Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
23 Dyma eiriau diwethaf Dafydd. Dywedodd Dafydd mab Jesse, a dywedodd y gŵr a osodwyd yn uchel, eneiniog Duw Jacob, a pheraidd ganiedydd Israel; 2 Ysbryd yr Arglwydd a lefarodd ynof fi, a’i ymadrodd ef oedd ar fy nhafod. 3 Duw Israel a ddywedodd wrthyf fi, Craig Israel a ddywedodd, Bydded llywodraethwr ar ddynion yn gyfiawn, yn llywodraethu mewn ofn Duw: 4 Ac efe a fydd fel y bore‐oleuni, pan gyfodo haul foregwaith heb gymylau: fel eginyn a dyf o’r ddaear, gan lewyrchiad yn ôl glaw. 5 Er nad yw fy nhŷ i felly gyda Duw; eto cyfamod tragwyddol a wnaeth efe â mi, wedi ei luniaethu yn hollol ac yn sicr; canys fy holl iachawdwriaeth, a’m holl ddymuniad yw, er nad yw yn peri iddo flaguro.
6 A’r anwir fyddant oll fel drain wedi eu bwrw heibio: canys mewn llaw nis cymerir hwynt. 7 Ond y gŵr a gyffyrddo â hwynt a ddiffynnir â haearn, ac â phaladr gwaywffon; ac â thân y llosgir hwynt yn eu lle.
Caniad y graddau.
132 O Arglwydd, cofia Dafydd, a’i holl flinder; 2 Y modd y tyngodd efe wrth yr Arglwydd, ac yr addunodd i rymus Dduw Jacob: 3 Ni ddeuaf i fewn pabell fy nhŷ, ni ddringaf ar erchwyn fy ngwely; 4 Ni roddaf gwsg i’m llygaid, na hun i’m hamrantau, 5 Hyd oni chaffwyf le i’r Arglwydd, preswylfod i rymus Dduw Jacob. 6 Wele, clywsom amdani yn Effrata: cawsom hi ym meysydd y coed. 7 Awn i’w bebyll ef; ymgrymwn o flaen ei fainc draed ef. 8 Cyfod, Arglwydd, i’th orffwysfa; ti ac arch dy gadernid. 9 Gwisged dy offeiriaid gyfiawnder; a gorfoledded dy saint. 10 Er mwyn Dafydd dy was, na thro ymaith wyneb dy Eneiniog. 11 Tyngodd yr Arglwydd mewn gwirionedd i Dafydd; ni thry efe oddi wrth hynny; o ffrwyth dy gorff y gosodaf ar dy orseddfainc. 12 Os ceidw dy feibion fy nghyfamod a’m tystiolaeth, y rhai a ddysgwyf iddynt; eu meibion hwythau yn dragywydd a eisteddant ar dy orseddfainc.
13 Canys dewisodd yr Arglwydd Seion: ac a’i chwenychodd yn drigfa iddo ei hun. 14 Dyma fy ngorffwysfa yn dragywydd: yma y trigaf; canys chwenychais hi. 15 Gan fendithio y bendithiaf ei lluniaeth: diwallaf ei thlodion â bara. 16 Ei hoffeiriaid hefyd a wisgaf ag iachawdwriaeth: a’i saint dan ganu a ganant. 17 Yna y paraf i gorn Dafydd flaguro: darperais lamp i’m Heneiniog. 18 Ei elynion ef a wisgaf â chywilydd: arno yntau y blodeua ei goron.
4 Ioan at y saith eglwys sydd yn Asia: Gras fyddo i chwi, a thangnefedd, oddi wrth yr hwn sydd, a’r hwn a fu, a’r hwn sydd ar ddyfod; ac oddi wrth y saith Ysbryd sydd gerbron ei orseddfainc ef; 5 Ac oddi wrth Iesu Grist, yr hwn yw y Tyst ffyddlon, y Cyntaf-anedig o’r meirw, a Thywysog brenhinoedd y ddaear. Iddo ef yr hwn a’n carodd ni, ac a’n golchodd ni oddi wrth ein pechodau yn ei waed ei hun, 6 Ac a’n gwnaeth ni yn frenhinoedd ac yn offeiriaid i Dduw a’i Dad ef; iddo ef y byddo’r gogoniant a’r gallu yn oes oesoedd. Amen. 7 Wele, y mae efe yn dyfod gyda’r cymylau; a phob llygad a’i gwêl ef, ie, y rhai a’i gwanasant ef: a holl lwythau’r ddaear a alarant o’i blegid ef. Felly, Amen. 8 Mi yw Alffa ac Omega, y dechrau a’r diwedd, medd yr Arglwydd, yr hwn sydd, a’r hwn oedd, a’r hwn sydd i ddyfod, yr Hollalluog.
33 Yna Peilat a aeth drachefn i’r dadleudy, ac a alwodd yr Iesu, ac a ddywedodd wrtho, Ai ti yw Brenin yr Iddewon? 34 Yr Iesu a atebodd iddo, Ai ohonot dy hun yr wyt ti yn dywedyd hyn, ai eraill a’i dywedasant i ti amdanaf fi? 35 Peilat a atebodd, Ai Iddew ydwyf fi? Dy genedl dy hun a’r archoffeiriaid a’th draddodasant i mi. Beth a wnaethost ti? 36 Yr Iesu a atebodd, Fy mrenhiniaeth i nid yw o’r byd hwn. Pe o’r byd hwn y byddai fy mrenhiniaeth, fy ngweision i a ymdrechent, fel na’m rhoddid i’r Iddewon: ond yr awron nid yw fy mrenhiniaeth i oddi yma. 37 Yna y dywedodd Peilat wrtho, Wrth hynny ai Brenin wyt ti? Yr Iesu a atebodd, Yr ydwyt ti yn dywedyd mai Brenin wyf fi. Er mwyn hyn y’m ganed, ac er mwyn hyn y deuthum i’r byd, fel y tystiolaethwn i’r gwirionedd. Pob un a’r sydd o’r gwirionedd, sydd yn gwrando fy lleferydd i.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.