Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 63

Salm Dafydd, pan oedd efe yn niffeithwch Jwda.

63 Ti, O Dduw, yw fy Nuw i; yn fore y’th geisiaf: sychedodd fy enaid amdanat, hiraethodd fy nghnawd amdanat, mewn tir cras a sychedig heb ddwfr; I weled dy nerth a’th ogoniant, fel y’th welais yn y cysegr. Canys gwell yw dy drugaredd di na’r bywyd: fy ngwefusau a’th foliannant. Fel hyn y’th glodforaf yn fy mywyd: dyrchafaf fy nwylo yn dy enw. Megis â mer ac â braster y digonir fy enaid; a’m genau a’th fawl â gwefusau llafar: Pan y’th gofiwyf ar fy ngwely, myfyriaf amdanat yng ngwyliadwriaethau y nos. Canys buost gynhorthwy i mi; am hynny yng nghysgod dy adenydd y gorfoleddaf. Fy enaid a lŷn wrthyt: dy ddeheulaw a’m cynnal. Ond y rhai a geisiant fy enaid i ddistryw, a ânt i iselderau y ddaear. 10 Syrthiant ar fin y cleddyf: rhan llwynogod fyddant. 11 Ond y Brenin a lawenycha yn Nuw: gorfoledda pob un a dyngo iddo ef: eithr caeir genau y rhai a ddywedant gelwydd.

1 Samuel 17:55-18:5

55 A phan welodd Saul Dafydd yn myned i gyfarfod â’r Philistiad, efe a ddywedodd wrth Abner, tywysog y filwriaeth, Mab i bwy yw y llanc hwn, Abner? Ac Abner a ddywedodd, Fel y mae yn fyw dy enaid, O frenin, nis gwn i. 56 A dywedodd y brenin, Ymofyn mab i bwy yw y gŵr ieuanc hwn. 57 A phan ddychwelodd Dafydd o ladd y Philistiad, Abner a’i cymerodd ef ac a’i dug o flaen Saul, a phen y Philistiad yn ei law. 58 A Saul a ddywedodd wrtho ef, Mab i bwy wyt ti, y gŵr ieuanc? A dywedodd Dafydd, Mab i’th was Jesse y Bethlehemiad.

18 Ac wedi darfod iddo ymddiddan â Saul, enaid Jonathan a ymglymodd wrth enaid Dafydd; a Jonathan a’i carodd ef megis ei enaid ei hun. A Saul a’i cymerth ef ato y diwrnod hwnnw, ac ni adawai iddo ddychwelyd i dŷ ei dad. Yna Jonathan a Dafydd a wnaethant gyfamod; oherwydd efe a’i carai megis ei enaid ei hun. A Jonathan a ddiosgodd y fantell oedd amdano ei hun, ac a’i rhoddes i Dafydd, a’i wisgoedd, ie, hyd yn oed ei gleddyf, a’i fwa, a’i wregys.

A Dafydd a aeth i ba le bynnag yr anfonodd Saul ef, ac a ymddug yn ddoeth. A Saul a’i gosododd ef ar y rhyfelwyr: ac efe oedd gymeradwy yng ngolwg yr holl bobl, ac yng ngolwg gweision Saul hefyd.

Datguddiad 11:15-19

15 A’r seithfed angel a utganodd; a bu llefau uchel yn y nef, yn dywedyd, Aeth teyrnasoedd y byd yn eiddo ein Harglwydd ni, a’i Grist ef; ac efe a deyrnasa yn oes oesoedd. 16 A’r pedwar henuriad ar hugain, y rhai oedd gerbron Duw yn eistedd ar eu gorseddfeinciau, a syrthiasant ar eu hwynebau, ac a addolasant Dduw, 17 Gan ddywedyd, Yr ydym yn diolch i ti, O Arglwydd Dduw Hollalluog, yr hwn wyt, a’r hwn oeddit, a’r hwn wyt yn dyfod; oblegid ti a gymeraist dy allu mawr, ac a deyrnesaist. 18 A’r cenhedloedd a ddigiasant; a daeth dy ddig di, a’r amser i farnu’r meirw, ac i roi gwobr i’th wasanaethwyr y proffwydi, ac i’r saint, ac i’r rhai sydd yn ofni dy enw, fychain a mawrion; ac i ddifetha’r rhai sydd yn difetha’r ddaear. 19 Ac agorwyd teml Dduw yn y nef; a gwelwyd arch ei gyfamod ef yn ei deml ef: a bu mellt, a llefau, a tharanau, a daeargryn, a chenllysg mawr.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.