Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 132:1-12

Caniad y graddau.

132 O Arglwydd, cofia Dafydd, a’i holl flinder; Y modd y tyngodd efe wrth yr Arglwydd, ac yr addunodd i rymus Dduw Jacob: Ni ddeuaf i fewn pabell fy nhŷ, ni ddringaf ar erchwyn fy ngwely; Ni roddaf gwsg i’m llygaid, na hun i’m hamrantau, Hyd oni chaffwyf le i’r Arglwydd, preswylfod i rymus Dduw Jacob. Wele, clywsom amdani yn Effrata: cawsom hi ym meysydd y coed. Awn i’w bebyll ef; ymgrymwn o flaen ei fainc draed ef. Cyfod, Arglwydd, i’th orffwysfa; ti ac arch dy gadernid. Gwisged dy offeiriaid gyfiawnder; a gorfoledded dy saint. 10 Er mwyn Dafydd dy was, na thro ymaith wyneb dy Eneiniog. 11 Tyngodd yr Arglwydd mewn gwirionedd i Dafydd; ni thry efe oddi wrth hynny; o ffrwyth dy gorff y gosodaf ar dy orseddfainc. 12 Os ceidw dy feibion fy nghyfamod a’m tystiolaeth, y rhai a ddysgwyf iddynt; eu meibion hwythau yn dragywydd a eisteddant ar dy orseddfainc.

Salmau 132:13-18

13 Canys dewisodd yr Arglwydd Seion: ac a’i chwenychodd yn drigfa iddo ei hun. 14 Dyma fy ngorffwysfa yn dragywydd: yma y trigaf; canys chwenychais hi. 15 Gan fendithio y bendithiaf ei lluniaeth: diwallaf ei thlodion â bara. 16 Ei hoffeiriaid hefyd a wisgaf ag iachawdwriaeth: a’i saint dan ganu a ganant. 17 Yna y paraf i gorn Dafydd flaguro: darperais lamp i’m Heneiniog. 18 Ei elynion ef a wisgaf â chywilydd: arno yntau y blodeua ei goron.

2 Brenhinoedd 22:11-20

11 A phan glybu y brenin eiriau llyfr y gyfraith, efe a rwygodd ei ddillad. 12 A’r brenin a orchmynnodd i Hilceia yr offeiriad, ac i Ahicam mab Saffan, ac i Achbor mab Michaia, ac i Saffan yr ysgrifennydd, ac i Asaheia gwas y brenin, gan ddywedyd, 13 Ewch, ymofynnwch â’r Arglwydd drosof fi, a thros y bobl, a thros holl Jwda, am eiriau y llyfr hwn a gafwyd: canys mawr yw llid yr Arglwydd yr hwn a enynnodd i’n herbyn ni, oherwydd na wrandawodd ein tadau ni ar eiriau y llyfr hwn, i wneuthur yn ôl yr hyn oll a ysgrifennwyd o’n plegid ni. 14 Felly Hilceia yr offeiriad, ac Ahicam, ac Achbor, a Saffan, ac Asaheia, a aethant at Hulda y broffwydes, gwraig Salum mab Ticfa, mab Harhas, ceidwad y gwisgoedd: a hi oedd yn trigo yn Jerwsalem yn yr ysgoldy; a hwy a ymddiddanasant â hi.

15 A hi a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel, Dywedwch i’r gŵr a’ch anfonodd chwi ataf fi; 16 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Wele fi yn dwyn drwg ar y lle hwn, ac ar ei drigolion, sef holl eiriau y llyfr a ddarllenodd brenin Jwda: 17 Am iddynt fy ngwrthod i, ac arogldarthu i dduwiau dieithr, i’m digio i â holl waith eu dwylo: am hynny yr ennyn fy llid yn erbyn y lle hwn, ac nis diffoddir ef. 18 Ond wrth frenin Jwda, yr hwn a’ch anfonodd chwi i ymgynghori â’r Arglwydd, fel hyn y dywedwch wrtho ef, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel, Am y geiriau a glywaist ti; 19 Oblegid i’th galon feddalhau, ac i tithau ymostwng o flaen yr Arglwydd, pan glywaist yr hyn a leferais yn erbyn y lle hwn, ac yn erbyn ei drigolion, y byddent yn anghyfannedd ac yn felltith, ac am rwygo ohonot dy ddillad, ac wylo ger fy mron i; minnau hefyd a wrandewais, medd yr Arglwydd. 20 Oherwydd hynny, wele, mi a’th gymeraf di ymaith at dy dadau, a thi a ddygir i’th fedd mewn heddwch, fel na welo dy lygaid yr holl ddrwg yr ydwyf fi yn ei ddwyn ar y fan hon. A hwy a ddygasant air i’r brenin drachefn.

1 Corinthiaid 15:20-28

20 Eithr yn awr Crist a gyfodwyd oddi wrth y meirw, ac a wnaed yn flaenffrwyth y rhai a hunasant. 21 Canys gan fod marwolaeth trwy ddyn, trwy ddyn hefyd y mae atgyfodiad y meirw. 22 Oblegid megis yn Adda y mae pawb yn meirw, felly hefyd yng Nghrist y bywheir pawb. 23 Eithr pob un yn ei drefn ei hun: y blaenffrwyth yw Crist; wedi hynny y rhai ydynt eiddo Crist yn ei ddyfodiad ef. 24 Yna y bydd y diwedd, wedi y rhoddo efe y deyrnas i Dduw a’r Tad: wedi iddo ddileu pob pendefigaeth, a phob awdurdod a nerth. 25 Canys rhaid iddo deyrnasu, hyd oni osodo ei holl elynion dan ei draed. 26 Y gelyn diwethaf a ddinistrir yw yr angau. 27 Canys efe a ddarostyngodd bob peth dan ei draed ef. Eithr pan yw yn dywedyd fod pob peth wedi eu darostwng, amlwg yw mai oddieithr yr hwn a ddarostyngodd bob peth iddo. 28 A phan ddarostynger pob peth iddo, yna y Mab ei hun hefyd a ddarostyngir i’r hwn a ddarostyngodd bob peth iddo ef, fel y byddo Duw oll yn oll.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.