Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Semicontinuous)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with sequential stories told across multiple weeks.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 3

Salm Dafydd, pan ffodd efe rhag Absalom ei fab.

Arglwydd, mor aml yw fy nhrallodwyr! llawer yw y rhai sydd yn codi i’m herbyn. Llawer yw y rhai sydd yn dywedyd am fy enaid, Nid oes iachawdwriaeth iddo yn ei Dduw. Sela. Ond tydi, Arglwydd, ydwyt darian i mi; fy ngogoniant, a dyrchafydd fy mhen. A’m llef y gelwais ar yr Arglwydd, ac efe a’m clybu o’i fynydd sanctaidd. Sela. Mi a orweddais, ac a gysgais, ac a ddeffroais: canys yr Arglwydd a’m cynhaliodd. Nid ofnaf fyrddiwn o bobl, y rhai o amgylch a ymosodasant i’m herbyn. Cyfod, Arglwydd; achub fi, fy Nuw: canys trewaist fy holl elynion ar gar yr ên; torraist ddannedd yr annuwiolion. Iachawdwriaeth sydd eiddo yr Arglwydd: dy fendith sydd ar dy bobl. Sela.

1 Samuel 3:19-4:2

19 A chynyddodd Samuel; a’r Arglwydd oedd gydag ef, ac ni adawodd i un o’i eiriau ef syrthio i’r ddaear. 20 A gwybu holl Israel, o Dan hyd Beerseba, mai proffwyd ffyddlon yr Arglwydd oedd Samuel. 21 A’r Arglwydd a ymddangosodd drachefn yn Seilo: canys yr Arglwydd a ymeglurhaodd i Samuel yn Seilo trwy air yr Arglwydd.

A Daeth gair Samuel i holl Israel. Ac Israel a aeth yn erbyn y Philistiaid i ryfel: a gwersyllasant gerllaw Ebeneser: a’r Philistiaid a wersyllasant yn Affec. A’r Philistiaid a ymfyddinasant yn erbyn Israel: a’r gad a ymgyfarfu; a lladdwyd Israel o flaen y Philistiaid: a hwy a laddasant o’r fyddin yn y maes ynghylch pedair mil o wŷr.

Hebreaid 10:26-31

26 Canys os o’n gwirfodd y pechwn, ar ôl derbyn gwybodaeth y gwirionedd, nid oes aberth dros bechodau wedi ei adael mwyach; 27 Eithr rhyw ddisgwyl ofnadwy am farnedigaeth, ac angerdd tân, yr hwn a ddifa’r gwrthwynebwyr. 28 Yr un a ddirmygai gyfraith Moses, a fyddai farw heb drugaredd, dan ddau neu dri o dystion: 29 Pa faint mwy cosbedigaeth, dybygwch chwi, y bernir haeddu o’r hwn a fathrodd Fab Duw, ac a farnodd yn aflan waed y cyfamod, trwy’r hwn y sancteiddiwyd ef, ac a ddifenwodd Ysbryd y gras? 30 Canys nyni a adwaenom y neb a ddywedodd, Myfi biau dial, myfi a dalaf, medd yr Arglwydd. A thrachefn, Yr Arglwydd a farna ei bobl. 31 Peth ofnadwy yw syrthio yn nwylo’r Duw byw.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.