Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
11 Tystion gau a gyfodasant: holasant i mi yr hyn nis gwn oddi wrtho. 12 Talasant i mi ddrwg dros dda, i ysbeilio fy enaid. 13 A minnau, pan glafychent hwy, oeddwn â’m gwisg o sachlen: gostyngais fy enaid ag ympryd, a’m gweddi a ddychwelodd i’m mynwes fy hun. 14 Ymddygais fel pe buasai yn gyfaill, neu yn frawd i mi: ymostyngais mewn galarwisg, fel un yn galaru am ei fam. 15 Ond ymlawenhasant hwy yn fy adfyd i, ac ymgasglasant; ie, ymgasglodd efryddion yn fy erbyn, ac nis gwyddwn; rhwygasant fi, ac ni pheidient. 16 Ymysg y gwatwarwyr rhagrithiol mewn gwleddoedd, ysgyrnygasant eu dannedd arnaf. 17 Arglwydd, pa hyd yr edrychi di ar hyn? gwared fy enaid rhag eu distryw hwynt, fy unig enaid rhag y llewod. 18 Mi a’th glodforaf yn y gynulleidfa fawr: moliannaf di ymhlith pobl lawer. 19 Na lawenychant o’m herwydd y rhai sydd elynion i mi heb achos: y sawl a’m casânt yn ddiachos, nac amneidiant â llygad. 20 Gan nad ymddiddanant yn dangnefeddus; eithr dychmygant eiriau dichellgar yn erbyn y rhai llonydd yn y tir. 21 Lledasant eu safn arnaf, gan ddywedyd, Ha, ha, gwelodd ein llygad. 22 Gwelaist hyn, Arglwydd: na thaw dithau; nac ymbellha oddi wrthyf, O Arglwydd. 23 Cyfod, a deffro i’m barn, sef i’m dadl, fy Nuw a’m Harglwydd. 24 Barn fi, Arglwydd fy Nuw, yn ôl dy gyfiawnder; ac na lawenhânt o’m plegid. 25 Na ddywedant yn eu calon, O ein gwynfyd: na ddywedant, Llyncasom ef. 26 Cywilyddier a gwaradwydder hwy i gyd, y rhai sydd lawen am fy nrygfyd: gwisger â gwarth ac â chywilydd y rhai a ymfawrygant i’m herbyn. 27 Caned a llawenyched y rhai a hoffant fy nghyfiawnder: dywedant hefyd yn wastad, Mawryger yr Arglwydd, yr hwn a gâr lwyddiant ei was. 28 Fy nhafod innau a lefara am dy gyfiawnder a’th foliant ar hyd y dydd.
1 Adarfu yn y ddegfed flwyddyn ar hugain, yn y pedwerydd mis, ar y pumed dydd o’r mis, (a mi ymysg y gaethglud wrth afon Chebar,) agoryd y nefoedd, a gwelwn weledigaethau Duw. 2 Yn y pumed dydd o’r mis, honno oedd y bumed flwyddyn o gaethgludiad brenin Jehoiachin, 3 Y daeth gair yr Arglwydd yn eglur at Eseciel yr offeiriad, mab Busi, yn nhir y Caldeaid, wrth afon Chebar; ac yno y bu llaw yr Arglwydd arno ef.
4 Yna yr edrychais, ac wele yn dyfod o’r gogledd gorwynt, a chwmwl mawr, a thân yn ymgymryd, a disgleirdeb o amgylch iddo; ac o’i ganol, sef o ganol y tân, fel lliw ambr. 5 Hefyd o’i ganol y daeth cyffelybrwydd i bedwar peth byw. A dyma eu hagwedd hwynt; dull dyn oedd iddynt. 6 A phedwar wyneb i bob un, a phedair adain i bob un ohonynt. 7 A’u traed yn draed union; a gwadn eu traed fel gwadn troed llo; a gwreichioni yr oeddynt fel lliw efydd gloyw. 8 Ac yr oedd dwylo dyn oddi tan eu hadenydd, ar eu pedwar ystlys; eu hwynebau hefyd a’u hadenydd oedd ganddynt ill pedwar. 9 Eu hadenydd hwynt oedd wedi eu cysylltu y naill wrth y llall: pan gerddent, ni throent; aent bob un yn union rhag ei wyneb. 10 Dyma ddull eu hwynebau hwynt; Wyneb dyn, ac wyneb llew, oedd ar y tu deau iddynt ill pedwar: ac wyneb ych o’r tu aswy iddynt ill pedwar, ac wyneb eryr iddynt ill pedwar. 11 Dyma eu hwynebau hwynt; a’u hadenydd oedd wedi eu dosbarthu oddi arnodd, dwy i bob un wedi eu cysylltu â’i gilydd, a dwy oedd yn cuddio eu cyrff. 12 Aent hefyd bob un yn union rhag ei wyneb; i’r lle y byddai yr ysbryd ar fyned, yno yr aent; ni throent pan gerddent. 13 Dyma ddull y pethau byw; Eu gwelediad oedd fel marwor tân yn llosgi, ac fel gwelediad ffaglau: yr oedd efe yn ymgerdded rhwng y pethau byw, a disglair oedd y tân, a mellt yn dyfod allan o’r tân. 14 Rhedai hefyd a dychwelai y pethau byw, fel gwelediad mellten.
