Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 3

Salm Dafydd, pan ffodd efe rhag Absalom ei fab.

Arglwydd, mor aml yw fy nhrallodwyr! llawer yw y rhai sydd yn codi i’m herbyn. Llawer yw y rhai sydd yn dywedyd am fy enaid, Nid oes iachawdwriaeth iddo yn ei Dduw. Sela. Ond tydi, Arglwydd, ydwyt darian i mi; fy ngogoniant, a dyrchafydd fy mhen. A’m llef y gelwais ar yr Arglwydd, ac efe a’m clybu o’i fynydd sanctaidd. Sela. Mi a orweddais, ac a gysgais, ac a ddeffroais: canys yr Arglwydd a’m cynhaliodd. Nid ofnaf fyrddiwn o bobl, y rhai o amgylch a ymosodasant i’m herbyn. Cyfod, Arglwydd; achub fi, fy Nuw: canys trewaist fy holl elynion ar gar yr ên; torraist ddannedd yr annuwiolion. Iachawdwriaeth sydd eiddo yr Arglwydd: dy fendith sydd ar dy bobl. Sela.

1 Brenhinoedd 8:22-30

22 A Solomon a safodd o flaen allor yr Arglwydd, yng ngŵydd holl gynulleidfa Israel, ac a estynnodd ei ddwylo tua’r nefoedd: 23 Ac efe a ddywedodd, O Arglwydd Dduw Israel, nid oes Duw fel tydi, yn y nefoedd oddi uchod, nac ar y ddaear oddi isod, yn cadw cyfamod a thrugaredd â’th weision sydd yn rhodio ger dy fron di â’u holl galon; 24 Yr hwn a gedwaist â’th was Dafydd fy nhad yr hyn a leferaist wrtho: traethaist hefyd â’th enau, a chwblheaist â’th law, megis heddiw y mae. 25 Ac yn awr, O Arglwydd Dduw Israel, cadw â’th was Dafydd fy nhad yr hyn a leferaist wrtho, gan ddywedyd, Ni thorrir ymaith oddi wrthyt na byddo gŵr ger fy mron i yn eistedd ar deyrngadair Israel; os dy feibion a gadwant eu ffordd, i rodio ger fy mron i, megis y rhodiaist ti ger fy mron. 26 Ac yn awr, O Dduw Israel, poed gwir, atolwg, fyddo dy air a leferaist wrth dy was Dafydd fy nhad. 27 Ai gwir yw, y preswylia Duw ar y ddaear? wele, y nefoedd, a nefoedd y nefoedd, ni allant dy gynnwys di; pa faint llai y dichon y tŷ hwn a adeiledais i! 28 Eto edrych ar weddi dy was, ac ar ei ddeisyfiad ef, O Arglwydd fy Nuw, i wrando ar y llef a’r weddi y mae dy was yn ei gweddïo heddiw ger dy fron di: 29 Fel y byddo dy lygaid yn agored tua’r tŷ yma nos a dydd, tua’r lle y dywedaist amdano, Fy enw a fydd yno: i wrando ar y weddi a weddïo dy was yn y lle hwn. 30 Gwrando gan hynny ddeisyfiad dy was, a’th bobl Israel, pan weddïant yn y lle hwn: clyw hefyd o le dy breswylfa, sef o’r nefoedd; a phan glywych, maddau.

Marc 13:9-23

Dechreuad gofidiau yw’r pethau hyn. Eithr edrychwch chwi arnoch eich hunain: canys traddodant chwi i’r cynghorau, ac i’r synagogau; chwi a faeddir, ac a ddygir gerbron rhaglawiaid a brenhinoedd o’m hachos i, er tystiolaeth iddynt hwy. 10 Ac y mae yn rhaid yn gyntaf bregethu’r efengyl ymysg yr holl genhedloedd. 11 Ond pan ddygant chwi, a’ch traddodi, na ragofelwch beth a ddywedoch, ac na fyfyriwch: eithr pa beth bynnag a rodder i chwi yn yr awr honno, hynny dywedwch: canys nid chwychwi sydd yn dywedyd, ond yr Ysbryd Glân. 12 A’r brawd a ddyry frawd i farwolaeth, a thad ei blentyn: a phlant a gyfyd yn erbyn eu rhieni, ac a’u rhoddant hwy i farwolaeth. 13 A chwi a fyddwch gas gan bawb er mwyn fy enw i: eithr y neb a barhao hyd y diwedd, hwnnw a fydd cadwedig.

14 Ond pan weloch chwi y ffieidd‐dra anghyfanheddol, yr hwn a ddywedwyd gan Daniel y proffwyd, wedi ei osod lle nis dylid, (y neb a ddarlleno, dealled;) yna y rhai a fyddant yn Jwdea, ffoant i’r mynyddoedd: 15 A’r neb a fyddo ar ben y tŷ, na ddisgynned i’r tŷ, ac nac aed i mewn i gymryd dim o’i dŷ. 16 A’r neb a fyddo yn y maes, na throed yn ei ôl i gymryd ei wisg. 17 Ond gwae’r rhai beichiog, a’r rhai yn rhoi bronnau, yn y dyddiau hynny! 18 Ond gweddïwch na byddo eich fföedigaeth yn y gaeaf. 19 Canya yn y dyddiau hynny y bydd gorthrymder, y cyfryw ni bu’r fath o ddechrau y creaduriaeth a greodd Duw, hyd y pryd hwn, ac ni bydd chwaith. 20 Ac oni bai fod i’r Arglwydd fyrhau y dyddiau, ni chadwesid un cnawd: eithr er mwyn yr etholedigion a etholodd, efe a fyrhaodd y dyddiau. 21 Ac yna os dywed neb wrthych, Wele, llyma y Crist; neu, Wele, acw; na chredwch: 22 Canys gau Gristiau a gau broffwydi a gyfodant, ac a ddangosant arwyddion a rhyfeddodau, i hudo ymaith, pe byddai bosibl, ie, yr etholedigion. 23 Eithr ymogelwch chwi: wele, rhagddywedais i chwi bob peth.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.