Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
Salm Dafydd, pan oedd efe yn niffeithwch Jwda.
63 Ti, O Dduw, yw fy Nuw i; yn fore y’th geisiaf: sychedodd fy enaid amdanat, hiraethodd fy nghnawd amdanat, mewn tir cras a sychedig heb ddwfr; 2 I weled dy nerth a’th ogoniant, fel y’th welais yn y cysegr. 3 Canys gwell yw dy drugaredd di na’r bywyd: fy ngwefusau a’th foliannant. 4 Fel hyn y’th glodforaf yn fy mywyd: dyrchafaf fy nwylo yn dy enw. 5 Megis â mer ac â braster y digonir fy enaid; a’m genau a’th fawl â gwefusau llafar: 6 Pan y’th gofiwyf ar fy ngwely, myfyriaf amdanat yng ngwyliadwriaethau y nos. 7 Canys buost gynhorthwy i mi; am hynny yng nghysgod dy adenydd y gorfoleddaf. 8 Fy enaid a lŷn wrthyt: dy ddeheulaw a’m cynnal. 9 Ond y rhai a geisiant fy enaid i ddistryw, a ânt i iselderau y ddaear. 10 Syrthiant ar fin y cleddyf: rhan llwynogod fyddant. 11 Ond y Brenin a lawenycha yn Nuw: gorfoledda pob un a dyngo iddo ef: eithr caeir genau y rhai a ddywedant gelwydd.
15 Yr allor hefyd, yr hon oedd yn Bethel, a’r uchelfa a wnaethai Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu, ie, yr allor honno a’r uchelfa a ddistrywiodd efe, ac a losgodd yr uchelfa, ac a’i malodd yn llwch, ac a losgodd y llwyn. 16 A Joseia a edrychodd, ac a ganfu feddau, y rhai oedd yno yn y mynydd, ac a anfonodd, ac a gymerth yr esgyrn o’r beddau, ac a’u llosgodd ar yr allor, ac a’i halogodd hi, yn ôl gair yr Arglwydd yr hwn a gyhoeddasai gŵr Duw, yr hwn a bregethasai y geiriau hyn. 17 Yna efe a ddywedodd, Pa deitl yw hwn yr ydwyf fi yn ei weled? A gwŷr y ddinas a ddywedasant wrtho, Bedd gŵr Duw, yr hwn a ddaeth o Jwda, ac a gyhoeddodd y pethau hyn a wnaethost ti i allor Bethel, ydyw. 18 Ac efe a ddywedodd, Gadewch ef yn llonydd: nac ymyrred neb â’i esgyrn ef. Felly yr achubasant ei esgyrn ef, gydag esgyrn y proffwyd a ddaethai o Samaria. 19 Joseia hefyd a dynnodd ymaith holl dai yr uchelfeydd, y rhai oedd yn ninasoedd Samaria, y rhai a wnaethai brenhinoedd Israel i ddigio yr Arglwydd, ac a wnaeth iddynt yn ôl yr holl weithredoedd a wnaethai efe yn Bethel. 20 Ac efe a laddodd holl offeiriaid yr uchelfeydd oedd yno, ar yr allorau, ac a losgodd esgyrn dynion arnynt, ac a ddychwelodd i Jerwsalem.
21 A’r brenin a orchmynnodd i’r holl bobl, gan ddywedyd, Gwnewch Basg i’r Arglwydd eich Duw, fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr y cyfamod hwn. 22 Yn ddiau ni wnaed y fath Basg â hwn, er dyddiau y barnwyr a farnasant Israel, nac yn holl ddyddiau brenhinoedd Israel, na brenhinoedd Jwda. 23 Ac yn y ddeunawfed flwyddyn i frenin Joseia y cynhaliwyd y Pasg hwn i’r Arglwydd yn Jerwsalem.