15 Edrychais hefyd ar y pethau byw: ac wele ar lawr yn ymyl y pethau byw un olwyn, gyda’i bedwar wyneb. 16 Dull yr olwynion a’u gwaith oedd fel lliw beryl: a’r un dull oedd iddynt ill pedair; a’u gwedd hwynt a’u gwaith fel pe byddai olwyn yng nghanol olwyn. 17 Pan elent, aent ar eu pedwar ochr: ni throent pan gerddent. 18 Eu cantau hefyd oedd gyfuwch ag yr oeddynt yn ofnadwy: a’u cantau oedd yn llawn llygaid oddi amgylch ill pedwar. 19 A phan gerddai y pethau byw, yr olwynion a gerddent wrthynt; a phan ymgodai y pethau byw oddi ar y ddaear, yr ymgodai yr olwynion. 20 I’r lle y byddai yr ysbryd i fyned, yr aent, yno yr oedd eu hysbryd ar fyned; a’r olwynion a ymgodent ar eu cyfer hwynt: canys ysbryd y peth byw oedd yn yr olwynion. 21 Cerddent pan gerddent hwythau, a safent pan safent hwythau; a phan ymgodent hwy oddi ar y ddaear, yr olwynion a ymgodent ar eu cyfer hwythau: canys ysbryd y peth byw oedd yn yr olwynion. 22 Ac yr oedd ar bennau y pethau byw ddull y ffurfafen, fel lliw grisial ofnadwy, wedi ei hestyn dros eu pennau hwynt oddi arnodd. 23 A than y ffurfafen yr oedd eu hadenydd hwynt yn union, y naill tuag at y llall: dwy i bob un yn eu cuddio o’r naill du, a dwy i bob un yn cuddio eu cyrff o’r tu arall. 24 A mi a glywn sŵn eu hadenydd hwynt, fel sŵn dyfroedd lawer, fel sŵn yr Hollalluog, pan gerddent: sŵn lleferydd, fel sŵn llu: pan safent, llaesent eu hadenydd. 25 Ac yr oedd llais oddi ar y ffurfafen yr hon oedd ar eu pennau hwynt, pan safent, ac y llaesent eu hadenydd.
26 Ac oddi ar y ffurfafen yr hon oedd ar eu pennau hwynt, yr oedd cyffelybrwydd gorseddfainc, fel gwelediad maen saffir; ac ar gyffelybrwydd yr orseddfainc yr oedd oddi arnodd arno ef gyffelybrwydd megis gwelediad dyn. 27 Gwelais hefyd megis lliw ambr, fel gwelediad tân o’i fewn o amgylch: o welediad ei lwynau ac uchod, ac o welediad ei lwynau ac isod, y gwelais megis gwelediad tân, a disgleirdeb iddo oddi amgylch. 28 Fel gwelediad y bwa a fydd yn y cwmwl ar ddydd glawog, fel hyn yr oedd gwelediad y disgleirdeb o amgylch. Dyma welediad cyffelybrwydd gogoniant yr Arglwydd. A phan welais, syrthiais ar fy wyneb, a chlywais lais un yn llefaru.
2 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Mab dyn, saf ar dy draed, a mi a lefaraf wrthyt.
23 Am hynny efe a’u galwodd hwynt i mewn, ac a’u lletyodd hwy. A thrannoeth yr aeth Pedr ymaith gyda hwy, a rhai o’r brodyr o Jopa a aeth gydag ef. 24 A thrannoeth yr aethant i mewn i Cesarea. Ac yr oedd Cornelius yn disgwyl amdanynt; ac efe a alwasai ei geraint a’i annwyl gyfeillion ynghyd. 25 Ac fel yr oedd Pedr yn dyfod i mewn, Cornelius a gyfarfu ag ef, ac a syrthiodd wrth ei draed, ac a’i haddolodd ef. 26 Eithr Pedr a’i cyfododd ef i fyny, gan ddywedyd, Cyfod; dyn wyf finnau hefyd. 27 A than ymddiddan ag ef, efe a ddaeth i mewn, ac a gafodd lawer wedi ymgynnull ynghyd. 28 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Chwi a wyddoch mai anghyfreithlon yw i ŵr o Iddew ymwasgu neu ddyfod at alltud: eithr Duw a ddangosodd i mi na alwn neb yn gyffredin neu yn aflan. 29 O ba herwydd, ie, yn ddi‐nag, y deuthum, pan anfonwyd amdanaf: yr wyf gan hynny yn gofyn am ba achos y danfonasoch amdanaf. 30 A Chornelius a ddywedodd, Er ys pedwar diwrnod i’r awr hon o’r dydd yr oeddwn yn ymprydio, ac ar y nawfed awr yn gweddïo yn fy nhŷ: ac wele, safodd gŵr ger fy mron mewn gwisg ddisglair, 31 Ac a ddywedodd, Cornelius, gwrandawyd dy weddi di, a’th elusennau a ddaethant mewn coffa gerbron Duw. 32 Am hynny anfon i Jopa, a galw am Simon, yr hwn a gyfenwir Pedr: y mae efe yn lletya yn nhŷ Simon, barcer, yng nglan y môr; yr hwn, pan ddelo atat, a lefara wrthyt. 33 Am hynny yn ddi‐oed myfi a anfonais atat; a thi a wnaethost yn dda ddyfod. Yr awron, gan hynny, yr ŷm ni oll yn bresennol gerbron Duw, i wrando’r holl bethau a orchmynnwyd i ti gan Dduw.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.