tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth, a’i feddiannu, a phreswylio ynddo; Yna cymer o bob blaenffrwyth y ddaear, yr hwn a ddygi o’th dir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti, a gosod mewn cawell, a dos i’r lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw i drigo o’i enw ef ynddo: A dos at yr offeiriad a fydd yn y dyddiau hynny, a dywed wrtho, Yr ydwyf fi yn cyfaddef heddiw i’r Arglwydd dy Dduw, fy nyfod i’r tir a dyngodd yr Arglwydd wrth ein tadau ar ei roddi i ni. A chymered yr offeiriad y cawell o’th law di, a gosoded ef o flaen allor yr Arglwydd dy Dduw: A llefara dithau, a dywed gerbron yr Arglwydd dy Dduw, Syriad ar ddarfod amdano oedd fy nhad; ac efe a ddisgynnodd i’r Aifft, ac a ymdeithiodd yno ag ychydig bobl, ac a aeth yno yn genedl fawr, gref, ac aml. A’r Eifftiaid a’n drygodd ni, a chystuddiasant ni, a rhoddasant arnom gaethiwed caled. A phan waeddasom ar Arglwydd Dduw ein tadau, clybu yr Arglwydd ein llais ni, a gwelodd ein cystudd, a’n llafur, a’n gorthrymder. A’r Arglwydd a’n dug ni allan o’r Aifft â llaw gadarn, ac â braich estynedig, ac ag ofn mawr, ac ag arwyddion, ac â rhyfeddodau. Ac efe a’n dug ni i’r lle hwn, ac a roes i ni y tir hwn; sef tir yn llifeirio o laeth a mêl. 10 Ac yn awr, wele, mi a ddygais flaenffrwyth y tir a roddaist i mi, O Arglwydd: a gosod ef gerbron yr Arglwydd dy Dduw, ac addola gerbron yr Arglwydd dy Dduw. 11 Ymlawenycha hefyd ym mhob daioni a roddodd yr Arglwydd dy Dduw i ti, ac i’th deulu, tydi, a’r Lefiad, a’r dieithr a fyddo yn dy fysg.

Salmau 91:1-2

91 Yr hwn sydd yn trigo yn nirgelwch y Goruchaf, a erys yng nghysgod yr Hollalluog. Dywedaf am yr Arglwydd, Fy noddfa a’m hamddiffynfa ydyw: fy Nuw; ynddo yr ymddiriedaf.

Salmau 91:9-16

Am i ti wneuthur yr Arglwydd fy noddfa, sef y Goruchaf, yn breswylfa i ti; 10 Ni ddigwydd i ti niwed, ac ni ddaw pla yn agos i’th babell. 11 Canys efe a orchymyn i’w angylion amdanat ti, dy gadw yn dy holl ffyrdd. 12 Ar eu dwylo y’th ddygant rhag taro dy droed wrth garreg. 13 Ar y llew a’r asb y cerddi: y cenau llew a’r ddraig a fethri. 14 Am iddo roddi ei serch arnaf, am hynny y gwaredaf ef: dyrchafaf ef, am iddo adnabod fy enw. 15 Efe a eilw arnaf, a mi a’i gwrandawaf: mewn ing y byddaf fi gydag ef, y gwaredaf, ac y gogoneddaf ef. 16 Digonaf ef â hir ddyddiau; a dangosaf iddo fy iachawdwriaeth.

Rhufeiniaid 10:8-13

Eithr pa beth y mae efe yn ei ddywedyd? Mae’r gair yn agos atat, yn dy enau, ac yn dy galon: hwn yw gair y ffydd, yr hwn yr ydym ni yn ei bregethu; Mai os cyffesi â’th enau yr Arglwydd Iesu, a chredu yn dy galon i Dduw ei gyfodi ef o feirw, cadwedig fyddi. 10 Canys â’r galon y credir i gyfiawnder, ac â’r genau y cyffesir i iachawdwriaeth. 11 Oblegid y mae’r ysgrythur yn dywedyd, Pwy bynnag sydd yn credu ynddo ef, ni chywilyddir. 12 Canys nid oes gwahaniaeth rhwng Iddew a Groegwr: oblegid yr un Arglwydd ar bawb, sydd oludog i bawb a’r sydd yn galw arno. 13 Canys pwy bynnag a alwo ar enw yr Arglwydd, cadwedig fydd.

Luc 4:1-13

A’r Iesu yn llawn o’r Ysbryd Glân, a ddychwelodd oddi wrth yr Iorddonen, ac a arweiniwyd gan yr ysbryd i’r anialwch, Yn cael ei demtio gan ddiafol ddeugain niwrnod. Ac ni fwytaodd efe ddim o fewn y dyddiau hynny: ac wedi eu diweddu hwynt, ar ôl hynny y daeth arno chwant bwyd. A dywedodd diafol wrtho, Os mab Duw ydwyt ti, dywed wrth y garreg hon fel y gwneler hi yn fara. A’r Iesu a atebodd iddo, gan ddywedyd, Ysgrifenedig yw, Nad ar fara yn unig y bydd dyn fyw, ond ar bob gair Duw. A diafol, wedi ei gymryd ef i fyny i fynydd uchel, a ddangosodd iddo holl deyrnasoedd y ddaear mewn munud awr. A diafol a ddywedodd wrtho, I ti y rhoddaf yr awdurdod hon oll, a’u gogoniant hwynt: canys i mi y rhoddwyd; ac i bwy bynnag y mynnwyf y rhoddaf finnau hi. Os tydi gan hynny a addoli o’m blaen, eiddot ti fyddant oll. A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Dos ymaith, Satan, yn fy ôl i; canys ysgrifenedig yw, Addoli yr Arglwydd dy Dduw, ac ef yn unig a wasanaethi. Ac efe a’i dug ef i Jerwsalem, ac a’i gosododd ar binacl y deml, ac a ddywedodd wrtho, Os mab Duw ydwyt, bwrw dy hun i lawr oddi yma: 10 Canys ysgrifenedig yw, Y gorchymyn efe i’w angylion o’th achos di, ar dy gadw di; 11 Ac y cyfodant di yn eu dwylo, rhag i ti un amser daro dy droed wrth garreg. 12 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Dywedwyd, Na themtia yr Arglwydd dy Dduw. 13 Ac wedi i ddiafol orffen yr holl demtasiwn, efe a ymadawodd ag ef dros amser.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.