Revised Common Lectionary (Semicontinuous)
113 Molwch yr Arglwydd. Gweision yr Arglwydd, molwch, ie, molwch enw yr Arglwydd. 2 Bendigedig fyddo enw yr Arglwydd o hyn allan ac yn dragywydd. 3 O godiad haul hyd ei fachludiad, moliannus yw enw yr Arglwydd. 4 Uchel yw yr Arglwydd goruwch yr holl genhedloedd; a’i ogoniant sydd goruwch y nefoedd. 5 Pwy sydd fel yr Arglwydd ein Duw ni, yr hwn sydd yn preswylio yn uchel, 6 Yr hwn a ymddarostwng i edrych y pethau yn y nefoedd, ac yn y ddaear? 7 Efe sydd yn codi’r tlawd o’r llwch, ac yn dyrchafu’r anghenus o’r domen, 8 I’w osod gyda phendefigion, ie, gyda phendefigion ei bobl. 9 Yr hwn a wna i’r amhlantadwy gadw tŷ, a bod yn llawen fam plant. Canmolwch yr Arglwydd.
28 A’r llances a redodd, ac a fynegodd yn nhŷ ei mam y pethau hyn.
29 Ac i Rebeca yr oedd brawd, a’i enw Laban: a Laban a redodd at y gŵr allan i’r ffynnon. 30 A phan welodd efe y clustlws, a’r breichledau am ddwylo ei chwaer, a phan glywodd efe eiriau Rebeca ei chwaer yn dywedyd, Fel hyn y dywedodd y gŵr wrthyf fi; yna efe a aeth at y gŵr; ac wele efe yn sefyll gyda’r camelod wrth y ffynnon. 31 Ac efe a ddywedodd, Tyred i mewn, ti fendigedig yr Arglwydd; paham y sefi di allan? canys mi a baratoais y tŷ, a lle i’r camelod.
32 A’r gŵr a aeth i’r tŷ: ac yntau a ryddhaodd y camelod, ac a roddodd wellt ac ebran i’r camelod; a dwfr i olchi ei draed ef, a thraed y dynion oedd gydag ef. 33 A gosodwyd bwyd o’i flaen ef i fwyta; ac efe a ddywedodd, Ni fwytâf hyd oni thraethwyf fy negesau. A dywedodd yntau, Traetha. 34 Ac efe a ddywedodd, Gwas Abraham ydwyf fi. 35 A’r Arglwydd a fendithiodd fy meistr yn ddirfawr, ac efe a gynyddodd: canys rhoddodd iddo ddefaid, a gwartheg, ac arian, ac aur, a gweision, a morynion, a chamelod, ac asynnod. 36 Sara hefyd gwraig fy meistr a ymddûg fab i’m meistr, wedi ei heneiddio hi; ac efe a roddodd i hwnnw yr hyn oll oedd ganddo. 37 A’m meistr a’m tyngodd i, gan ddywedyd, Na chymer wraig i’m mab i o ferched y Canaaneaid, y rhai yr ydwyf yn trigo yn eu tir. 38 Ond ti a ei i dŷ fy nhad, ac at fy nhylwyth, ac a gymeri wraig i’m mab. 39 A dywedais wrth fy meistr, Fe allai na ddaw y wraig ar fy ôl i. 40 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Yr Arglwydd yr hwn y rhodiais ger ei fron, a enfyn ei angel gyda thi, ac a lwydda dy daith di; a thi a gymeri wraig i’m mab i o’m tylwyth, ac o dŷ fy nhad. 41 Yna y byddi rydd oddi wrth fy llw, os ti a ddaw at fy nhylwyth; ac oni roddant i ti, yna y byddi rydd oddi wrth fy llw. 42 A heddiw y deuthum at y ffynnon, ac a ddywedais, Arglwydd Dduw fy meistr Abraham, os ti sydd yr awr hon yn llwyddo fy nhaith, yr hon yr wyf fi yn myned arni:
16 Ac efe a ddaeth i Nasareth, lle y magesid ef: ac yn ôl ei arfer, efe a aeth i’r synagog ar y Saboth, ac a gyfododd i fyny i ddarllen. 17 A rhodded ato lyfr y proffwyd Eseias. Ac wedi iddo agoryd y llyfr, efe a gafodd y lle yr oedd yn ysgrifenedig, 18 Ysbryd yr Arglwydd sydd arnaf fi, oherwydd iddo fy eneinio i; i bregethu i’r tlodion yr anfonodd fi, i iacháu’r drylliedig o galon, i bregethu gollyngdod i’r caethion, a chaffaeliad golwg i’r deillion, i ollwng y rhai ysig mewn rhydd-deb, 19 I bregethu blwyddyn gymeradwy yr Arglwydd. 20 Ac wedi iddo gau’r llyfr, a’i roddi i’r gweinidog, efe a eisteddodd. A llygaid pawb oll yn y synagog oedd yn craffu arno. 21 Ac efe a ddechreuodd ddywedyd wrthynt, Heddiw y cyflawnwyd yr ysgrythur hon yn eich clustiau chwi. 22 Ac yr oedd pawb yn dwyn tystiolaeth iddo, ac yr oeddynt yn rhyfeddu am y geiriau grasusol a ddeuai allan o’i enau ef. A hwy a ddywedasant, Onid hwn yw mab Joseff? 23 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yn hollol y dywedwch y ddihareb hon wrthyf, Y meddyg, iachâ di dy hun: y pethau a glywsom ni eu gwneuthur yng Nghapernaum, gwna yma hefyd yn dy wlad dy hun. 24 Ac efe a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Nad yw un proffwyd yn gymeradwy yn ei wlad ei hun. 25 Eithr mewn gwirionedd meddaf i chwi, Llawer o wragedd gweddwon oedd yn Israel yn nyddiau Eleias, pan gaewyd y nef dair blynedd a chwe mis, fel y bu newyn mawr trwy’r holl dir; 26 Ac nid at yr un ohonynt yr anfonwyd Eleias, ond i Sarepta yn Sidon, at wraig weddw. 27 A llawer o wahangleifion oedd yn Israel yn amser Eliseus y proffwyd; ac ni lanhawyd yr un ohonynt, ond Naaman y Syriad. 28 A’r rhai oll yn y synagog, wrth glywed y pethau hyn, a lanwyd o ddigofaint; 29 Ac a godasant i fyny, ac a’i bwriasant ef allan o’r ddinas, ac a’i dygasant ef hyd ar ael y bryn yr hwn yr oedd eu dinas wedi ei hadeiladu arno, ar fedr ei fwrw ef bendramwnwgl i lawr. 30 Ond efe, gan fyned trwy eu canol hwynt, a aeth ymaith;
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.