24 Y swynyddion hefyd, a’r dewiniaid, a’r delwau, a’r eilunod, a’r holl ffieidd‐dra, y rhai a welwyd yng ngwlad Jwda, ac yn Jerwsalem, a dynnodd Joseia ymaith: fel y cyflawnai efe eiriau y gyfraith; y rhai oedd ysgrifenedig yn y llyfr a gafodd Hilceia yr offeiriad yn nhŷ yr Arglwydd. 25 Ac ni bu o’i flaen frenin o’i fath ef, yr hwn a drodd at yr Arglwydd â’i holl galon, ac â’i holl enaid, ac â’i holl egni, yn ôl cwbl o gyfraith Moses; ac ar ei ôl ef ni chyfododd ei fath ef.
11 A rhoddwyd imi gorsen debyg i wialen. A’r angel a safodd, gan ddywedyd, Cyfod, a mesura deml Dduw, a’r allor, a’r rhai sydd yn addoli ynddi. 2 Ond y cyntedd sydd o’r tu allan i’r deml, bwrw allan, ac na fesura ef; oblegid efe a roddwyd i’r Cenhedloedd: a’r ddinas sanctaidd a fathrant hwy ddeufis a deugain. 3 Ac mi a roddaf allu i’m dau dyst, a hwy a broffwydant fil a deucant a thri ugain o ddyddiau wedi ymwisgo â sachliain. 4 Y rhai hyn yw’r ddwy olewydden, a’r ddau ganhwyllbren sydd yn sefyll gerbron Duw’r ddaear. 5 Ac os ewyllysia neb wneuthur niwed iddynt, y mae tân yn myned allan o’u genau hwy, ac yn difetha eu gelynion: ac os ewyllysia neb eu drygu hwynt, fel hyn y mae’n rhaid ei ladd ef. 6 Y mae gan y rhai hyn awdurdod i gau’r nef, fel na lawio hi yn nyddiau eu proffwydoliaeth hwynt: ac awdurdod sydd ganddynt ar y dyfroedd, i’w troi hwynt yn waed, ac i daro’r ddaear â phob pla, cyn fynyched ag y mynnont. 7 A phan ddarfyddo iddynt orffen eu tystiolaeth, y bwystfil, yr hwn sydd yn dyfod allan o’r pwll diwaelod, a ryfela â hwynt, ac a’u gorchfyga hwynt, ac a’u lladd hwynt. 8 A’u cyrff hwynt a orwedd ar heolydd y ddinas fawr, yr hon yn ysbrydol a elwir Sodom a’r Aifft; lle hefyd y croeshoeliwyd ein Harglwydd ni. 9 A’r rhai o’r bobloedd, a’r llwythau, a’r ieithoedd, a’r cenhedloedd, a welant eu cyrff hwynt dridiau a hanner, ac ni oddefant roi eu cyrff hwy mewn beddau. 10 A’r rhai sydd yn trigo ar y ddaear a lawenychant o’u plegid, ac a ymhyfrydant, ac a anfonant roddion i’w gilydd; oblegid y ddau broffwyd hyn oedd yn poeni’r rhai oedd yn trigo ar y ddaear. 11 Ac ar ôl tridiau a hanner, Ysbryd bywyd oddi wrth Dduw a aeth i mewn iddynt hwy, a hwy a safasant ar eu traed; ac ofn mawr a syrthiodd ar y rhai a’u gwelodd hwynt. 12 A hwy a glywsant lef uchel o’r nef yn dywedyd wrthynt, Deuwch i fyny yma. A hwy a aethant i fyny i’r nef mewn cwmwl; a’u gelynion a edrychasant arnynt. 13 Ac yn yr awr honno y bu daeargryn mawr, a degfed ran y ddinas a syrthiodd; a lladdwyd yn y ddaeargryn saith mil o wŷr: a’r lleill a ddychrynasant, ac a roddasant ogoniant i Dduw y nef. 14 Yr ail wae a aeth heibio; wele, y mae’r drydedd wae yn dyfod ar frys.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.