Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 132:1-12

Caniad y graddau.

132 O Arglwydd, cofia Dafydd, a’i holl flinder; Y modd y tyngodd efe wrth yr Arglwydd, ac yr addunodd i rymus Dduw Jacob: Ni ddeuaf i fewn pabell fy nhŷ, ni ddringaf ar erchwyn fy ngwely; Ni roddaf gwsg i’m llygaid, na hun i’m hamrantau, Hyd oni chaffwyf le i’r Arglwydd, preswylfod i rymus Dduw Jacob. Wele, clywsom amdani yn Effrata: cawsom hi ym meysydd y coed. Awn i’w bebyll ef; ymgrymwn o flaen ei fainc draed ef. Cyfod, Arglwydd, i’th orffwysfa; ti ac arch dy gadernid. Gwisged dy offeiriaid gyfiawnder; a gorfoledded dy saint. 10 Er mwyn Dafydd dy was, na thro ymaith wyneb dy Eneiniog. 11 Tyngodd yr Arglwydd mewn gwirionedd i Dafydd; ni thry efe oddi wrth hynny; o ffrwyth dy gorff y gosodaf ar dy orseddfainc. 12 Os ceidw dy feibion fy nghyfamod a’m tystiolaeth, y rhai a ddysgwyf iddynt; eu meibion hwythau yn dragywydd a eisteddant ar dy orseddfainc.

Salmau 132:13-18

13 Canys dewisodd yr Arglwydd Seion: ac a’i chwenychodd yn drigfa iddo ei hun. 14 Dyma fy ngorffwysfa yn dragywydd: yma y trigaf; canys chwenychais hi. 15 Gan fendithio y bendithiaf ei lluniaeth: diwallaf ei thlodion â bara. 16 Ei hoffeiriaid hefyd a wisgaf ag iachawdwriaeth: a’i saint dan ganu a ganant. 17 Yna y paraf i gorn Dafydd flaguro: darperais lamp i’m Heneiniog. 18 Ei elynion ef a wisgaf â chywilydd: arno yntau y blodeua ei goron.

2 Brenhinoedd 22:1-10

22 Mab wyth mlwydd oedd Joseia pan aeth efe yn frenin, ac un flynedd ar ddeg ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Jedida, merch Adaia o Boscath. Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd, ac a rodiodd yn holl ffyrdd Dafydd ei dad, ac ni throdd ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy.

Ac yn y ddeunawfed flwyddyn i frenin Joseia, y brenin a anfonodd Saffan, mab Asaleia, mab Mesulam, yr ysgrifennydd, i dŷ yr Arglwydd, gan ddywedyd, Dos i fyny at Hilceia yr archoffeiriad, fel y cyfrifo efe yr arian a dducpwyd i dŷ yr Arglwydd, y rhai a gasglodd ceidwaid y drws gan y bobl: A rhoddant hwy yn llaw gweithwyr y gwaith, y rhai sydd olygwyr ar dŷ yr Arglwydd; a rhoddant hwy i’r rhai sydd yn gwneuthur y gwaith sydd yn nhŷ yr Arglwydd, i gyweirio agennau y tŷ, I’r seiri coed, ac i’r adeiladwyr, ac i’r seiri maen, ac i brynu coed a cherrig nadd, i atgyweirio’r tŷ. Eto ni chyfrifwyd â hwynt am yr arian a roddwyd yn eu llaw hwynt, am eu bod hwy yn gwneuthur yn ffyddlon.

A Hilceia yr archoffeiriad a ddywedodd wrth Saffan yr ysgrifennydd, Cefais lyfr y gyfraith yn nhŷ yr Arglwydd: a Hilceia a roddodd y llyfr at Saffan, ac efe a’i darllenodd ef. A Saffan yr ysgrifennydd a ddaeth at y brenin, ac a adroddodd y peth i’r brenin, ac a ddywedodd, Dy weision di a gasglasant yr arian a gafwyd yn tŷ, ac a’i rhoddasant yn llaw gweithwyr y gwaith, y rhai sydd olygwyr ar dŷ yr Arglwydd. 10 A Saffan yr ysgrifennydd a fynegodd i’r brenin, gan ddywedyd, Hilceia yr offeiriad a roddodd i mi lyfr: a Saffan a’i darllenodd ef gerbron y brenin.

Actau 7:54-8:1

54 A phan glywsant hwy’r pethau hyn, hwy a ffromasant yn eu calonnau, ac a ysgyrnygasant ddannedd arno. 55 Ac efe, yn gyflawn o’r Ysbryd Glân, a edrychodd yn ddyfal tua’r nef; ac a welodd ogoniant Duw, a’r Iesu yn sefyll ar ddeheulaw Duw. 56 Ac efe a ddywedodd, Wele, mi a welaf y nefoedd yn agored, a Mab y dyn yn sefyll ar ddeheulaw Duw. 57 Yna y gwaeddasant â llef uchel, ac a gaeasant eu clustiau, ac a ruthrasant yn unfryd arno, 58 Ac a’i bwriasant allan o’r ddinas, ac a’i llabyddiasant: a’r tystion a ddodasant eu dillad wrth draed dyn ieuanc a elwid Saul. 59 A hwy a labyddiasant Steffan, ac efe yn galw ar Dduw, ac yn dywedyd, Arglwydd Iesu, derbyn fy ysbryd. 60 Ac efe a ostyngodd ar ei liniau, ac a lefodd â llef uchel, Arglwydd, na ddod y pechod hwn yn eu herbyn. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a hunodd.

A Saul oedd yn cytuno i’w ladd ef. A bu yn y dyddiau hynny erlid mawr ar yr eglwys oedd yn Jerwsalem: a phawb a wasgarwyd ar hyd gwledydd Jwdea a Samaria, ond yr apostolion.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.